Ҵý

Skip page header and navigation

Bu myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wrthi’n paratoi i gystadlu yn Rowndiau Terfynol Rasys Fformiwla Myfyrwyr y bu disgwyl mawr amdanynt ar 16 Gorffennaf, a gynhaliwyd ym Mhencadlys eiconig Williams F1. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i fyfyrwyr ddangos eu sgiliau rasio rhithwir a’u craffter o ran peirianneg mewn amgylchedd ffug, ac i arddangos eu talentau. 

Students wearing casual clothing standing against a green racing car.

Mae tîm PCYDDS, sy’n cynnwys ac yn cael ei arwain gan fyfyrwyr angerddol a chrefftus, wedi cystadlu mewn chwe rownd yn ystod Pencampwriaeth 2024, sydd wedi eu helpu i baratoi’n drylwyr ar gyfer rownd derfynol y Bencampwriaeth. Mae Rownd Derfynol Rasys Efelychiadol Fformiwla Myfyrwyr yn herio cyfranogion i gymhwyso eu gwybodaeth dechnegol a’u sgiliau gyrru mewn efelychydd rasio o’r radd flaenaf, sy’n copïo profiad chwaraen moduro yn y byd go iawn. 

Meddai Dr Kerry Tudor, Cyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol Peirianneg PCYDDS, “Mae penderfyniad ein myfyrwyr i gymryd rhan yn Rownd Derfynol Rasys Efelychiadol Fformiwla Myfyrwyr yn amlygu eu hymroddiad i beirianneg a thechnolegau efelychu. Mae’r gystadleuaeth hon yn rhoi iddynt blatfform i ddisgleirio mewn maes o’r radd flaenaf ac i gael profiad gwerthfawr a fydd yn fantais i’w gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae tîm PCYDDS yn enghraifft o ysbryd arloesol a chydweithredol ei aelodau, sydd wedi rheoli pob agwedd ar eu cyfranogiad yn y Bencampwriaeth Rasys Efelychiadol Fformiwla Myfyrwyr, gan helpu iddynt ennill sgiliau allweddol ar gyfer cyflogaeth.”

 Mae’r gystadleuaeth yn enwog am feithrin arloesi, gwaith tîm, a sgiliau efelychu ymhlith darpar beirianwyr. Trwy gymryd rhan, mae myfyrwyr PCYDDS wedi cystadlu yn erbyn prifysgolion gorau’r byd. Mae’r digwyddiad hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol technolegau efelychu a digidol yn nyfodol chwaraeon moduro a pheirianneg. 

Yn ogystal â dangos eu sgiliau rasio, mae’r tîm a arweiniwyd gan fyfyrwyr wedi gorfod dysgu i weithio gyda’i gilydd, gwneud penderfyniadau strategol a defnyddio sgiliau trefnu er mwyn eu galluogi i arwain a rhedeg y tîm eu hunain. 

Meddai James Greenhill-Upward, Arweinydd y Tîm, a myfyriwr yn ei ail flwyddyn ar y rhaglen BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro: “Mae’r gystadleuaeth wedi fy helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o reoli tîm, peirianneg perfformio a pheirianneg strategaeth. Roedd cystadlu yn y rownd derfynol yn erbyn prifysgolion o bob rhan o’r byd yn wych. Gwnaethom ein gorau glas gan ddangos beth y gallwn ei gyflawni. Roedd cyfleuster Pencadlys Williams F1 yn anhygoel, ac roedd y staff yn wych.”

Mae disgyblaeth academaidd Peirianneg PCYDDS yn cynnig ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig sy’n cwmpasu pynciau fel Chwaraeon Moduro, Peirianneg Modurol a Beiciau Modur. Mae cyfranogiad y tîm yn amlygu ymrwymiad PCYDDS i ddarparu cyfleoedd addysgol ardderchog ac i feithrin arloesi ym maes peirianneg a thechnoleg. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon