Myfyriwr gradd Meistr a chanolfan ymchwil yn y Drindod Dewi Sant yn cydweithio i wella profiadau plant o weithdrefnau meddygol
Mae Adam Higgins, myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant, wedi cydweithio gyda (ATiC) y Brifysgol, i ddatblygu ei gasgliad o brototeipiau cynnyrch sy’n paratoi plant ar gyfer triniaethau meddygol Pre-Medical-Preparation – neu PreMedPrep – er mwyn gwella eu profiadau o weithdrefnau meddygol.

Cefnogwyd y prosiect pum mis gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru trwy , rhaglen £24m a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.
Bu’r myfyriwr MSc Dylunio Diwydiannol 23 oed o Rhiwbeina yng Nghaerdydd yn gweithio gydag ATiC wrth iddo ddatblygu ei gynhyrchion lliwgar a llachar ar y thema anifeiliaid, gyda phob un yn benodol i weithdrefn neu archwiliad meddygol arbennig.
Mae’r cynhyrchion wedi’u bwriadu i addysgu, dal sylw a pharatoi plant ar gyfer eu triniaethau, megis profion gwaed, archwiliadau’r galon a thymheredd, a nebiwlyddion ar gyfer derbyn meddyginiaeth, gan gynnig ymdeimlad o reolaeth ac ymreolaeth i blant dros eu gofal iechyd.
Yn aml gall gweithdrefnau gofal iechyd achosi i blant deimlo pryder, ofn a straen oherwydd ‘ofn yr hyn sy’n anhysbys’.
Mae cynhyrchion Adam yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ynglŷn â sut mae gweithdrefn yn gweithio drwy ei harddangos mewn ffordd realistig. Mae dysgu drwy weld yn ffordd ddymunol a chysurlon o’u cynorthwyo’n emosiynol ac yn wybyddol, a gwella eu profiad meddygol cyffredinol.
Meddai Adam, un o raddedigion Dylunio Cynnyrch Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant: “Gall diffyg dealltwriaeth plant o’r hyn sy’n digwydd iddynt arwain at brofiad negyddol o weithdrefnau meddygol; gall achosi ofn a phryder ac effeithio ar eu hymweliadau meddygol yn y dyfodol. Gall fod goblygiadau parhaus i hyn a bydd plant yn aml yn gwrthod triniaethau yn y dyfodol, sy’n gallu golygu bod gweithdrefnau’n cymryd yn hirach a gwneud gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fwy heriol.
“Gan weithio gydag ATiC, y nod oedd defnyddio dull cymysg i werthuso ac optimeiddio prototeipiau cynnyrch PreMedPrep. Drwy ddefnyddio’r cyfleusterau, yr arbenigedd a’r cysylltiadau â’r diwydiant o fewn ATiC, llwyddais i archwilio’r potensial masnachol a deall a oedd y cynnyrch yn ateb ymarferol i leddfu’r straen ar blant yn sgil eu profiad fel cleifion o gael profion sgrinio gwaed diagnostig.
“Drwy’r cydweithio, llwyddais i gael adborth gan ymarferwyr meddygol pediatrig, a oedd yn hanfodol wrth ddatblygu’r cynnyrch ymhellach. Yn ogystal, roedd y cymorth technegol a gynigiwyd gan ATiC yn caniatáu i mi fireinio’r cynnyrch i safonau gweithgynhyrchu, gan sicrhau bod pob cydran yn gydnaws â dulliau gweithgynhyrchu’r diwydiant.
“Mae cysylltu gydag ymarferwyr meddygol drwy ATiC wedi arwain at brofi’r cynnyrch yn y maes. Yn Hosbis Plant Tŷ Hafan cafodd y cynnyrch ei brofi mewn amgylchedd meddygol realistig a chyda chleifion a oedd yn cael profion sgrinio gwaed.
“Y camau nesaf nawr wrth ddatblygu fy nghynnyrch yw parhau i gynnal profion yn y maes i gasglu data ychwanegol am y cynnyrch i wneud dadansoddiad mwy cynhwysfawr. Yn ogystal, gweithio gyda chorff profi trydydd parti i gymeradwyo’r cynnyrch o dan y safonau diogelwch perthnasol.”
Dywedodd Ian Williams, Uwch Gymrawd Arloesi yn ATiC : “Mae’n wych gweld Adam yn defnyddio’i syniadau a’i gysyniadau a ddatblygwyd ar y Cwrs Dylunio Cynnyrch yn y Drindod Dewi Sant i greu menter newydd. Roeddem yn falch iawn o’i gefnogi drwy ganiatáu iddo fanteisio ar yr arbenigedd a’r cyfleusterau arloesol sydd ar gael yn ATiC.
“Roedd y cydweithio, a oedd yn ymestyn dros bum mis, yn cynnwys cynnal gwerthusiadau o ddefnyddioldeb y cynnyrch gyda chlinigwyr a phlant, gan ddefnyddio ein systemau arsylwi a dadansoddi ymddygiad.
“Roedd y rhyngweithio a’r mewnwelediadau hyn yn galluogi Adam i ddeall yr heriau a mireinio ei ddyluniad ar sail yr adborth a, gyda chymorth ATiC, lluniwyd prototeipiau gwaith newydd drwy argraffu 3D, a brofwyd eto i wella’r cynnyrch ymhellach i gymryd cam yn nes at fod yn barod i’r farchnad.”
Yn ogystal derbyniodd Adam gyngor a chymorth gan Kath Penaluna, Rheolwr Menter y Drindod Dewi Sant ac aelod o grŵp cynghori addysg IPUC Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, a’r Twrnai Patent, Tom Baker o Murgitroyd, sy’n cefnogi myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn rheolaidd gydag arweiniad ar sut i ddiogelu eu dyfeisiau arloesol.
Mae Adam wedi gwneud cais llwyddiannus i gofrestru’r dyluniad o Eilo yr Eliffant, sy’n rhan allweddol o hynt y cynnyrch yn y dyfodol ac a fydd yn rhoi hyder iddo wrth arddangos y cynnyrch yn gyhoeddus yn arddangosfa ddylunio flaenllaw yn Llundain ym mis Gorffennaf.
Gwybodaeth Bellach
Bethan Evans
Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC),
Ҵý (PCYDDS),
Technium 1, Heol y Brenin,
Abertawe, SA1 8PH.
Ebost: bethan.evans@uwtsd.ac.uk