PCYDDS yn Dathlu Rhagoriaeth Dawns yn Arddangosfa Egni Uchel ICONS
Cyflwynodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ICONS, y cynhyrchiad olaf gan fyfyrwyr BA (Anrh) Dawns Fasnachol, gan nodi penllanw eu gradd gydag arddangosfa fywiog o dalent a chreadigrwydd.

Roedd ICONS yn cynnwys perfformiadau deinamig ar draws ystod o ffurfiau, gan gynnwys Hip Hop, Tap, Cyfoes, Masnachol, a Thorri. Holly Corsi, gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant, oedd yn gyfrifol am goreograffi a chyfarwyddo’r sioe ac y mae ei champau trawiadol yn cynnwys gwaith gydag Olly Murs, Michael Ball, Y Llais (The Voice, S4C), a Lost Boys & Fairies (BBC).

Dros bum wythnos ddwys, gweithiodd y myfyrwyr yn agos gyda Holly, gan ymgolli mewn proses ymarfer broffesiynol a gynlluniwyd i adlewyrchu gofynion y diwydiant go iawn. Meddai:
“Mae creu ICONS wedi bod yn brofiad na fyddaf byth yn ei anghofio. Mae’r broses o fynd â’r myfyrwyr o’r stiwdio i’r llwyfan yn ffordd wych o’u paratoi nhw ar gyfer y diwydiant. Maen nhw wedi ymrwymo, ymgysylltu a chyfrannu eu syniadau i sicrhau bod hwn yn gynhyrchiad o’r radd flaenaf.”

Meddai’r myfyriwr Kirstin Mills:
“Mae’r profiad hwn dros y 5 wythnos ddiwethaf wedi bod yn anhygoel ac yn heriol, ac mae Holly wedi bod yn gyfarwyddwr a choreograffydd mor ysbrydoledig. Mae wedi bod yn wych dysgu gwahanol arddulliau ac ymchwilio i’n cymeriadau unigol ein hunain.”
Ychwanegodd ei chyd-fyfyriwr Honey Boughey:
“Mae’r broses greadigol hon wedi fy ngalluogi i gael profiad o gydweithredu â choreograffwyr yn y diwydiant ac ehangu fy sgiliau perfformio ar draws ystod eang o arddulliau. Diolch yn fawr iawn i Holly Corsi (Cyfarwyddwr a Choreograffydd) a Beth Salter (Cynorthwy-ydd y Coreograffydd) am gyfleoedd cyfartal a pharch mewn ymarferion.”

Meddai Tori Johns, Arweinydd Adran (Dawns) a Chyfarwyddwr Rhaglen yn PCYDDS:
“Rydyn ni’n hynod falch o’n myfyrwyr BA (Anrh) Dawns Fasnachol am eu perfformiadau o ICONS. Roedd y sioeau yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn wych derbyn adborth mor gadarnhaol gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant dawns. Rydyn ni’n awchu gweld beth bydd ein myfyrwyr yn ei gyflawni yn eu gyrfaoedd.”
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Dawns Fasnachol PCYDDS, cysylltwch â: v.johns@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07449&˛Ô˛ú˛ő±č;998476