Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Rhianydd Barnes, Rheolwr Newid Rhaglen yn y proffesiwn Gwaith Cymdeithasol, bron â chwblhau ei gradd MA mewn Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).Mae’n canmol y rhaglen am wella ei sgiliau arwain a dyfnhau ei harbenigedd mewn hyfforddi yn ogystal â mireinio ei harfer adfyfyriol. 

An image of Rhianydd Barnes

Mae’r profiad dysgu trawsffurfiol hwn wedi bod yn allweddol yn ei dilyniant gyrfa, gan ei grymuso i drosglwyddo o waith cymdeithasol rheng flaen i rôl ganolog mewn Dysgu a Datblygu.  Mae taith Rhianydd yn enghraifft o effaith ddwys yr MA mewn Arfer Proffesiynol, sy’n rhoi’r wybodaeth a’r hyder i weithwyr proffesiynol yrru newid ystyrlon yn eu meysydd. 

Penderfynodd astudio ar yr MA mewn Arfer Proffesiynol gan ei bod wedi ymrwymo i barhau ei datblygiad proffesiynol.  Ar ôl ennill sawl cymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, edrychodd Rhianydd am raglen Lefel 7 y byddai’n darparu hyblygrwydd a chyfle i ehangu ei sgiliau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth.  Meddai: 

“Cefais fy nhynnu at y rhaglen yn seiliedig ar ei hyblygrwydd, gan y gallwch astudio amrywiaeth o bynciau i ennill eich cymhwyster (sy’n cynnwys Arweinyddiaeth a Rheolaeth).  Ar ben hynny, roedd y cyfle i hawlio credyd am ddysgu a oedd eisoes wedi digwydd yn elfen ddeniadol iawn o’r cwrs, gan y byddai hyn wedi rhoi’r cyfle i adfyfyrio ddigwydd.”

Un o’r elfennau mwyaf dylanwadol y cwrs i Rhianydd oedd y cyfle i hawlio am ddysgu drwy brofiad ar y modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL).  Roedd y broses hon wedi gofyn am adfyfyrio manwl ar brofiadau yn y gorffennol, gan alluogi Rhianydd i adnabod eiliadau allweddol a oedd wedi llunio ei thaith broffesiynol. Tra bod y broses adfyfyrio yn heriol, profodd i fod yn amhrisiadwy wrth werthfawrogi ei hun a’r sgiliau a’r wybodaeth y mae wedi’u datblygu drwy gydol ei gyrfa.  Ychwanega:

“Oherwydd yr adfyfyrio manwl sy’n ofynnol fel rhan o’r cwrs, mae’r agwedd honno wedi caniatáu i mi werthfawrogi a chydnabod y dysgu a gefais drwy gydol fy ngyrfa.  Mae’r modwl RAL yn gofyn i chi dreiddio’n ddwfn, sydd yn ei dro yn gofyn i chi adfyfyrio ar le mae dysgu wedi’i ddatblygu, a sut y cafodd ei gymhwyso.  Roedd y broses hon yn fuddiol iawn gan nad ydym fel unigolion, yn aml, yn cymryd yr amser i werthfawrogi ble a sut rydym wedi datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sydd gennym.”

Ochr yn ochr â’r MA, roedd Rhianydd wedi cwblhau asesiad Gwerthuswr Mewnwelediad, a ddarparodd hunan ymwybyddiaeth ddyfnach i’w chryfderau a meysydd i’w datblygu.  Mae’r ddealltwriaeth newydd hon wedi gwella ei gwaith tîm, ei harweinyddiaeth a’i dulliau rheoli.  Yn ogystal, mae’r ymchwil a’r adfyfyrio sydd ei hangen ar gyfer y cwrs wedi darparu eglurder ar y gwahaniaethau rhwng rheolaeth ac arweinyddiaeth, gan roi’r sgiliau angenrheidiol iddi ragori yn ei rôl. 

“Mae’r cwrs wedi bod yn allweddol wrth wella fy hunan ymwybyddiaeth a’m galluoedd arwain.  Mae’r broses adfyfyrio wedi fy nghaniatáu i adnabod y dylanwadau allweddol yn fy ngyrfa a gwerthfawrogi sut y maent wedi cyfrannu at fy nhwf.”  Rhannodd Rhianydd, “Bellach, rwyf yn teimlo’n fwy hyderus a hunan-sicr yn fy ngalluoedd fel rheolwr”.

Mae’r MA mewn Arfer Proffesiynol wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu sgiliau hanfodol Rhianydd, mewn arweinyddiaeth, arfer adfyfyriol, ac ysgrifennu academaidd ar lefel ôl-raddedig. Roedd y cyfnod pontio o waith israddedig i waith lefel 7 wedi achosi heriau, ond roedd y gefnogaeth a’r arweiniad strwythuredig gan dîm addysgu’r Fframwaith Ymarfer Proffesiynol wedi gwneud y broses yn hylaw.  Yn ogystal, mae’r rhaglen wedi atgyfnerthu pwysigrwydd ystyried dulliau rheoli ac arwain gwahanol mewn lleoliadau proffesiynol. 

Wrth annog eraill i gymryd mantais ar gyfleoedd dysgu drwy brofiad, meddai Rhianydd: 

“Mae hawlio am ddysgu drwy brofiad yn ffordd anhygoel o adfyfyrio ar y profiadau, y bobl a’r cyfleoedd sydd wedi llunio’ch gyrfa a’u gwerthfawrogi.  Heb yr amser penodol ar gyfer adfyfyrio, mae’n bosibl na fyddaf wedi cydnabod yn llawn effaith fy nhaith hyd yn hyn.”

Chwaraeodd darlithwyr y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol rôl hanfodol yn llwyddiant astudiaethau Rhianydd, gan gynnig cymorth ac anogaeth gyson drwy gydol y rhaglen.  Darparodd tiwtorialau grŵp misol gyfleoedd gwerthfawr i gysylltu â thiwtoriaid a chyfoedion, gan ddatblygu amgylchedd dysgu cydweithredol.  Ychwanega:  

“Roedd y cyfarfodydd misol hyn wedi fy nghadw ar y trywydd iawn gan y byddwn yn gweld sut oedd fy nghyfoedion yn dod yn eu blaenau a byddai hyn naill ai’n rhoi sicrwydd fy mod ar yr un trywydd â’m cyfoedion neu’r oedd yn hwb a wnaeth fy ysgogi i wneud cynnydd yn fy ngwaith.”

Meddai Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd ac arweinydd ar y modwl RAL:

“Mae’r modwl RAL wedi’i gynllunio i rymuso gweithwyr proffesiynol fel Rhianydd i adfyfyrio’n feirniadol ar eu dysgu drwy brofiad a chydnabod gwerth eu gwybodaeth a’u sgiliau cronedig.  Mae taith Rhianydd yn dangos sut y gall y broses adfyfyriol hon wella hyder a thwf proffesiynol, gan gefnogi dilyniant gyrfa a chyfraniadau ystyrlon i’r sector yn y pen draw.”

Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Fframwaith Arfer Proffesiynol: 

“Mae’r MA mewn Ymarfer Proffesiynol yn rhaglen drawsnewidiol sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol i ddatblygu eu galluoedd arweinyddiaeth a mireinio eu hymarfer adfyfyriol.  Mae profiad Rhianydd yn dangos gallu’r rhaglen i gefnogi’r broses o ddatblygu gyrfa drwy ddarparu cyfleoedd dysgu hyblyg, seiliedig ar ymarfer sy’n cyd-fynd â nodau a dyheadau proffesiynol unigol.”

Am fwy o wybodaeth am Fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS, ewch i:  Fframwaith Arfer Proffesiynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon