Cyflwyno Ymchwil mewn Addysg Plentyndod Cynnar yng Nghynhadledd Ryngwladol EECERA yn Brighton.
Cynhaliodd Cymdeithas Ymchwil Addysg Plentyndod Cynnar Ewrop (EECERA) ei chynhadledd flynyddol yn Brighton, lle daeth ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop ynghyd i gyflwyno’r datblygiadau diweddaraf mewn addysg plentyndod cynnar. Ymhlith y cyfranwyr roedd yr Uwch Ddarlithydd Blynyddoedd Cynnar, Glenda Tinney o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Mae cynhadledd EECERA yn ddigwyddiad rhyngwladol cydnabyddedig sy’n dwyn ynghyd arbenigwyr ym maes ymchwil addysg plentyndod cynnar o bob rhan o’r byd. Mae’n gweithredu fel platfform ar gyfer cyfnewid syniadau, canfyddiadau ymchwil ac arferion arloesol yn y maes.
Meddai Glenda:
“Roedd yn gyfle arbennig i fynychu cynhadledd EECERA, yn enwedig gan fod y thema eleni’n gysylltiedig â chynaliadwyedd, maes rydw i wedi bod yn darlithio ynddo ers dros 20 mlynedd. Roedd gwrando ar arbenigwyr byd-eang yn y maes hwn yn ystod y prif gyflwyniadau yn gyfle gwych i adfyfyrio ar syniadau a dulliau newydd. Roedd hefyd yn bwysig iawn i allu gwrando ar ymchwil a datblygiadau polisi newydd ar draws y blynyddoedd cynnar a dathlu cyfraniad sylweddol arfer y blynyddoedd cynnar i gymdeithas a chynaliadwyedd hirdymor a gwerthoedd dinasyddiaeth. Roedd hefyd yn bwysig darparu mewnwelediadau o Gymru o ran yr arloesi sy’n gysylltiedig â chwricwlwm y blynyddoedd cynnar a dinasyddiaeth foesegol mewn fforwm rhyngwladol.”
Rhoddodd Glenda gyflwyniad ar gynaliadwyedd mewn addysg, gan bwysleisio dulliau arloesol o ddenu diddordeb myfyrwyr yn yr amgylchedd an-ddynol. Roedd yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar sut mae myfyrwyr addysg uwch yn ymgysylltu â chynaliadwyedd gan archwilio’r amgylchedd naturiol trwy brofiadau ymarferol a ddewiswyd ganddyn nhw. Gan dynnu ar gysyniadau o ôl-ddyneiddiaeth a damcaniaethau ecosentrig, mae’r ymchwil yn archwilio sut mae myfyrwyr yn datblygu cysylltiadau dyfnach â’r byd an-ddynol, gan gyfrannu at y disgwrs cynyddol ar gynaliadwyedd mewn addysg plentyndod cynnar.
Roedd ei hastudiaeth yn pwysleisio “addysgeg o gysylltu” lle mae dysgwyr yn ymgysylltu â natur mewn ffordd ystyrlon ac adfyfyriol, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i ddyfodol addysg ar gyfer cynaliadwyedd.
Meddai:
“Roedd fy ymchwil yn gysylltiedig â myfyrdodau ar ddatblygu addysg blynyddoedd cynnar ar gyfer darpariaeth gynaliadwyedd yn y Drindod Dewi Sant, gyda ffocws arbennig ar addysgeg archwiliol lle mae myfyrwyr yn cysylltu â’r byd o’u cwmpas trwy ecoleg, celf, barddoniaeth, ffotograffiaeth a stori. Archwiliwyd dull o’r fath yn nhermau cyfleoedd i ymwneud â chynaliadwyedd ar lefel bersonol yn ogystal ag fel modd o annog arfer cyfannol o’r fath gyda phlant ifanc. Cefais gyfle hefyd i gyflwyno canfyddiadau cychwynnol o brosiect arall gyda chyd-ymchwilydd, Dawn Jones. Mae’r ymchwil hwn yn amlinellu datblygiad llyfrau lloffion fel offeryn ymchwil gweithredu posibl ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar.”
Yn ogystal cyflwynodd Glenda ymchwil ar y cyd gyda chyn-gydweithiwr iddi yn y Drindod Dewi Sant, Dr Dawn Jones (bellach o Brifysgol Wolverhampton) ar adfyfyrio beirniadol ac ymchwil gweithredu mewn lleoliadau plentyndod cynnar.
Edrychai’r ymchwil hwn ar y modd mae creu llyfrau lloffion gan blant yn hyrwyddo mewnwelediadau newydd a dysgu cydweithredol yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r astudiaeth hon, sy’n seiliedig ar yr “addysgeg o wrando” a ysbrydolwyd gan ddull Reggio Emilia, yn ceisio amlygu sut y gall llyfrau lloffion feithrin ymchwil gweithredu o fewn arferion addysgol. Roedd hefyd yn ystyried sut y gall plant weithredu fel cyfranogwyr gweithredol yn y broses ddysgu, gan herio dynameg pŵer traddodiadol rhwng oedolion a phlant mewn lleoliadau addysgol.
Bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn cyfrannu at lyfr sydd ar y gweill ar y pwnc, gyda llyfrau lloffion yn thema ganolog ar gyfer addysgeg adfyfyriol.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrsiau Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS ewch i: Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk) neu cysylltwch â Glenda Tinney g.tinney@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476