Myfyrwyr yn Datblygu Prosiectau Amlgyfrwng i hyrwyddo Hygyrchedd ym maes Antur.
Mae myfyrwyr ar gwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod wrthi’n datblygu gwaith amlgyfrwng sy’n codi ymwybyddiaeth o hygyrchedd mewn antur.

Drwy ddatblygu prosiectau creadigol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid sy’n cynnwys Ski4All, Cerebra, a Blue Horizons, mae myfyrwyr wedi gallu defnyddio eu sgiliau ffilm a chyfryngau ar gyfer achos gwych.
Datblygodd Caitlin Longden brosiect am greu digwyddiad cynhwysol rhad ac am ddim i bobl de-orllewin Cymru i roi cynnig ar chwaraeon addasol gan gynnwys sgïo, syrffio a beicio mynydd. Wedyn creodd strategaeth amlgyfrwng i hyrwyddo’r digwyddiad ar draws gwahanol lwyfannau a mathau o gyfryngau. Meddai:
“Datblygais fy mhrosiect drwy dreulio amser yn Ski4All ym mharc gwledig Pen-bre, gwrando ar unigolion, eu teuluoedd a hefyd yr hyfforddwyr. Roedd eu canfyddiadau ar chwaraeon addasol yn hynod werthfawr, yn galondid ac yn ysbrydoledig. Treuliais amser yn cymryd sganiau 3D o’r offer sgïo addasol, gan dynnu lluniau cyfranogwyr yn dod i lawr y llethrau sgïo a chyfweld â phobl amrywiol. Yna fe wnes i hefyd ddatblygu gwefan ryngweithiol yn cynnwys sganiau 3D yr offer i helpu pobl i deimlo’n fwy cyfforddus a chyfarwydd â’r offer cyn ei ddefnyddio yn y digwyddiad.”
Creodd strategaeth hyrwyddo gan gynnwys creu riliau byr a phosteri graffeg symudol, bagiau nwyddau, negeseuon e-bost wedi’u personoli a’r strategaeth cynllunio a rheoli digwyddiadau.
Dyluniodd Daniel Phillips, myfyriwr arall o’r cwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur ymgyrch drawsgyfryngol gyda’r nod o ddathlu pobl a sefydliadau sy’n hwyluso gweithgareddau anturus hygyrch. Meddai:
“Ar gyfer fy mhrosiect, creais ystod o gyfryngau i’w defnyddio ar draws gwahanol lwyfannau, a chodau brandio a QR yn gwneud y cynnwys yn adnabyddadwy. Cynlluniwyd pob platfform i gyrraedd ystod o gynulleidfaoedd a’u cyfeirio at oriel ymdrochol yn ystafell ymdrochol Campws Caerfyrddin. Roedd y prosiect yn ein hannog ni i ystyried hygyrchedd mewn antur ac ar draws y cyfryngau. Roedd yn rhaid i ni ystyried sut rydyn ni’n arddangos cyfranogwyr mewn gweithgareddau anturus yn ogystal â sut y gallai pobl sydd ag ystod o anghenion ymgysylltu â’r cyfryngau a grëwyd gennym.”
Mae’r ddau fyfyriwr yn cydnabod pwysigrwydd yr ymarfer hwn i’w datblygiad yn y diwydiant.
Ychwanegodd Caitlin: “Fe wnaeth y prosiect hwn fy helpu i fod yn ymwybodol o sut rydw i’n mynd ati i fanteisio ar brosiectau yn y dyfodol, gan sicrhau bod fy nghynnwys yn hygyrch i ystod eang o gynulleidfaoedd.
“Mae’n debyg ei fod wedi gwneud i mi sylweddoli bod pawb yn dehongli bywyd yn wahanol ac felly gwybodaeth ddigidol… Gall fod yn anodd treulio rhai mathau neu fformatau’r cyfryngau penodol ac rwy’n credu bod angen i fusnesau yn benodol ystyried hyn yn fwy trylwyr yn eu strategaethau cyfryngau/marchnata, gan sicrhau eu bod nhw’n gwneud eu gwybodaeth yn hygyrch, yn enwedig gan fod popeth yn cael ei wneud ar-lein yn bennaf nawr. Rwy’n credu gyda’r wybodaeth, yr ymchwil a’r sgiliau cywir, mae’n hawdd ei wneud ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwerthfawr!”
Ar gyfer Daniel:
“Roedd y prosiect yn llethol i ddechrau gyda chymaint o ystyriaethau cymhleth ond mae wedi fy ngorfodi i weithio y tu allan i’m parthau cysur technegol a chreadigol, wrth ystyried ffyrdd o wneud gwaith rwy’n ei greu yn gynhwysol i bawb.”
Meddai Mia Martin-Evans o Ski4All Wales:
“Mae Ski4All Wales yn falch o fod wedi cydweithio â myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ar y prosiect antur hygyrch hwn. Roedd y myfyrwyr yn wych i weithio ochr yn ochr â nhw ac mae eu prosiectau terfynol yn arddangos chwaraeon antur addasol yn wych. Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r angen am antur hygyrch ac argaeledd yng Nghymru. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn ddechrau llawer mwy o brosiectau cyffrous gyda’n gilydd!”
Meddai Rheolwr y Rhaglen Dr Brett Aggersberg:
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn brofiad gwych yn y byd go iawn i’n myfyrwyr. Mae cwrdd â buddiolwyr a gwirfoddolwyr drostyn nhw eu hunain wedi galluogi’r myfyrwyr i rannu’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud i gefnogi pobl sydd ag ystod o anableddau i gael mynediad i’r awyr agored a gweithgareddau anturus. Mae’r myfyrwyr wedi datblygu amrywiaeth o ddeunyddiau ar wahanol lwyfannau, megis gwefannau, ffotograffau, ffilmiau a mannau ymdrochol i adrodd stori ddiddorol, a gobeithio y byddan nhw’n helpu’r sefydliadau rhanddeiliaid i godi arian ar gyfer rhagor o’r offer unigryw y mae eu hangen arnynt. Mewn digwyddiad arddangos diweddar bu’r myfyrwyr yn tywys rhanddeiliaid a buddiolwyr drwy botensial y prosiectau a chawson nhw adborth i ddatblygu’r gwaith ymhellach. Dyma’r math o waith rydyn ni’n falch o’i gynnig i fyfyrwyr ar ein cyrsiau ni, lle rydyn ni’n dod â chenhadaeth ddinesig ac arbenigedd yn y cyfryngau at ei gilydd er budd pawb.”
Am fwy o wybodaeth am y cwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur ewch i: Gwneud Ffilmiau Antur (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476