Ҵý

Skip page header and navigation

Gadawodd Storm Darragh, a ysgubodd trwy Dde Cymru fis Rhagfyr diwethaf, ôl parhaol ar lawer o gymunedau - gan gynnwys , lle collwyd tua 200 o goed aeddfed mewn un diwrnod a llawer mwy bellach yn cael eu tynnu lawr oherwydd eu cyflwr ansefydlog.

UWTSD Students and Staff at Craig y Nos Country Park

Mae Parc Gwledig Craig y Nos yn safle 40 erw sy’n ffurfio rhan o dir Castell Craig y Nos o gyfnod Fictoria sy’n gorwedd ychydig i’r gogledd o Abercraf ym mhentref Glyntawe.  Mae’r parc yn cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n cynnwys coetir cymysg, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA), dôl wair a sawl pwll. Mae Afon Tawe, y mae ei tharddiad yn gorwedd ychydig filltiroedd i’r gogledd o’r safle, yn rhedeg trwy ei thiroedd. Mae’r Castell yn enwog fel hen gartref y gantores opera enwog Adelina Patti a greodd y gerddi a phlannodd lawer o sbesimenau addurniadol sy’n dal yno heddiw. Er bod y Castell bellach yn cael ei redeg fel menter breifat, mae’r cysylltiad hanesyddol cryf rhwng Patti a’r parc gwledig yn parhau.

Mae gan Ysgol ʱԲïٳ, Adeiladu ac Amgylchedd y Brifysgol hanes hir o weithio yn y parc gwledig, gan ddarparu gwirfoddolwyr a phartïon gwaith ar gyfer tynnu prysgwydd a phlannu gwrychoedd, ac mae gwaith diweddar wedi gweld grŵp o fyfyrwyr a staff o bob rhan o’r Brifysgol yn ymuno i asesu’r difrod a achoswyd gan y storm fis Rhagfyr diwethaf. 

Meddai’r Athro Rhian Jenkins, cyfarwyddwr academaidd Yr Ysgol ʱԲïٳ, Adeiladu ac Amgylchedd y Drindod Dewi Sant: 

“Ar ôl byw yn y cyffiniau ers amser maith, mae wedi bod yn amlwg bod patrymau tywydd yn newid ac mae dyddodiad a digwyddiadau llifogydd yn cynyddu ar gyfradd frawychus. Mae’r safle yn dueddol o ddioddef llifogydd ac mae’r glaw bron yn barhaus dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith niweidiol ar briddoedd lleol.  O ganlyniad, nid yw llawer o’r coed yn yr ardal yn addasu i’r amodau newidiol.  Er bod y storm yn ddigwyddiad anhygoel, roedd llawer o goed eisoes yn arddangos arwyddion o straen a dirywiad.

“Mae newid yn yr hinsawdd yn amlwg yn newid ein cynefinoedd naturiol ac mae dadl ddiddorol bellach ynghylch ‘beth sy’n frodorol’.  Fe wnaethom ofyn y cwestiwn, a ddylai’r Parc Gwledig ailblannu’r amgylcheddau sydd wedi’u dinistrio gyda chynllun plannu yr un peth ag o’r blaen a fyddai’n parhau i anrhydeddu etifeddiaeth Adelina Patti, neu, ai dyma’r amser i ystyried plannu mwy priodol a fydd yn parhau i ffynnu wrth i’n hinsawdd newid?

Ar ddiwedd mis Mawrth, ymwelodd grŵp o staff a myfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau’r Brifysgol, â’r safle i gynnal arolygon ac ystyried sut i ddogfenni a chyfathrebu’r angen am newid yn effeithiol. 

Amcan y myfyrwyr oedd cael dealltwriaeth o statws presennol y dirwedd a chasglu data amgylcheddol i helpu i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar sut i addasu’r cynllun rheoli cynefinoedd presennol. 

Cynhaliodd myfyrwyr yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd arolygon cynefinoedd, a mesuriadau samplau pridd a ddadansoddwyd yn ddiweddarach yn labordy amgylcheddol campws Glannau’r Brifysgol yn Abertawe. Roedd hyn i bennu proffil y pridd mewn gwahanol leoliadau ar draws y parc. Helpodd y defnydd o gaffael data symudol GIS i gasglu cronfa ddata ddigidol o asedau a’u lleoliadau gofodol. Yn ogystal, anogwyd myfyrwyr i ystyried materion yn ymwneud â threftadaeth ac ecolegol unigryw, er enghraifft, coed penodol gyda phwysigrwydd hanesyddol a / neu ecolegol, a sut i addasu’r gorchudd tir presennol ar gyfer gwytnwch yr hinsawdd yn y dyfodol.  

Dywedodd Robyn Betson, myfyriwr blwyddyn olaf yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd: 

Mae’r difrod i’r parc yn atgof sobr o ba mor agored yw ein tirweddau i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Roedd gweld cymaint o’r canopi ar goll ers ein hymweliad diwethaf yn gyferbyniad llwyr, gan ei gwneud hi’n glir nad yw gerddi addurnol traddodiadol wedi’u cynllunio i wrthsefyll yr eithafion cynyddol o dywydd yr ydym yn eu hwynebu.” 

Hefyd, yn ystod yr ymweliad, dyluniodd myfyrwyr ʱԲïٳ pencadlys actifiaeth hinsawdd symudol ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol a gynhaliwyd gan  (Students’ Climate Action Network) a oedd yn cyd-daro â digwyddiadau’r wythnos. 

Dywedodd Ian Standen, Cyfarwyddwr y Rhaglen ʱԲïٳ: 

“Mewn grwpiau, roedd y myfyrwyr yn rhagweld strwythur symudol dros dro y gellid ei adeiladu ar y cyd a’i gludo i wahanol leoliadau. Y nod oedd annog a hwyluso protestio, casglu, rhannu gwybodaeth, grymuso a chynwysoldeb, gan gefnogi defnyddwyr o bob gallu i hwyluso llythrennedd gweithredu hinsawdd mewn ffordd ryngweithiol”.

Meddai Luc Harris, myfyriwr pensaernïol blwyddyn gyntaf: “Galluogodd y prosiect hwn i ni i ddysgu am ddylunio cynaliadwy; strwythurau cludadwy; i gyfrifo ôl troed carbon a dysgu am effeithiau amgylcheddol gwirioneddol newid hinsawdd. Roedd hefyd yn wych gweithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill a gweld sut maen nhw’n mynd i’r afael â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu.”

Tynnodd myfyrwyr ffotograffiaeth luniau o’r difrod hinsawdd er mwyn cynrychioli’n weledol y benbleth ‘hanes yn erbyn yr amgylchedd’. Dywedodd Pennaeth Ffotograffiaeth Israddedig Ryan Eynon-Moule:

“Bydd arddangosfa ryngddisgyblaethol o ddeunyddiau ymchwil myfyrwyr yn cael ei dangos yn oriel fodern Coleg Celf Abertawe, Stiwdio Griffith, gan arddangos yr ymdrech ar y cyd ar draws adrannau ac amlygu’r ffyrdd amrywiol y mae effaith hinsawdd wedi’i dogfennu a’i dehongli. Mae cyfryngau lens, yn arbennig, yn chwarae rhan bwerus wrth leoleiddio materion byd-eang, gan ddod â realiti haniaethol newid yn yr hinsawdd i ffocws trwy lens safle, yn ogystal â thrwy hanesion cyfunol a phersonol.”

Dywedodd Paul Chapman, Rheolwr Parc Gwledig Craig y Nos:

“Er bod y tîm yma ym Mharc Gwledig Craig y Nos wedi’u siomi o weld y dirwedd yn cael ei newid yn barhaol gan Storm Darragh, rydym bellach yn gweithio mewn ffordd ddeinamig gydag effeithiau’r patrymau tywydd cyfnewidiol a yrrir gan Newid Hinsawdd i greu amgylchedd newydd, mwy gwydn tra’n cynnal nodweddion y darn hwn o dreftadaeth Fictoraidd sydd â lle pwysig yng nghalonnau cymaint o bobl.”

Parhaodd yr Athro Jenkins: 

“Yn y pen draw, bydd y gwaith, data a ffotograffau, yn cael eu rhannu gyda rheolwyr y safle yng Nghraig y Nos fel ffordd o barhau â pherthynas sefydledig rhwng y Brifysgol a pharc gwledig sy’n eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

“Roedd yn gyfle gwych i gael tri grŵp amrywiol o fyfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer nod cyffredin - sef dal a chyfathrebu’r newidiadau a achosir gan newid yn yr hinsawdd a’r angen brys am liniaru ac addasu ein cynefinoedd naturiol a rheoledig.”&Բ;&Բ;

UWTSD Students and Staff testing soil at Craig y Nos

llun: Kelene Frederick (MSc Amgylchedd a Rheolaeth Cadwriaeth) a Sam Godden (BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd) gyda Sergio Garate (Darlithydd a Technegydd Labordy). Llun Esme Littlechild

Lecturer Elanor Alun and students Sam Godden and Craig Burston (BSc Environment, Sustainability and Climate Change).

Llun:  Elanor Alun a  myfyrwyr Sam Godden a Craig Burston (BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd). Llun Sergio Garate


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;01267&Բ;676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon