Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI yn dyfarnu £234,138 i Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI wedi dyfarnu £234,138 i Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar gyfer y prosiect ‘Cymro cyntaf y Dadeni Dysg?: Gutun Owain a diwylliant ysgolheigaidd y gogledd-ddwyrain yn yr Oesoedd Canol diweddar’.

Bwriad y prosiect newydd a chyffrous hwn, a fydd yn cychwyn ar 1 Mai 2025, yw cyhoeddi golygiadau newydd o gerddi gan y bardd a’r ysgolhaig Gutun Owain, ac archwilio ei gyfraniad i ddysg ei ardal ar drothwy’r Dadeni Dysg.
Roedd Gutun Owain yn un o feirdd amlycaf yr Oesoedd Canol diweddar, ac yn ysgrifydd ac ysgolhaig a ymddiddorai mewn sawl maes gan gynnwys hanes, achyddiaeth a gramadegau barddol. Yn Nudlust, ger Croesoswallt, yr oedd ei gartref, ac roedd yn rhan o rwydwaith o noddwyr ac ysgolheigion eraill a estynnai ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ac a oedd yn cynnwys nid yn unig beirdd ac uchelwyr lleyg dysgedig ond hefyd abadau Sistersaidd Glyn-y-groes a Dinas Basing.
Mae ysgolheictod Gutun a’i ddylanwad parhaol yn cael ei gydnabod fwyfwy gan ysgolheigion modern, ond nid yw ei farddoniaeth wedi cael rhyw lawer o sylw yn ddiweddar. Nid gweniaith yn unig a geir yn ei gerddi i noddwyr megis yr Abad Tomas Pennant o Ddinas Basing a Threforiaid Bryncunallt a Phentrecynfrig (ger y Waun): datgelir llawer am eu bywydau, eu diddordebau a’u golwg ar y byd. Ochr arall y geiniog, ond yr un mor ddadlennol, yw ei gerddi dychan i feirdd eraill. Bydd y prosiect yn cyflwyno’r cerddi pwysig hyn i gynulleidfa eang am y tro cyntaf, gan amlygu ac archwilio natur ysgolheictod Gutun hefyd. Sut y cyfrannodd ef a’i rwydwaith at baratoi’r tir ar gyfer ffyniant diweddarach dysg y Dadeni yng ngogledd-ddwyrain Cymru? Ac a ddylid ystyried Gutun Owain ei hun yn Gymro cyntaf y Dadeni, yn rhinwedd ei ddiddordebau eang, ei hoffter o ysgolheictod, a’i ddulliau gweithio?

Yn ôl arweinydd y prosiect, Dr Jenny Day, “Mae Gutun Owain yn ffigur hynod bwysig a dylanwadol yn nhirwedd lenyddol Cymru’r Oesoedd Cymru ac rydym wrth ein boddau yn cael y cyfle i fynd i’r afael â’i gyfraniad i hanes llên a dysg drwy gyfrwng ei farddoniaeth. Mae cyflwyno ei gerddi i gynulleidfa ehangach yn un o’n prif amcanion ac fe fydd ein holl olygiadau a ffrwyth y prosiect ar gael ar lein. Edrychwn ymlaen hefyd at gydweithio â’r Eisteddfod Genedlaethol a Cadw i amlygu pwysigrwydd Gutun yng nghyd-destun ehangach diwylliant llenyddol y gogledd-ddwyrain.”
Meddai Susan Mason, Pennaeth Dysgu Gydol Oes Cadw: “Mae Cadw yn falch iawn o allu cefnogi’r gwaith ymchwil pwysig hwn ar ffigwr mor arwyddocaol yn hanes diwylliannol a llenyddol Cymru. Bydd y prosiect hefyd yn cyfoethogi ein gwybodaeth am y cymeriadau hynny a oedd yn rhan o’n tirwedd artistig a hanesyddol.”
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru: “Dyma newyddion gwych ac amserol wrth i ni agosáu at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025. Mae’r prosiect hwn yn bwysig i ni gan ei fod yn amlygu cyfraniad arbennig y gogledd-ddwyrain at ein treftadaeth hanesyddol ac mae’n allweddol fod cenedlaethau heddiw yn ymwybodol o’r etifeddiaeth ac yn ymfalchïo ynddi.”
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Hoffwn longyfarch Dr Jenny Day yn wresog iawn ar y cais llwyddiannus hwn i gronfa Catalydd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Bydd y prosiect yn arloesi yn ei hawl ei hun ac yn adeiladu ar sylfeini’r Ganolfan, ac felly’n amserol wrth i ni ddathlu ein deugain mlwyddiant yn 2025. Dyma dîm campus o ymchwilwyr a phartneriaid i wireddu’r gwaith pwysig hwn.”
Meddai’r Athro Elwen Evans KC, Is-ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Dyma newyddion gwych i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd o fod y cyntaf yng Nghymru, ar draws pob disgyblaeth, i lwyddo gyda’r gronfa newydd hon. Pob dymuniad da i Dr Jenny Day a’r tîm gyda’r prosiect ymchwil arwyddocaol hwn.”
Cynhelir y prosiect rhwng 1 Mai 2025 a 31 Gorffennaf 2027, a bydd y tîm yn cynnwys Dr Jenny Day, Dr Gruffudd Antur a Dr Martin Crampin, gyda’r Athro Ann Parry Owen yn ymgynghorydd.
Rydym yn cydnabod yn ddiolchgar nawdd yr AHRC, rhan o Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI), ar gyfer y gwaith.

Nodiadau i Olygyddion
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Mae’r Ganolfan yn dathlu ei deugain oed eleni a chynhelir cynhadledd ryngwladol i nodi hynny yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 17-19 Medi 2025.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru, a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021:
4. Ynghylch Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau:
Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI yn ariannu ymchwilwyr annibynnol rhagorol rhyngwladol ar draws ystod lawn y celfyddydau a’r dyniaethau: hanes, archaeoleg, cynnwys digidol, athroniaeth, ieithoedd a llenyddiaeth, dylunio, treftadaeth, astudiaethau ardal, y celfyddydau creadigol a pherfformio, a llawer mwy. Mae ansawdd ac ystod yr ymchwil a gefnogir gan AHRC yn gweithio er budd cymdeithas a diwylliant y DU ac yn cyfrannu at lwyddiant economaidd y DU ac at ddiwylliant a lles cymdeithasau ledled y byd.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076