Dathlu cyflawniadau ein Prentisiaethau Gradd
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru, sy’n cael ei chynnal rhwng 10 ac 16 Chwefror 2025, yn ddathliad blynyddol o brentisiaethau a’r gwerth y maent yn ei gynnig i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi ehangach Cymru. Wrth ddod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr ynghyd, mae’r Wythnos Prentisiaethau yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau gyfan i hyrwyddo’r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ledled Cymru.
Yma, mae Bridget Moseley, Pennaeth Uned Prentisiaethau’r Brifysgol, yn adfyfyrio ar ymagwedd PCYDDS at raglenni Prentisiaeth.

“Mae’r Brifysgol bob amser wedi bod yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i arloesi, felly yn sgil ein gallu i weithio ar draws ffiniau traddodiadol roedd gennym y llwyfan perffaith i groesawu datblygiad Gradd-brentisiaethau, naw mlynedd yn ôl. Trwy barhau i weithio’n agos gyda chyflogwyr rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, rydym wedi gallu creu rhaglenni mewn ystod o sectorau i uwchsgilio, ailsgilio a datblygu’r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y sectorau hynny.
Bellach mae’r Brifysgol yn darparu prentisiaethau yn y Gyfraith (CILEX); Rheolaeth Adnoddau Dynol (CIPD); Peirianneg, yn cynnwys Systemau Electronig Ymgorfforedig, Peirianneg Drydanol ac Electronig, a Pheirianneg Systemau Gweithgynhyrchu; Logisteg a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi; Gwydr Lliw; Rheolaeth Adeiladu; Mesur Meintiau; Ymarfer Cynorthwyo Therapi; Gwyddor Data, Profiad Defnyddiwr ac Archaeoleg.
Fel prifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth rydym wedi ymroi i sicrhau bod ein prentisiaid, sydd o gefndiroedd eang ac amrywiol, yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu yn eu rolau. Maent yn cael cyfle i ennill cymhwyster, sydd yn ei dro’n hybu eu hyder a’u hunan-barch. Mae’r tîm o Swyddogion Cyswllt Prentisiaid sydd â phrofiad o ddiwydiant yn dod â dealltwriaeth a gwybodaeth fasnachol i’r broses; maent yn darparu’r cyswllt hanfodol rhwng y prentisiaid, eu cyflogwyr a’r brifysgol, a thrwy gyfarfodydd rheolaidd maent yn sicrhau bod y prentisiaid yn parhau i ddatblygu a ffynnu drwy gydol y rhaglen. Mae prentisiaid yn ymwneud ag elfennau academaidd y ddarpariaeth trwy ddysgu ar-lein, wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol; mae’r Swyddogion Cyswllt Prentisiaid yn cadw mewn cysylltiad â nhw, a’u cyflogwyr, trwy’r broses adolygu rheolaidd.
Rydym yn cwrdd â chyflogwyr, eu gweithwyr, a darpar brentisiaid newydd i drafod y rhaglenni sydd ar gael a sut y gallant gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’w swyddi a’r cwmnïau maent yn gweithio iddynt.
Yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau byddwn yn dathlu cyflawniadau ein prentisiaid a sut maent wedi dangos cymaint o ymrwymiad a dycnwch i ddatblygu sgiliau newydd yn y gweithle wrth iddynt astudio ac ymdopi â’r holl heriau a ddaw mewn bywyd o ran cydbwyso’r elfennau personol a phroffesiynol. Rydym mor falch ohonynt.
Un o bleserau fy rôl yw gweithio gydag ystod mor amrywiol o bobl, sydd â phrofiadau eang o’u haddysg flaenorol, eu gwaith a’u bywyd; a’u gweld yn ennill yr hyder a’r sgiliau sy’n eu galluogi i ffynnu yn eu gyrfaoedd.â€
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071