Canolfan Dylan Thomas yn cynnal Ffair y Deml i ddathlu Blwyddyn Tsieineaidd y Neidr
Mae Ysgol Tsieineaidd Athrofa Confucius Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe yn eich gwahodd i ddathliad bywiog yng Nghanolfan Dylan Thomas ddydd Sul 26 Ionawr 2025, i nodi dyfodiad Blwyddyn y Neidr.

Yn seiliedig ar y syniad o ddigwyddiadau’r ‘Miaohui’ neu Ffair y Deml, a gynhelir yn Tsieina o gwmpas adeg y Flwyddyn Newydd, bydd y digwyddiad hwn yn arddangos diwylliant Tsieina trwy gyfres o weithgareddau a gweithdai diddorol. Bydd hyn yn creu profiad cofiadwy ar gyfer y mynychwyr drwy ail-greu awyrgylch bywiog a bwrlwm diwylliannol dathliadau ffair y deml.
Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft o’r cydweithredu cymunedol rhwng athrawon, myfyrwyr a rhieni Ysgol Tsieineaidd Athrofa Confucius PCYDDS yn Abertawe, ynghyd â myfyrwyr rhyngwladol y Brifysgol sy’n wirfoddolwyr.
Gall ymwelwyr ymgolli yn harddwch addurniadol Neuadd Vivian, sy’n cynnwys wal lythrennau â’r symbol ‘Fu’ sy’n symboleiddio ffyniant a bendithion i bawb. Yn ystod y digwyddiad, bydd gwesteion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau fel Ffyn Dweud Ffortiwn, Coeden Ddymuno, Ysgrifennu Cwpledi’r Gwanwyn, Dawns y Ddraig a’r Llew, gweithdy printio bloc, gwneud ffigurynnau clai, ras gyfnewid Gŵyl y Llusernau, a gwisgo i fyny mewn dillad a cholur Hanfu traddodiadol.

Dywedodd Krystyna Krajewska, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Confucius Y Drindod Dewi Sant:
“Mae digwyddiad Gŵyl Wanwyn Ysgol Tsieineaidd Sefydliad Confucius yn addo bod yn lliwgar a chyffrous iawn gyda digon o weithdai a gweithgareddau gwahanol. Yr hyn sy’n gwneud y digwyddiad hwn mor arbennig yw bod rhieni a phlant o’r Ysgol Tsieineaidd hefyd yn rhedeg rhai o’r stondinau ochr yn ochr â’n hathrawon a’n myfyrwyr rhyngwladol PCYDDS, gan ei wneud yn enghraifft wych o ymgysylltu â’r gymuned.
“Mae ein myfyrwyr yn gyffrous iawn am rannu eu diwylliant a’u traddodiadau gyda’r cyhoedd ac yn falch iawn o dderbyn y math hwn o gyfrifoldeb (gyda digon o gefnogaeth a goruchwyliaeth!) Mae’n elfen unigryw o’n Hysgol Tsieinëeg, ein bod yn gallu rhoi’r math hwn o gyfle i’n myfyrwyr. Mae’n golygu llawer i’n Sefydliad Confucius ein bod yn gallu darparu’r math hwn o gyfoethogi diwylliannol i’r gymuned leol!â€
Bydd y drysau ar agor rhwng 10:30 a 14:30 ac mae croeso cynnes i bawb ymuno â’r dathliadau. Mae’r dathliad hwn yn argoeli i fod yn brofiad llawen a rhyngweithiol i bob oedran.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Cindy Chen: c.chen@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476