Grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr twristiaeth
Ar 11 Chwefror, bydd myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS yn cynnal y digwyddiad i Gymru gan yr ITT yn , digwyddiad blynyddol sydd wedi ennill gwobrau. Eleni bydd y digwyddiad yn cynnwys Cynhadledd Ddigidol gan fynd â chynadleddwyr o Gymru i’r Byd, gan arddangos gyrfaoedd ym meysydd Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau, Gwyliau, Gwestai, Lletygarwch, Gastronomeg yn ogystal â Chwaraeon, Cerddoriaeth, y Celfyddydau Perfformio a Busnes.

Bydd yr Arddangosfa yn cynnwys Ffair Gyrfaoedd ag ystod eang o arddangoswyr o’r diwydiant ac o blith cyn-fyfyrwyr yn ogystal â Gweithdai Tik Tok arbenigol, Arddangosiadau Rhyngweithiol, Teithiau, ac Adloniant.
Yma mae Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Rheoli Digwyddiadau a Gwyliau, yn rhannu ei meddyliau pam y mae digwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr mewn cydweithrediad â’r diwydiant yn ffordd bwerus o gefnogi’r diwydiant twristiaeth.
“Mae twristiaeth a digwyddiadau’n ysgogiadau economaidd hanfodol i lawer o gymunedau, gan gyfrannu at ddiogelu diwylliannol, creu swyddi, a thwf economaidd cyffredinol. Fodd bynnag, er mwyn i dwristiaeth ffynnu, mae arni angen syniadau arloesol, cydweithio, ac ymgysylltu cymunedol. Un ffordd effeithiol o gefnogi twristiaeth leol yw drwy rymuso myfyrwyr i drefnu digwyddiadau twristiaeth mewn partneriaeth ag arweinwyr diwydiant a’u prifysgolion. Mae pawb ar eu hennill mewn mentrau o’r fath: maent yn cyfoethogi’r dirwedd dwristiaeth leol gan ddarparu sgiliau a phrofiad amhrisiadwy ar gyfer myfyrwyr.
Pontio’r Byd Academaidd a Diwydiant
Mae cydweithio rhwng myfyrwyr, prifysgolion, a phartneriaid yn y diwydiant twristiaeth yn pontio’r bwlch rhwng damcaniaeth ac arfer. Yn PCYDDS, mae myfyrwyr yn astudio marchnata digwyddiadau, cynllunio digwyddiadau, rheoli cyrchfannau, atyniadau a lletygarwch, ac mae rhoi damcaniaeth ar waith yn hollbwysig. Drwy gynllunio a gweithredu digwyddiadau twristiaeth, gall myfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth mewn senarios o’r byd go iawn. Ar yr un pryd, mae partneriaid yn y diwydiant yn cael syniadau ffres ac atebion arloesol sy’n cyd-fynd â thueddiadau sy’n dod i’r amlwg ym maes twristiaeth.
Meithrin Arloesi mewn Twristiaeth Leol
Mae myfyrwyr yn dod ag egni, creadigrwydd, a safbwynt ffres i’r bwrdd. Drwy gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant, maent yn gallu datblygu cysyniadau arloesol ar gyfer digwyddiadau sy’n denu cynulleidfaoedd amrywiol. P’un ai cynnal gŵyl ddiwylliannol, curadu teithiau trochol, neu drefnu gweithdai twristiaeth cynaliadwy sydd dan sylw, yn aml bydd digwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr yn gwthio ffiniau ac yn torri i ffwrdd o fodelau twristiaeth traddodiadol.
Mae’r cynigion unigryw hyn yn gallu helpu digwyddiad i sefyll allan mewn marchnad dwristiaeth orlawn.
Cyfleoedd am Ddysgu Ymarferol
Mae rhedeg digwyddiadau twristiaeth yn rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr ynghylch rheoli prosiectau, gwaith tîm, marchnata, cyllidebu, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae’r sgiliau hyn yn hollbwysig ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, nid yn unig mewn twristiaeth ond ar draws amryw o ddiwydiannau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael gwerthfawrogiad dyfnach o heriau a chymhlethdodau’r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys ymdrin â heriau annisgwyl megis amhariadau gan y tywydd, rheoli cyllidebau, a sicrhau cynaliadwyedd. Nid oes modd atgynhyrchu’r gwersi hyn o fywyd go iawn mewn ystafell ddosbarth.
Yn PCYDDS, mae’n bleser gennym hwyluso cyfleoedd o’r fath i helpu myfyrwyr i fod yn barod am swyddi, gan gyfoethogi eu cyflogadwyedd. Mae gennym gyn-fyfyrwyr yn gweithio ar draws y diwydiant mewn rolau cyffrous mewn atyniadau a chwmnïau blaenllaw, yn cynnwys Is-lywydd Sodexo Live!, Pennaeth Digwyddiadau Busnes Cymru, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Mary Rose, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Historic House Hotels, Rheolwr Gyfarwyddwr Stiwdios Abbey Road, a Llywydd yr Ymddiriedolaeth Rheolaeth yng Nghaliffornia.
Cryfhau Economïau Twristiaeth Lleol
Mae’n bosibl i ddigwyddiadau twristiaeth dan arweiniad myfyrwyr roi hwb uniongyrchol i economïau lleol drwy ysgogi gwario gan ymwelwyr. O hybu crefftwyr a bwytai lleol i gynyddu niferoedd yn cadw lle mewn gwestai gerllaw, gall y digwyddiadau hyn fod o fudd i’r holl gymuned. Yn ychwanegol, mae cael busnesau lleol i gymryd rhan mewn cynllunio digwyddiadau’n meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach ac yn sicrhau bod y digwyddiadau’n adlewyrchu hunaniaeth unigryw yr ardal.
Drwy arddangos diwylliant, coginio, ac atyniadau lleol, mae myfyrwyr hefyd yn helpu i atgyfnerthu ymdeimlad o falchder a pherthyn ymhlith trigolion. Mae hyn yn eu hannog i fynd ati i gefnogi a hyrwyddo mentrau twristiaeth.
Annog Arferion Twristiaeth Gynaliadwy
Yn y dirwedd dwristiaeth sydd ohoni, mae cynaliadwyedd yn fwy pwysig nag erioed. Mae myfyrwyr yn aml yn teimlo’n angerddol ynghylch cadwraeth amgylcheddol a diogelu diwylliannol, gan eu gwneud yn eiriolwyr delfrydol dros dwristiaeth gynaliadwy. Drwy gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant a phrifysgolion, maent yn gallu dylunio digwyddiadau sy’n lleihau effaith amgylcheddol tra maent yn cynyddu buddion i’r gymdeithas.
Meithrin Cysylltiadau Hirdymor mewn Diwydiant
Mae cydweithio â phartneriaid yn y diwydiant yn dod â myfyrwyr i gysylltiad â chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr. Mae’r cysylltiadau hyn yn gallu arwain at interniaethau, mentoriaethau, a hyd yn oed cynnig o swydd. I bartneriaid yn y diwydiant, mae gweithio gyda myfyrwyr yn darparu ffrwd o dalent o weithwyr proffesiynol medrus a chymelledig sydd eisoes yn gyfarwydd â’r sefydliad a’i werthoedd.
Mae prifysgolion yn cael budd o’r cydweithrediadau hyn drwy gryfhau eu perthnasoedd â’r diwydiant twristiaeth lleol. Mae hyn, yn ei dro, yn cyfoethogi enw da’r brifysgol a’i hapêl at ddarpar fyfyrwyr ac mae’n helpu i sicrhau bod ein cyrsiau’n eu paratoi am yrfa.
Yn ychwanegol at gydweithredu rhyngwladol, rydym yn aelodau addysgol o ABTA a’r Sefydliad Lletygarwch. Rydym yn gweithio’n agos ag Arena Abertawe gyda myfyrwyr yn cefnogi rhaglenni digwyddiadau ac yn helpu i gyd-gyflawni cynadleddau, cyngherddau ac ystod o ddigwyddiadau cerddoriaeth yn cynnwys cynhyrchu a darparu’r Parti Tŷ a enillodd wobr Digwyddiad Myfyrwyr y Flwyddyn.
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr y cyfle i weithio ochr yn ochr â Croeso Sir Benfro a Trafnidiaeth Cymru i gynhyrchu cynnwys fideo ar gyfer eu hymgyrchoedd marchnata.
Er mwyn i dwristiaeth leol ffynnu mewn marchnad fyd-eang sy’n fwyfwy cystadleuol, mae’n hanfodol grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr twristiaeth. Drwy gefnogi mentrau dan arweiniad myfyrwyr, gall prifysgolion a phartneriaid yn y diwydiant fuddsoddi yn y dyfodol tra maent yn gwneud gwahaniaeth diriaethol yn y presennol. Mae’r cydweithredu hwn yn fwy na phrofiad dysgu – mae’n gatalydd ar gyfer datblygu twristiaeth gynaliadwy a chyfoethogi cymunedol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071