Dathlu Crefft, Medrusrwydd ac Arloesi yn Adeilad Alex
Mae Adeilad Alex yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, yn falch o gynnal arddangosfa sy’n dathlu celfyddyd, medrusrwydd ac arloesedd ei staff technegol ymroddedig. Mae’r arddangosfa unigryw hon yn amlygu talentau eithriadol unigolion sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi myfyrwyr a siapio amgylchedd creadigol y coleg.

Yr Artistiaid sy’n Arddangos:
- Colin Telford
- Eugene Battini
- Adam Shelton
- Owen Luetchford
- Stacey Poultney
- Katie Fawcett
- Natasha John
Mae’r arddangosfa hon yn amlygu ystod amrywiol o ddisgyblaethau a deunyddiau, gan ddangos ehangder yr arbenigedd a geir yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae’r gwaith sydd i’w weld yn cynnwys powlenni pren wedi’u turnio a byrddau torri wedi’u gwneud o bren ffawydd, tîc, derw, tresi aur a masarn wedi’u hailgylchu, gan arddangos celfyddydwaith gynaliadwy.
Mae gwaith gwydr arloesol, yn cynnwys castio, llathru â thân, bondio uwchfioled, bondio mewn odyn, tanio mewn odyn, ffurfio â fflam a sgrin-brintio, hefyd i’w weld ynghyd â darlunio digidol ac analog, gan amlygu’r cyfuniad o dechnegau traddodiadol a chyfoes.

Mae pob darn yn dyst i fanylder, angerdd a medrusrwydd, gan adlewyrchu’r cyfleusterau o’r radd flaenaf a’r adnoddau creadigol sydd ar gael yng Ngholeg Celf Abertawe.
Meddai Katherine Clewett, Rheolwr Rhaglen y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen: Mae’r arddangosfa hon yn deyrnged i’n staff technegol, yn ddathliad o’u gwaith, ac yn ein hatgoffa bod ymwneud â chrefft yn esblygu’n barhaus, bob amser yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl.
“Mae’r arddangosfa nodedig hon nid yn unig yn anrhydeddu doniau tîm technegol Coleg Celf Abertawe ond hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad y Brifysgol i gelfyddyd, creadigrwydd ac arbrofi.”
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau PCYDDS:“Trwy ddod â’r gweithiau hyn i’r amlwg, mae’r arddangosfa’n ceisio ysbrydoli myfyrwyr ac ymwelwyr, gan eu hannog i archwilio technegau, deunyddiau a phosibiliadau creadigol newydd. Mae’r ystod amrywiol o sgiliau a arddangosir yn adlewyrchu’r ysbryd o arloesi a chydweithio sy’n ffynnu yng Ngholeg Celf Abertawe.”
Mae’r arddangosfa’n agored i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd, gan gynnig cyfle unigryw i ymgysylltu â’r prosesau creadigol sy’n gyrru arloesedd yng Ngholeg Celf Abertawe.

Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071