Gweithiwr Proffesiynol ym maes TG yn Ffynnu ar Brentisiaeth Datblygu Meddalwedd PCYDDS
Mae Rachid Aboulachouaq yn weithiwr TG proffesiynol ac mae’n ffynnu ar raglen Gradd-brentisiaeth Datblygu Meddalwedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan ddangos effaith cyfuno dysgu academaidd â phrofiad ym myd go iawn diwydiant.
I ddechrau, dilynodd Rachid, sy’n gweithio yn yr Adran Systemau a Seilwaith TG yn PCYDDS, radd lawn amser mewn maes pwnc arall, ond bu’n rhaid iddo dynnu’n ôl oherwydd heriau pandemig COVID-19.
Fodd bynnag, gwnaeth ei frwdfrydedd dros ddatblygu meddalwedd ei arwain i ddarganfod y cyfle am brentisiaeth yn PCYDDS, gan ganiatáu iddo astudio tra oedd yn cael profiad ymarferol yn y maes.
Mae’n cymhwyso’i sgiliau newydd i brosesu ceisiadau data, a datblygu a rheoli adroddiadau, gan gyfrannu at weithrediad effeithlon amryw o adrannau’r brifysgol.
Dywedodd Rachid, sy’n byw yn Llanelli, ei fod wedi’i ddenu at y syniad o ennill gradd tra byddai’n cael profiad mewn diwydiant ar yr un pryd. “Mae gallu cymhwyso beth rwy’n ei ddysgu ar fy nghwrs i’m gwaith, ac i’r gwrthwyneb, wedi bod yn brofiad amhrisiadwy,” meddai.
Gydol y cwrs, mae Rachid wedi wynebu heriau a’u goresgyn, megis aseiniadau cymhleth a ymddangosai’n amhosibl i ddechau. Gyda chymorth ei gymheiriaid a’i ddarlithwyr, mae wedi datblygu sgiliau technegol, gan gynnwys creu gwefannau swyddogaethol sy’n cyfathrebu ag ôl-gronfeydd data. Mae’i waith yn PCYDDS hefyd wedi cael budd, am fod y cwrs yn darparu dealltwriaeth fwy manwl o gysyniadau y daw ar eu traws yn ei rôl.
“Mae’r dysgu mewn darlithoedd yn helpu i egluro cysyniadau’r diwydiant, gan wneud fy ngwaith yn fwy effeithiol,” meddai. “Yn yr un modd, pan ddof ar draws rhywbeth yn y gwaith nad wyf eto wedi’i astudio yn y dosbarth, gallaf ei ddeall yn fwy trylwyr pan fyddwn ni’n ei astudio.”
Mae Rachid yn eiriolwr brwd dros y llwybr prentisiaethau, gan dynnu sylw at y cydbwysedd rhwng gwaith ac astudio, buddion ariannol ennill tra rydych yn dysgu, a’r cyfle i ddatblygu sgiliau technegol a phroffesiynol.
“Mae’r profiad rydych yn ei ddatblygu yn y diwydiant yn werthfawr dros ben. Rydych hefyd yn gwella eich sgiliau meddal, megis cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau a’r gallu i addasu i sefyllfaoedd newydd a newidiadau, sy’n cynyddu eich gwerth i gyflogwyr yn sylweddol,” meddai.
Yn broffesiynol, dywedodd Rachid fod y brentisiaeth wedi’i helpu i ddeall amgylcheddau gwaith hyblyg ac anghenion sefydliadol, ac yn bersonol, mae wedi meithrin meddylfryd o hunan-wella parhaus.
“Fy nod nesaf yw cwblhau fy ngradd tra byddaf yn parhau i gyfrannu i PCYDDS,” meddai. “Yn y dyfodol, hoffwn i deithio mwy, ac rwy’n sicrhau y bydd fy mhrofiad i yma yn fy mharatoi i weithio mewn gwledydd gwahanol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071