MORGLAWDD / SEAWALL – Arddangosfa Alex Duncan, Darlithydd yn PCYDDS, yng Nghanolfan Grefft Rhuthun
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o roi sylw i waith Alex Duncan, darlithydd Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, y mae’i arddangosfa MORGLAWDD / SEAWALL i’w gweld ar hyn o bryd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun tan 30 Mawrth 2025.

Mae’r arddangosfa hon yn procio’r meddwl ac yn archwilio’r rhyngweithio rhwng amddiffynfeydd arfordirol o waith dyn a’u heffaith ar amgylcheddau naturiol, gyda ffocws penodol ar forglawdd Abertawe a chodiad yn lefelau’r môr.
Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Ann Jones a’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae wedi cael budd o Gynllun Cefnogi Artistiaid Henry Moore. Dywedodd Alex y bydd y gweithiau sy’n cael eu harddangos yn Rhuthun, yn brintiau, yn lluniadau, ac yn gerflunwaith, “yn edrych ar arwynebau morgloddiau crwm ochr yn ochr â chofadeiliau i lanwau uchel eithriadol, gan archwilio ystumiau a gwneud marciau lle rydym yn rhyngweithio â’n hamgylchedd.”
Ers tro mae Alex wedi’i ysbrydoli gan y môr a’r tirweddau arfordirol sydd o’i gwmpas. Mae’i baneli alwminiwm mawr ym MORGLAWDD/ SEAWALL yn dal sgan manwl o forglawdd Abertawe, gyda theneuder y deunydd yn crymu’n naturiol i adlewyrchu ‘adgrymedd’ y strwythur concrid gwreiddiol. Mae’i waith yn ysgogi adfyfyrio ar effaith cynhesu byd-eang a’r ffyrdd y mae amddiffynfeydd arfordirol, tra maent yn cynnig amddiffynfa, hefyd yn gallu amharu ar ddeinameg naturiol y cefnfor.

Hefyd yn rhan o’r arddangosfa y mae Marc Penllanw/ High Water Mark, cyfres o luniadau sy’n gofebau i lanwau a llifogydd eithriadol o bob cwr o’r byd. Mae’r gweithiau cain hyn yn debyg i rwbiadau arwynebau, ac i gyd yn darlunio marc llinell lorweddol sy’n gwahanu awyr rhag dŵr, gan bwysleisio perthynas fregus dynolryw â natur.
Mae’i luniad Adlif/Backwash yn ychwanegu haen o ddirgelwch drwy gwestiynu canfyddiad a realiti. Er ei fod yn darlunio cerrig bychain, mae’r ysbrydoliaeth yn deillio nid o draeth go iawn ond o len gawod ei dad, gan barhau â’i ymchwiliad i beth sy’n real yn erbyn beth sydd wedi’i wneud i ymddangos yn real. Archwilir y thema hon ymhellach mewn gweithiau megis Cildraeth/Cove, lle mae beth sy’n edrych fel cerrig bychain, mewn gwirionedd yn ddarnau o ewyn polywrethan sydd wedi’u treulio gan y môr, ac Ewyn Mochyn / Slipper Limpet, sef darn o asgwrn wedi’i gerfio.

Mae Alex wedi arddangos yn eang yng Nghymru, Llundain ac yn rhyngwladol, gan gymryd rhan yn ddiweddar yn yr arddangosfa ô/ a gynhaliwyd yn Pontio, Bangor. Hefyd bu’n rhedeg Artlacuna, stiwdio a man prosiectau nid-er-elw yn Battersea, Llundain, am ddeng mlynedd.
Meddai:
“Mae’r ‘caledu arfordirol’ sy’n digwydd ar hyd ymylon yr arfordir ar draws y blaned yn fater pwysig, wrth i wledydd geisio ymdopi ag effaith economaidd codiad yn lefelau’r môr, a mwy o lifogydd a stormydd. Yn aml muriau concrid yw’r amddiffynfa o ddewis, ond maent yn cael effaith negyddol fawr ar fiodynameg a bathymetreg lle’r cefnfor, gan beidio â chaniatáu egni i’r don anadlu allan.
“Mae hwn yn lle y byddwn i’n dychwelyd iddo’n wythnosol wrth deithio o Lundain i Gymru i addysgu, gan ddod o hyd i le i feddwl ymhlith safle trothwyol o ddeunyddiau anferthol a chyfnewidiol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476