PCYDDS yn Cynnal Digwyddiad yng Nghyfres Darlithoedd y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol: 'Sgwrs a Chinio Taten Boeth’
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), partner lleol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol, gyhoeddi digwyddiad difyr fel rhan o’i Chyfres o Ddarlithoedd gyda’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol.

Mae’r cyfarfod unigryw hwn, o’r enw ‘Sgwrs a Chinio Taten Boeth: Prynhawn o Drafodaeth am Werth Bwyd’, yn addo sgyrsiau ysgogol ynghylch arwyddocâd bwyd, gyda chyfraniadau gan ffermwyr a thyfwyr lleol.
Nod y digwyddiad prynhawn hwn yw tanio deialog ystyrlon am werth cynhenid a chymdeithasol bwyd, gan ddod ag aelodau o’r gymuned, arbenigwyr amaethyddol, a selogion athroniaeth at ei gilydd. Caiff mynychwyr y cyfle i archwilio safbwyntiau athronyddol ar foeseg bwyd, cynaliadwyedd, a’r berthynas rhwng cymunedau a’u ffynonellau bwyd.
Mynegodd Dr Rebekah Humphreys, Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth yn PCYDDS a threfnydd y gyfres darlithoedd, ei chyffro ynghylch y digwyddiad nesaf: “Mae’r ‘Sgwrs a Chinio Taten Boeth’ yn gyfuniad perffaith o ymholi athronyddol a rhyngweithio cymunedol. Drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â ffermwyr a thyfwyr lleol, ein nod yw dyfnhau ein dealltwriaeth o rôl bwyd nid yn unig fel cynhaliaeth ond hefyd fel adlewyrchiad o’n gwerthoedd, ein diwylliant, a’n cyfrifoldebau tuag at ein gilydd a’r amgylchedd.”
Mae cydweithrediad PCYDDS â’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn tanlinellu’i hymrwymiad i feithrin meddwl beirniadol ac ymgysylltiad y cyhoedd mewn disgwrs athronyddol.
Manylion y Digwyddiad:
- Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Chwefror 2025
- Amser: 1:00 pm i 4:00 pm
- Lleoliad: Fferm Gymunedol Abertawe, SA5 4BA
- Dolen archebu:

Ymunwch â ni am brynhawn o sgwrsio i brocio’r meddwl, bwyd da, a chysylltiad cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gyfres lawn o ddarlithoedd a thrafodaethau, ewch i raglen 2024-25 Cyfres Darlithoedd PCYDDS gyda’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol

Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076