Ҵý

Skip page header and navigation

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae staff Ysgol Fusnes Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn rhan o brosiect cronfa ffyniant gyffredin arloesi gwledig  yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin: ‘Nodi’r Heriau ar gyfer Gwella Gwydnwch Gwledig drwy’r Economi Gylchol (CE)’ sy’n ceisio mynd i’r afael â’r angen am symud tuag at economi Werdd trwy gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd busnesau mewn ardaloedd gwledig.

A group shot of everyone that attended the event, lined up outside Canolfan Carwyn in Drefach

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerfyrddin y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau hyfforddi a lledaenu sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r prosiect yn Sir Gaerfyrddin ac ymgysylltu â mentrau gwledig i rannu canfyddiadau cyfredol y prosiect. 

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Carwyn yn Nrefach, wedi cynnwys mentrau lleol yn cyflwyno eu harferion economi gylchol. Yn ogystal fe wnaethant esbonio’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu sy’n arafu eu hymgysylltiad â’r economi gylchol, gan gynnwys anghenion cyllid a chymorth busnes. Cafodd digwyddiad Dysgu Economi Gylchol Sir Gaerfyrddin Wledig ei ddylunio er mwyn parhau i ymgysylltu â mentrau i ddysgu am yr heriau a’r rhwystrau sy’n rhwystro pontio i’r economi gylchol.

Agorodd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yng Nghyngor Sir Caerfyrddin  y digwyddiad. Roedd ystod o siaradwyr o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n ymwneud â’r Economi Gylchol yn Sir Gaerfyrddin. Cafwyd taith o amgylch Sied Dynion Cwm Gwendraeth ac ymhlith y siaradwyr roedd CWM Environmental, Cyngor Sir Caerfyrddin, Reith Honey, Slowly, Canolfan Carwyn a CEIC. Roedd yn gyfle da i rwydweithio a thrafod yn ogystal â gweithgaredd hyfforddi i gasglu gwybodaeth am anghenion presennol a dyheadau’r fenter yn y dyfodol wrth iddynt gynllunio mwy o ymgysylltu â gweithgareddau’r economi gylchol.

Dywedodd Diane Thomas, Strategaeth a Pholisi Gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin: 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi croesawu egwyddorion yr Economi Gylchol gan fanteisio i’r eithaf ar atebion gwastraff cynaliadwy trwy ailddefnyddio, ail-bwrpasu ac ailgylchu cymaint ag y gallwn. Mae ein trigolion a’n cymunedau yn ein helpu ar y daith hon ynghyd â’n partner Cwm Environmental Ltd sy’n rhedeg pentref Eto Reuse yn Nantycaws. Mewn byd o ddisbyddu adnoddau naturiol, newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a chostau uchel deunyddiau crai mae’n gwneud synnwyr llwyr i drawsnewid economi taflu i un lle mae gwastraff a llygredd yn cael eu dileu, ac adnoddau presennol yn cael eu hailgylchredeg cymaint â phosibl.

“Roedd cydweithio â’r Drindod Dewi Sant mewn digwyddiad lleol sy’n arddangos y potensial cylchol yn Sir Gaerfyrddin yn gyfle pwysig i ddatblygu cysylltiadau â busnesau a’r sector addysg ac i dynnu sylw at ein prosiectau economi gylchol .”

Ychwanegodd Dan Taylor - Peter o CWM Environmental:

“Roedd CWM yn falch iawn o gael gwahoddiad i siarad yn nigwyddiad Economi Gylchol Sir Gaerfyrddin Wledig yn Nrefach. Buom yn trafod ein taith mewn bioamrywiaeth safle a’n pentref ailddefnyddio ffyniannus yn Nantycaws - Canolfan Eto.

“Mae wedi bod yn galonogol gweld busnesau a sefydliadau bach a chanolig lleol yn gwneud penderfyniadau ymwybodol ar eu gweithrediadau ac yn rhoi’r amgylchedd yn gyntaf mewn llawer o’u dewisiadau. 

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol ar gyfer tyfu a datblygu’r economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin .”

Dr Roisin Mullins o PCYDDS sy’n arwain y prosiect cronfa ffyniant gyffredin arloesi gwledig yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac eglurodd:

“Pwysigrwydd rôl ysgol Busnes Caerfyrddin wrth ymgysylltu â mentrau gwledig gan fod gennym y potensial i sbarduno newidiadau trwy addysg a hyfforddiant sy’n helpu i nodi a datblygu atebion cydweithredol, gan alluogi busnesau, rhanddeiliaid a chymunedau i symud ymlaen gyda’i gilydd.

 “Fel rhan o wytnwch menter, mae’r economi gylchol yn cyflwyno ffordd newydd o weithio ac mae hyn yn golygu newid prosesau presennol ac addasu i arferion cynhyrchu a defnyddio newid a lleihau gwastraff. Gall yr ysgol fusnes gefnogi’r newid hwn trwy ymchwil a hyfforddiant gan ganolbwyntio ar sut y gall economi gylchol gyflwyno cyfle i archwilio arferion sy’n cynnwys rhannu, prydlesu, ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu, ac ailgylchu cynhyrchion a deunyddiau presennol i’w cadw mewn defnydd cyhyd ag y bo modd. Gall pob menter elwa o’r cyfleoedd drwy gymryd rhan mewn economi gylchol yn lleol yn ogystal ag yn rhyngwladol .”

Cysylltwch ag cbs@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon