Cwrs addysgu yn rhoi cyfle i wella sgiliau Cymraeg
I Ffion Cumberpatch arweiniodd cwrs Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) at gyfle i wella ei sgiliau cyfrwng Cymraeg gyda’r bwriad o drosglwyddo’r sgiliau hynny i’w myfyrwyr.

Mae Ffion, sy’n dod o Ferthyr Tudful yn wreiddiol, bellach yn ddarlithwraig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn rheoli rhaglenni sgiliau cyflogadwyedd. Dechreuodd ei thaith yn y Brifysgol pan ymunodd i astudio’r cwrs BA Rheolaeth Gwestai Ryngwladol gan raddio yn 2018. Ers hynny, mae Ffion wedi cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch mewn Sgiliau Cwnsela, y Cwrs AHO a bellach mae’n astudio ar gyfer gradd feistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA).
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Santes Tudful ac Ysgol Gyfun Rhydywaun, nid oedd teulu Ffion yn medru’r Gymraeg a phan adawodd yr ysgol roedd yn teimlo eu bod wedi colli hyder yn yr iaith. Cafodd anogaeth i ymarfer a datblygu ei sgiliau Cymraeg gan ei thiwtor personol ar y cwrs AHO, Marion Phillips.
Meddai Ffion: “Yn ystod ein sesiwn tiwtor personol cyntaf soniais wrth Marion roeddwn i’n arfer siarad Gymraeg, esboniais fy mod wedi colli rhywfaint o’r eirfa a’r hyder i’w defnyddio. Roedd hi’n awyddus iawn i fy helpu i ymarfer a datblygu fy Nghymraeg a thrwy gydol ein sesiynau es i o siarad Saesneg yn bennaf i siarad Cymraeg yn bennaf.
“Roeddwn yn gallu cofio geiriau nad oeddwn wedi’u defnyddio ers blynyddoedd yn gyflym iawn. Felly er nad oedd hyn yn rhan uniongyrchol o’r cwrs, gwelodd Marion gyfle i fy helpu i ddatblygu ymhellach a chefnogodd fi drwy’r broses”.
Roedd adennill ei sgiliau yn y Gymraeg yn un o’r buddion o astudio’r cwrs AHO yn ôl Ffion. Meddai:
“Rwy wedi bod yn darlithio yn y Drindod Dewi Sant am ymron i bedair blynedd ac fel ran o’m datblygiad proffesiynol fe benderfynais wneud y cwrs Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET), er mwy gwella fy sgiliau addysgu. Roeddwn i eisiau dysgu mwy am ddulliau darlithio, sut i reoli dosbarth, sut i helpu myfyrwyr oedd angen cymorth ychwanegol a hefyd ddeall mwy am addysgeg”.
“Uchafbwyntiau’r cwrs oedd y darlithwyr, maen nhw’n hynod wybodus, profiadol a chefnogol. Roedd y modiwlau yn berthnasol, yn ddiddorol ac yn rhoi’r cyfle i herio’ch hun a rhoi cynnig ar bethau newydd o fewn y dosbarth. Roedd cwrdd â myfyrwyr AHO eraill a oedd yn addysgu mewn colegau a phrifysgolion eraill hefyd yn ddiddorol - roeddem yn gallu cymharu cyflogwyr, polisïau ac anghenion myfyrwyr.
Roedd y cyfarfodydd tiwtor personol gyda Marion Philips, sydd hefyd yn gweithio i Estyn, yn wirioneddol wych ac efallai na fyddwn i wedi gallu ymdopi ar adegau hebddi hi a’r darlithwyr eraill”.
Un o’r heriau mwyaf i Ffion oedd amser oherwydd ei bod yn gweithio’n llawn amser fel darlithydd tra’n astudio’n rhan amser. Meddai:
“Mae’r cwrs yn llawn iawn, fel y dylai fod, ond yn wahanol i gymwysterau mwy damcaniaethol eraill mae’r rhaglen yn gofyn i chi fynd i wneud pethau cyn y gallwch ysgrifennu aseiniad amdano. Er enghraifft, rhowch gynnig ar dechnoleg newydd yn yr ystafell ddosbarth, gweithredwch dechneg rheoli ystafell ddosbarth newydd, adolygwch hygyrchedd eich deunyddiau addysgu. Fodd bynnag, mae hyn i gyd yn angenrheidiol i greu athrawon gwych a dyna mae’r cwrs hwn yn wneud - mae’n creu athrawon, addysgwyr a darlithwyr gwych.
“Mae’r cwrs hwn wedi fy ngwneud yn fwy cyflogadwy, mae wedi rhoi pecyn cymorth i mi y gallaf ei ddefnyddio ym mhob ystafell ddosbarth y byddaf yn mentro iddi, ac yn bennaf oll, mewn amgylchedd sy’n gallu newid yn gyflym iawn, mae wedi rhoi’r hyder i mi wybod y gallaf ymdopi â bynnag a ddaw.
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sy’n addysgu mewn addysg ôl-16 neu sydd eisiau gwneud. Roeddwn wedi bod yn addysgu am ymron i ddwy flynedd cyn i mi wneud y cymhwyster hwn ac rwyf wedi dysgu llwyth. Mae fy addysgu wedi newid llawer; rwyf wedi newid llawer. Fyddwn i ddim yn y darlithydd ydw i heddiw heb y cwrs hwn.
“Rwy’n teimlo’n gartrefol yma yn y brifysgol hon ac rydw i wir yn credu yn yr hyn y mae’n ei gynrychioli. Rwyf wrth fy modd yn darlithio ac rwy’n caru PCYDDS felly gallaf weld fy hun yma am rai blynyddoedd. Tra yma, rwy’n dal i ddysgu, yn dal i herio fy hun yn fy addysgu ac yn dal i geisio gwneud gwahaniaeth i gymaint o fyfyrwyr â phosib - a nawr rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn fy ngallu i sgwrsio â myfyrwyr yn Gymraeg hefyd!”
Meddai Marion Phillips:
“Cydnabyddir yn eang y gall y defnydd o’r Gymraeg ostwng yn sylweddol pan fydd dysgwyr yn gadael addysg Gymraeg statudol ac yn symud i’r sector ôl-16, felly mae datblygu ymarferwyr ôl-16 sy’n teimlo’n hyderus yn defnyddio eu sgiliau Cymraeg ac sy’n gallu modelu arfer da dwyieithog cadarnhaol yn y sector hwn yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdano. Mae hyder yn eu dewisiadau iaith yn hanfodol i gyflawni hyn, ar ba bynnag lefel, ac mae creu amgylcheddau diogel lle mae Ffion ac eraill yn cael y cyfle i gymryd risgiau gan ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant yma.
“Mae gwelliant wedi dod o fodelu arferion da i’n dysgwyr yn gyson a hyrwyddo ymarfer yn organig heb ofn wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae datblygiad sylweddol Ffion dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dyst i’w hymroddiad i ymgysylltu mor gadarnhaol â’r broses hon, profiad a fydd gobeithio ei harfogi’n dda wrth iddi symud ymlaen i ddod yn fodel rôl iaith cadarnhaol i’w dysgwyr ei hun. Ein dymuniadau gorau iddi!”
Ychwanegodd Caroline Lewis, Pennaeth dros dro y Ganolfan Dysgu ac Arweinyddiaeth Broffesiynol:
“Mae’r rhaglen TAR (PCET) yn falch o gefnogi ymarferwyr uchelgeisiol wrth iddynt adeiladu eu gyrfaoedd o fewn y sector addysg ôl-orfodol modern yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n myfyrwyr i adeiladu hyder, gwella sgiliau, a chefnogi cyflogadwyedd, i gyd wrth feithrin ymarfer proffesiynol cryf, myfyriol. Mae wedi bod yn bleser gweld Ffion yn ffynnu yn ystod ei hamser gyda ni, yn enwedig trwy’r gefnogaeth a’r arweiniad arbenigol a ddarperir gan Marion. Rydym yn hynod falch o gynnydd Ffion ac yn falch iawn o’i gweld yn eiriolwr mor gadarnhaol i’r rhaglen a’r Drindod Dewi Sant”.

Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;01267&Բ;676790