Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn gwahodd cynigion ar gyfer gweithgarwch hyfyw, cynaliadwy ar gampws y Brifysgol yn Llambed.

Y cwad a’r ffynnon ar Gampws Llambed.

Mae ffurflen ar-lein bellach ar gael, sy’n rhoi cyfle i unigolion a sefydliadau gynnig eu syniadau a fydd yn dod â budd economaidd hirdymor, cynaliadwy i’r campws a’r gymuned leol.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r Brifysgol wedi bod wrthi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned i archwilio ystod o weithgareddau sy’n economaidd hyfyw, yn ymwneud ag addysg a allai ddod â bywyd newydd, cynaliadwy i’r campws. Denodd cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd fis diwethaf ddiddordeb cryf yn lleol ac adborth gwerthfawr, gan nodi cam pwysig yn y broses ymgynghori.

Yn ogystal â’r cyfarfod cyhoeddus, mae’r Brifysgol wedi bod yn ymgysylltu â chynrychiolwyr grwpiau rhanddeiliaid allweddol a bydd yn parhau i wneud hynny i nodi cynigion ymarferol ac arloesol. Bydd Grŵp Rhanddeiliaid Allweddol, sy’n cynnwys gwleidyddion lleol, arweinwyr busnes a chymuned, a grwpiau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, yn cyfarfod ddiwedd y mis hwn.

Bydd y grŵp hwn yn gweithio gyda’i gilydd i lunio ac asesu cynigion dichonadwy gyda’r nod o ail-ddychmygu bywiogrwydd y campws, gan gynnal gweithgareddau addysgol a masnachol amgen, a chreu cyfleoedd newydd i’r gymuned leol. Mae aelodau’r grŵp yn gynrychiolwyr y cymunedau allweddol ac rydym yn annog pobl i gysylltu â nhw i fynegi eu safbwyntiau a meddyliau. Bydd eu cynigion yn cael eu cyflwyno i’r Brifysgol i’w cymeradwyo.

Dywedodd Debra Williams, Pro Is-Ganghellor, Busnes a Chysylltiadau Masnachol:

“Rydym yn annog yn gryf i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol campws Llambed, ac sydd â chynnig ymarferol, i gymryd rhan yn y broses hon. Mae’r cyfarfod cyhoeddus diweddar a’r trafodaethau parhaus gyda rhanddeiliaid allweddol wedi atgyfnerthu pwysigrwydd cydweithio i ddatblygu dyfodol cynaliadwy a chyffrous i’r campws. Mae’r broses hon yn gyfle hanfodol i’r gymuned ehangach gyfrannu eu cynigion a helpu i lunio’r hyn a ddaw nesaf.”


Mae’r ffurflen, ynghyd â manylion llawn y broses ymgynghori, ar gael yma:

Mae’r Brifysgol yn croesawu pob cyfraniad ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r gymuned ar y fenter bwysig hon.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon