Ҵý

Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, gwnaeth dau fyfyriwr MA Addysg Awyr Agored o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyflwyno eu gwaith yng Nghynhadledd Adventure Mind, a bu hynny’n brofiad cofiadwy o ddarganfod a chydweithio. 

Rhein and Rachel at the Adventure Mind Conference

Wedi’i gynnal gan Beyond Bendrigg mewn partneriaeth â Phrifysgol Canol Sir Gaerhirfryn, roedd y digwyddiad yn blatfform bywiog ar gyfer y darpar arweinwyr hyn i gyflwyno eu hymchwil diweddaraf, a chymryd rhan mewn gweithdai dynamig.  Mae eu cyfranogiad yn amlygu’r croestoriad rhwng y byd academaidd a phrofiad ymarferol ym maes esblygol addysg awyr agored, gan ysbrydoli cymheiriaid a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd. 

Mae cynhadledd Adventure Mind yn denu dros gant o weithwyr proffesiynol, ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n ymwneud â llesiant, iechyd meddwl ac antur awyr agored. Trwy gyfres ddynamig o weithdai, prif anerchiadau, gweithgareddau drwy brofiad a chyfleoedd cydweithio amrywiol, nod y digwyddiad blynyddol hwn yw rhannu gwybodaeth er mwyn gwella ac ehangu grym antur. 

O dan y thema “Antur Hygyrch”, canolbwyntiwyd eleni ar archwilio’r rhwystrau, yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer cynllunio, hwyluso ac ymuno ag anturiaethau cynhwysol, gan symud ymlaen yn yr argyhoeddiad bod yr awyr agored i bawb – os ydym yn greadigol,  yn arfer empathi ac yn deg.  

Roedd y digwyddiad hwn yn senario dylanwadol ar gyfer rhannu mewnwelediadau newydd ar arferion awyr agored. Gwnaeth Rhein Mikaelson, myfyriwr MA Addysg Awyr Agored yn PCYDDS, arddangos ei chyflwyniad poster ar “Advantages and Limitations of Green Social Prescribing,” a rhannodd ei chyd-fyfyriwr, Rachel Calvert – Bowman, ei chanfyddiadau mewn prosiect ymchwil diweddar dan y teitl “When we did nature things it was really cool and I liked it”: A Ҵý Using the Mosaic Approach to Explore Children’s Concepts of How the Physical Outdoor School Environment Can Contribute to Their Well-Being”.

Rhein standing in front of her presentation

Adfyfyriodd Rhein ar ei phrofiad drwy gydol y gynhadledd, gan ei disgrifio fel profiad dwys ond ysbrydoledig.

“Roedd rhannu fy ymchwil yn broffesiynol am y tro cyntaf yn wefreiddiol. Roedd y digwyddiad yn cynnwys llu o weithdai gwych, fel sesiwn Belinda Kirk ar broblemau propriodderbyniaeth a gweithdy Sara Murray, ‘Balancing Burnout and Brilliance’, a oedd yn cynnig mewnwelediadau amhrisiadwy ar gyfer fy nhwf personol a phroffesiynol. Mae’r cysylltiadau a ddatblygais, gan gynnwys hyrwyddwyr antur fel Zee Jogi ac arloeswyr iechyd meddwl fel Stu Skinner, eisoes wedi dylanwadu ar f’astudiaethau a’m dyheadau i’r dyfodol.

“At ei gilydd, rwyf wedi elwa cymaint o’r gynhadledd. Mae gennyf rwydweithiau newydd anhygoel a rhai syniadau newydd ar gyfer f’astudiaethau yn y dyfodol, ynghyd â pheth mewnbwn ar fy ymdrechion personol fy hun. Byddwn yn argymell hyn i gymaint o bobl, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn yr awyr agored, y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau antur, unrhyw un mewn lleoliad addysgol neu academaidd yn ogystal ag elusennau, darparwyr gofal iechyd, a mwy.  Mae cymaint i’w rannu a chymaint i’w ddysgu ac rwy’n ddiolchgar am gael bod yn rhan o gynhadledd Adventure Mind eleni!”

Rachel in front of her presentation

Ategodd Rachel y teimladau hyn, gan nodi:

“Roedd Cynhadledd Adventure Mind yn hynod o fuddiol! Gyda dros 100 o fynychwyr o’r sectorau antur, therapi, ymchwil ac addysg, roedd y gallu i rannu profiadau, gwybodaeth a gweledigaeth yn gwneud i mi deimlo’n freintiedig. Des i ar draws cymuned o bobl sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth mewn bywydau bob dydd a gadewais gydag ymdeimlad o bwrpas.”

O ran yr effaith mae’r digwyddiad hwn wedi’i chael ar ei phroffil proffesiynol, ychwanegodd:

“Mae’r gallu i gyflwyno fy ymchwil fy hun wedi caniatáu i mi feithrin hyder yn fy mhroffesiynoldeb ac ennill cysylltiadau gwerthfawr mewn sector rwy’n awyddus i symud iddo ar ôl cwblhau fy ngradd meistr mewn addysg awyr agored yn PCYDDS. Os cewch chi’r cyfle, byddwn i wir yn argymell mynychu cynadleddau fel Adventure Mind!”

Canmolodd Mache Trevino, darlithydd Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS, ei myfyrwyr am eu cyfraniadau gwerthfawr, gan adfyfyrio ar yr amgylchedd dysgu ysgogol y gall cynhadledd ei greu: 

“Mae rhannu a dysgu mewn digwyddiadau fel cynhadledd Adventure Mind yn cynrychioli cyfle pwerus i fyfyrwyr ôl-raddedig fireinio sgiliau ychwanegol, ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol a chaffael mewnwelediadau amhrisiadwy i esblygiad, heriau a thueddiadau ein maes gwybodaeth. Fe wnaeth Rachel a Rhein gynrychioli PCYDDS â balchder gan amlygu yn ein cymuned ymarferwyr y broses twf maent yn ei phrofi drwy’r MA mewn Addysg Awyr Agored wrth ledaenu eu mewnwelediadau a chwestiynau hanfodol sy’n parhau i ysbrydoli ein gwaith.”

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau MA Addysg Awyr Agored, ewch i: Addysg Awyr Agored (Rhan amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon