Ҵý

Skip page header and navigation

Mae tri addysgwr blaenllaw, dau o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac un o’r Brifysgol Agored, yn archwilio cyflwr Addysg Plentyndod Cynnar yng Nghymru mewn erthygl sydd newydd ei chyhoeddi ar gyfer y Wales Journal of Education. 

Yr erthygl “Early Childhood Education in Wales:  Policy, Promises and Practice Realities” gan Dr. Sarah Stewart, Natalie MacDonald, a Dr. Jane Waters-Davies yn nodi dwy agwedd hollbwysig:  profiadau addysgol dameidiog i blant ifanc a’r bwlch rhwng polisi ac ymarfer o safbwynt hawliau plant.  

Mae Cyfarwyddwr Academaidd Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg PCYDDS, Natalie Macdonald yn myfyrio ar y materion a drafodwyd: 

A portrait photo of Natalie Macdonald

Mae Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPG) yng Nghymru ar groesffordd. Mae’n ceisio mynd i’r afael â’r heriau deuol o ddod â pholisi addysg a gofal ynghyd yn ogystal â’r bwlch rhwng y polisi a’r ymarfer o gyflawni hawliau plant.  Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn amlwg yn ei fframwaith polisi cadarn.  Fodd bynnag, mae’r realiti ar lawr gwlad yn adrodd stori wahanol, sydd wedi’i nodi gan anghysondebau a darnio sy’n bygwth cydlyniad ac effeithlonrwydd addysg y blynyddoedd cynnar. 

Yr Addewid o Bolisi 

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd arwyddocaol wrth wreiddio hawliau plant yn ei pholisïau addysg.  Mae’r Cwricwlwm i Gymru, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer plant rhwng tair ac un ar bymtheg oed, yn dyst i’r ymrwymiad hwn.  Mae’n pwysleisio dull sy’n seiliedig ar hawliau, gan anelu at sicrhau bod pob plentyn yn profi eu hawliau ac yn derbyn dechrau addawol mewn bywyd.  Roedd Fframwaith Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen (CS) a gyflwynwyd ar ôl datganoli, yn  gam arloesol tuag at ddull cyfannol i addysg y blynyddoedd cynnar sy’n canolbwyntio ar y plentyn. 

Cynlluniwyd fframwaith y Cyfnod Sylfaen i ddarparu addysg i blant rhwng tair a saith oed, gan hyrwyddo dull addysgeg ymatebol.  Mae’r fframwaith hon wedi esblygu i’r canllawiau Galluogi Dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru sy’n parhau i bwysleisio pwysigrwydd hawliau plant ac addysgeg gyfranogol.  Adlewyrchir safiad rhagweithiol Llywodraeth Cymru ar hawliau plant ymhellach mewn polisïau megis “Gweithredu’r Hawliau”, sy’n trosi erthyglau’r CCUHP yn nodau polisi eang, gan gynnwys ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu a dechrau da mewn bywyd. 

Realiti Darnio

Er gwaethaf y polisïau cadarn hyn, mae profiadau addysgol plant tair i bedair oed yng Nghymru yn gynyddol dameidiog.  Mae’r darnio hwn yn deillio o’r rhaniad rhwng darpariaeth addysgol a gynhelir a darpariaeth addysg nas cynhelir.  Mae darpariaeth a gynhelir, fel arfer mewn ysgolion, yn cael ei llywodraethu gan un set o bolisïau a rheoliadau, tra bod darpariaeth nas cynhelir, megis meithrinfeydd dydd a gwarchodwyr plant yn cael ei llywodraethu gan un arall.  Mae’r system ddeuol hon yn creu anghysondebau rhwng profiadau addysgol plant ifanc. 

Ymdrechion i bontio’r rhaniad hwn yw’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir Nas Cynhelir a chanllawiau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae natur anstatudol y Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir Nas Cynhelir yn golygu nad yw ei weithrediad yn unffurf ar draws pob lleoliad.  Mae hyn yn arwain at ddarpariaeth addysgol amrywiol i blant tair a phedair oed, yn dibynnu a ydynt mewn lleoliadau a gynhelir neu leoliadau nas cynhelir.  Ar ben hynny, gallai heriau wrth ddehongli’r polisïau hyn (fel yr archwiliwyd gan A MacDonald (ar y gweill)) ddwysau’r broblem hon. 

Mae’r anghysondeb yn cael ei waethygu ymhellach gan y gwahanol gyfundrefnau arolygu ar gyfer darpariaethau a gynhelir a darpariaethau nas cynhelir.  Mae Estyn, corff arolygiaeth addysg  Cymru yn arolygu lleoliadau a gynhelir, tra bod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn arolygu lleoliadau nas cynhelir.  Gall y system arolygu ddeuol hon arwain at wahaniaethau yn ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth addysgol er gwaethaf y camau a gymerwyd i gydweithio drwy’r fframwaith arolygu ar y cyd. 

Y Bwlch rhwng Polisi ac Ymarfer

Mae’r bwlch rhwng polisi ac ymarfer yn her arwyddocaol arall.  Tra bod y Cwricwlwm i Gymru a pholisïau eraill yn pwysleisio dull cyfrannol ar gyfer addysg sy’n seiliedig ar hawliau, fel arfer, nid yw’r realiti yn yr ystafell ddosbarth yn cwrdd â’r disgwyliadau hyn. Mae astudiaethau empeiraidd, gan gynnwys y rhai gan Stewart (2024) yn nodi bod dealltwriaeth a gweithrediad athrawon ar hawliau plant yn anghyson.  Mae llawer o athrawon yn hyderus i addysgu “am” hawliau ond yn llai hyderus i addysgu “drwy” neu “dros” hawliau sy’n gofyn am ddull addysgegol mwy cyfranogol. 

Mae’r bwlch hwn yn rhannol o ganlyniad i ddiffyg eglurder mewn canllawiau polisi a’r dehongliadau gwahanol ymhlith addysgwyr.  Mae ymarferion athrawon yn cael eu dylanwadu yn aml gan eu gwerthoedd a’u credoau eu hunain am alluoged a chymhwysedd plant.  O ganlyniad nid yw’r broses o ddeddfu hawliau plant mewn addysg gynnar bob amser yn gyson nac yn ystyrlon. 

Goblygiadau a’r Ffordd Ymlaen

Mae gan ddarnio a’r bwlch rhwng polisi ac ymarfer mewn Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru oblygiadau sylweddol i blant ifanc, yn enwedig y rhai sy’n wynebu heriau strwythurol a phersonol ychwanegol.  Gall yr anghysondeb mewn darpariaeth addysgol arwain at gyfleoedd dysgu a chanlyniadau anghyfartal.  Fodd bynnag, gall y bwlch rhwng polisi ac ymarfer danseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn yn profi eu hawliau ac yn derbyn dechrau addawol mewn bywyd. 

Mae angen dull mwy integredig a chydlynol i addysg plentyndod cynnar er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn.  Mae hyn yn cynnwys alinio’r polisïau ac ymarferion darpariaethau a gynhelir a darpariaethau nas cynhelir, gan sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru’n cael ei weithredu’n gyson ar draws pob lleoliad, a darparu datblygiad proffesiynol wedi’i dargedu i addysgwyr.   Gall mesurau o’r fath helpu i bontio’r bwlch rhwng polisi ac ymarfer a lleihau darnio, gan sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn addysg gynnar yn seiliedig ar hawliau o safon uchel. 

I gloi, tra bod Cymru wedi gwneud cynnydd clodwiw yn Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar o fewn ei pholisïau, mae’r realiti ar lawr gwlad yn datgelu heriau arwyddocaol.  Mae mynd i’r afael â’r darnio a’r bwlch rhwng polisi ac ymarfer yn hanfodol i wireddu addewid Cwricwlwm i Gymru a sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg gynnar gyson o safon uchel. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon