Ҵý

Skip page header and navigation

Gyda thymor y Nadolig ar ein gwarthaf, a’i normau a disgwyliadau cymdeithasol anochel, ceir ymdeimlad efallai, eleni, yn fwy nag erioed, ein bod yn teimlo ychydig yn ansicr ynghylch sut i ddelio â heriau’r Nadolig. Buom yn trafod y gwrthdaro mewnol hwn (neu anghyseinedd gwybyddol) yn un o’n seminarau Seicoleg ar Waith diweddar yn rhan o raglen BSc Seicoleg PCYDDS ar gampws SA1 y Glannau yn Abertawe, a phenderfynodd grŵp bach o fyfyrwyr yr hoffent helpu i lunio’r blog hwn trwy rannu’r negeseuon hyn y teimlent eu bod yn bwysig i bobl eu deall.

colourful baubles and decorations hanging on the green branches of a Christmas tree.

Mae llawer ohonom yn ddigon ffodus i gael atgofion melys am Nadoligau yn y gorffennol a’r presennol. Er ein bod yn ceisio ail-greu’r atgofion plentyndod trysoredig hynny trwy’r traddodiadau blynyddol o addurno ein tai, rhoi a derbyn anrhegion, gwledda ar ddydd Nadolig/Gŵyl San Steffan, a threulio amser gydag anwyliaid, rydym hefyd yn teimlo’r pwysau seicolegol ac ariannol cynyddol o fodloni’r disgwyliadau hyn. 

Yn ogystal rydym yn byw mewn byd lle rydym yn rhoi’r teledu ymlaen ac yn dod wyneb yn wyneb yn barhaus â gwrthdaro ledled y byd, yr argyfwng ffoaduriaid, digartrefedd, a thrafferthion ariannol.  Gall hyn weithiau achosi i ni gael teimladau croes – a ddylem ni fod yn mwynhau’r Nadolig pan fo cymaint o broblemau yn y byd? A ddylem ni fod yn gwneud mwy i helpu eraill llai ffodus na ni ein hunain pan rydym prin yn cael amser i addurno’r goeden? A yw’n anghywir prynu’r anrhegion mawr drud hynny i anwyliaid pan fydd cymaint o angen yn y byd?   

  • Nid yw Nadolig pawb yr un peth â’ch Nadolig chi

Wrth i chi geisio mwynhau eich Nadolig, byddwch yn ymwybodol bod y Nadolig yn gyfnod o galedi ariannol ac emosiynol i lawer o bobl.  Yn ystod y Nadolig mae pobl sy’n agored i niwed yn debygol o deimlo’n fwy ynysig yn gymdeithasol nag arfer. Mae rhai pobl yn wynebu Nadolig sy’n gysylltiedig ag atgofion gwael neu golled ddiweddar, ac ni all eraill fforddio croesawu’r disgwyliadau cymdeithasol a ddaw yn sgil ein Nadolig modern. Dangoswch gydymdeimlad ac empathi at eraill nad ydynt efallai’n teimlo mor llawen â chi, neu na allant fforddio bod mor llawen â chi, a byddwch yn ymwybodol o effaith y pwysau cymdeithasol ychwanegol hyn ar bobl o gefndiroedd difreintiedig neu heriol.  Gall gair caredig a sgwrs feddylgar ac ystyriol helpu pobl (yn enwedig ein plant a’n pobl ifanc) i deimlo llai o stigma ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

  • Nid ydym i gyd yn ffitio yn yr un blwch rhoddion

Gwyddom o seicoleg ein bod i gyd yn wahanol – mae gennym wahanol gredoau, personoliaethau, cefndiroedd, profiadau, cymhellion a gwerthoedd.  Adeg y Nadolig ceisiwch gofleidio’r gwahaniaethau hyn a gwerthfawrogi’r nifer o ffyrdd gwahanol y gall pobl o’ch cwmpas ddewis “dathlu’r Nadolig” – neu yn wir, i beidio â’i ddathlu o gwbl.  Anwybyddwch y disgwyliadau cymdeithasol a allai achosi straen i chi a gwnewch eich traddodiadau eich hun dros y Nadolig  - gall hyn amrywio o wneud eich addurniadau eich hun, cael picnic ar y traeth ar ddydd Nadolig, neu rannu anrhegion bach syml ond ystyrlon sy’n codi gwên neu atgof. 

  • Rydym i gyd yn gallu mynd ychydig yn ‘cracyrs’ adeg y Nadolig 

I lawer mae’r Nadolig yn cael ei gydnabod yn un o adegau mwyaf anodd a llawn straen y flwyddyn am nifer o resymau.  Os yw’r aduniadau teuluol hynny dros y Nadolig yn achosi straen a phryder yna nodwch rai strategaethau i reoli’r teimladau hyn a byddwch yn barod i amddiffyn eich terfynau sy’n eich helpu i deimlo’n ddiogel.  Peidiwch â theimlo’n euog am gymryd saib angenrheidiol o’r holl baratoadau neu weithgareddau Nadoligaidd a neilltuwch amser am rywfaint o hunanofal hollbwysig i gefnogi eich llesiant eich hun – does neb eisiau treulio Dydd Nadolig gyda Grinch go iawn sydd wedi ymlâdd! Atgoffwch eich hun – does dim rhaid i’r Nadolig fod yn berffaith – os gwnewch chi losgi’r soch mewn sach – nid yw’n ddiwedd y byd!

  • Byddwch yn seren eich Nadolig eich hun

Un o’r heriau mwyaf a wynebwn yn y byd modern yw’r pwysau cymdeithasol a achosir gan y cyfryngau cymdeithasol. Fel bodau dynol mae ynom duedd gynhenid i gymharu ein hunain ag eraill ac i geisio bodloni normau cymdeithasol, ac rydym yn dod fwyfwy wyneb yn wyneb â’r “normau” hyn bellach (yn rhithwir) adeg y Nadolig… gan greu, yn anffodus, fyd lle rydym yn gallu teimlo’n amherffaith, yn dlawd neu’n annheilwng yn barhaus.   Cymerwch reolaeth dros eich cyfryngau cymdeithasol a’r effaith y mae’n ei chael arnoch – amgylchynwch eich hun â modelau rôl a disgwyliadau realistig, cymerwch ran mewn gweithgareddau gyda phobl gefnogol o’r un anian, a rhowch seibiant seicolegol i chi’ch hun o’r pwysau ychwanegol diangen hwnnw ar yr adeg hon o’r flwyddyn. 

Gan holl staff a myfyrwyr y Ganolfan Seicoleg a Chwnsela yn PCYDDS, dymunwn Nadolig hapus i chi i gyd ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio i chi!

Awduron yr erthygl: 

Dr Ceri Phelps, Prif Ddarlithydd a Seicolegydd Iechyd Cofrestredig 

Emma Guy, Myfyrwraig Blwyddyn 1af BSc Seicoleg 

Kayleigh Jones, Myfyrwraig Blwyddyn 1af BSc Seicoleg 

Catrin Picard-Jones, Myfyrwraig Blwyddyn 1af BSc Seicoleg 

Hannah-Lee Rhodes,  Myfyrwraig Blwyddyn 1af BSc Seicoleg


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon