Myfyrwyr PCYDDS yn cymryd yr awenau wrth Ddarparu Digwyddiad Future You Cymru yr ITT a Rhaglen o Ddigwyddiadau Byw
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn parhau i arwain y ffordd wrth ddarparu profiadau dysgu ymarferol â ffocws ar ddiwydiant, ar gyfer ei myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Future You Cymru yr ITT ar 11 Chwefror, mae’r fenter hon dan arweiniad myfyrwyr wedi dangos effaith drawsffurfiol cyfleoedd i reoli digwyddiadau yn y byd go iawn.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT) ac Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, llwyddodd 6 myfyriwr Lefel 6, dan enw’r Chwe Champwr, i ddylunio, trefnu, a darparu digwyddiad rhagorol, gan ddenu bron iawn 600 o fynychwyr. Bu’r digwyddiad yn arddangosfa fawr ei heffaith o yrfaoedd ym maes Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch, a Digwyddiadau, gan roi i fyfyrwyr brofiad amhrisiadwy mewn cynllunio, logisteg, a marchnata digwyddiadau, a rhwydweithio proffesiynol.
Grymuso’r Genhedlaeth Nesaf o Arweinwyr Digwyddiadau
Yn PCYDDS, rydym yn credu mewn dysgu drwy wneud. Mae ein tîm addysgu Twristiaeth a Digwyddiadau’n blaenoriaethu prosiectau byw, cydweithio â diwydiant, a lleoliadau i gefnogi datblygiad gyrfaoedd myfyrwyr.
Meddai’r Rheolwr Rhaglen Jacqui Jones: “Mae llwyddiant Future You Cymru yr ITT yn dyst i ymrwymiad a phroffesiynoldeb anhygoel ein myfyrwyr, a gymerodd berchnogaeth lwyr o’r digwyddiad o’r dechrau i’r diwedd.”
Gan adeiladu ar y momentwm hwn, mae myfyrwyr Lefel 4 a Lefel 5 bellach yn dod ymlaen i arwain eu digwyddiadau eu hun yn y byd go iawn:
- Dan gyfarwyddyd eu cyd-fyfyrwyr Lefel 5, cydweithiodd myfyrwyr Lefel 4 â James Morgan, Cyfarwyddwr Dysgu Creadigol yn Arena Abertawe, i ddarparu’r digwyddiad Parti Tŷ y bu mawr disgwyl amdano ar 15 Chwefror.
- Bydd myfyrwyr Lefel 5 yn mynd yn gyfrifol am gyfres o Brosiectau Digwyddiadau Byw sy’n fis o hyd, yn cynnwys: Dawns Fawreddog i Fyfyrwyr, Noson Gowbois a Choctels, Gŵyl Fwyd Fyd-eang.
Cynhelir yr holl ddigwyddiadau hyn yng Nghanolfan Dylan Thomas PCYDDS yn Abertawe, gyda chyfarwyddyd arbenigol gan y darlithydd Debbie Jenkins a chydweithredu ychwanegol gyda Jemma Smith a’r myfyrwyr Gastronomeg.
Effaith ar Ddiwydiant a Llwyddiant Myfyrwyr
Mae effaith y fenter hon yn ymestyn tu hwnt i PCYDDS, gan ysbrydoli myfyrwyr a staff ar draws sefydliadau. Daeth Daniel, darlithydd o Goleg Dinas Bryste, i Future You Cymru yr ITT gyda’i fyfyrwyr gan ddisgrifio’r digwyddiad fel un a oedd yn:
“Ysbrydoli myfyrwyr a staff i lefel arall.”
Ychwanegodd Jacqui Jones: “Roedd y fenter hon hyd yn oed yn fwy ystyrlon oherwydd ei bod wedi’i chynnig gan gyn-fyfyriwr Coleg Dinas Bryste, sydd bellach yn gwneud yn rhagorol yn PCYDDS. Mae proffesiynoldeb ac effaith y digwyddiad yn atgyfnerthu ymrwymiad y Brifysgol i rymuso myfyrwyr drwy ddysgu drwy brofiadau ac ymgysylltu â diwydiant.”
Sinead Edwards Lefel 6 : “Roedd cynllunio a chynnal ITT Future You Cymru 2025 gyda phump o’m cyd-fyfyrwyr yn garreg filltir na fyddaf byth yn ei hanghofio. Roedd gweld ein holl waith caled yn dod yn fyw a chael adborth mor gadarnhaol yn werth chweil. Roedd trefnu digwyddiad ar gyfer 600 o fyfyrwyr yn wirioneddol wedi newid bywydau, ac rwy’n falch o’r hyn a gyflawnwyd gennym gyda’n gilydd. Mae’r profiad wedi rhoi sgiliau amhrisiadwy i mi a mewnwelediad i’r diwydiant a fydd yn siapio fy nyfodol.”
Nia Moore Lefel 5 : “Mae fy natblygiad proffesiynol wedi gwella’n aruthrol ers dechrau fy ngradd mewn Rheoli Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol. Helpu i gefnogi digwyddiadau fel Parti Tŷ a hefyd cael y cyfle i gynnal fy nigwyddiadau fy hun fel Dawns y Myfyrwyr a’r flwyddyn nesaf byddaf yn cynnal HCA Future You Wales. Rwyf hefyd wedi elwa o leoliad tramor yn Florida gyda Universal ac rwy’n gyffrous i barhau â’m datblygiad yr haf hwn ar leoliad gyda Walt Disney World yn Florida!”
Edrych i’r Dyfodol: Amseroedd Cyffrous i Fyfyrwyr PCYDDS
Gyda llwyddiant Future You Cymru yr ITT, mae’r digwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr sydd i ddod yn addo bod yr un mor ddeinamig, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau hanfodol, cael profiad ymarferol, a gwneud cysylltiadau gwerthfawr â diwydiant.
Mae’r fenter hon yn tanlinellu cenhadaeth PCYDDS: Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau.

Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071