PCYDDS yn Nodi Wythnos Dysgu Awyr Agored gyda Gweithgareddau Ymarferol mewn Natur
Yn ddiweddar, dathlodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru 2025 gyda chyfres o brofiadau dysgu ymarferol yn yr awyr agored a gynlluniwyd i ysbrydoli myfyrwyr prifysgol a disgyblion ysgolion lleol.
Trwy gydol yr wythnos, gwnaeth staff a myfyrwyr PCYDDS groesawu’r thema genedlaethol, sef ‘Dysgwyr Uchelgeisiol a Medrus’, trwy ddarparu sesiynau creadigol a diddorol mewn lleoliadau naturiol. Cynhaliwyd gweithgareddau yng ngardd gymunedol Yr Egin a Neuadd Chwaraeon campws Caerfyrddin, gan amlygu ymrwymiad y Brifysgol i ddysgu drwy brofiadau ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae’r sesiynau hyn yn enghraifft o ymrwymiad PCYDDS i ymgorffori dysgu awyr agored yn y cwricwlwm. Mae ymagwedd y Brifysgol yn alinio’n agos â nodau Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru, sydd wedi bod yn cael ei dathlu’n flynyddol ers 2019 i hyrwyddo manteision meddyliol, corfforol a chymdeithasol addysg awyr agored.
Cynhaliwyd dau weithdy gardd yn Yr Egin, dan arweiniad Glenda Tinney, darlithydd Blynyddoedd Cynnar PCYDDS, a Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin, gyda chefnogaeth myfyrwyr Blynyddoedd Cynnar PCYDDS. Cymerodd disgyblion Ysgol Gynradd Tre Ioan ac Ysgol Model yr Eglwys yng Nghymru ran mewn sesiwn seiliedig ar natur yn archwilio garddio a’r byd naturiol.
Wrth adfyfyrio ar y sesiynau, dywed Glenda Tinney:
“Mae cael gardd a gofod awyr agored arall i ddod â myfyrwyr iddynt i ymgysylltu â phwysigrwydd dysgu awyr agored mor bwysig ar gyfer myfyrwyr plentyndod cynnar. Mae archwilio, bod yn chwilfrydig a chael profiadau dilys yn y byd naturiol yn allweddol i ddatblygiad plant ifanc. Mae ein myfyrwyr yn elwa o gael y profiadau hyn fel y gallant hwythau brofi’r awyr agored eu hunain a deall pa mor arwyddocaol yw e. Mae’n caniatáu i fyfyrwyr weld sut mae datblygiad holistaidd plant yn cael ei gefnogi’n unigryw yn yr awyr agored ac i roi cynnig ar syniadau a mynd ati i chwarae.
“Mae gardd Yr Egin wedi caniatáu i ni ddod â phlant ysgolion lleol i archwilio a chymryd rhan yn natblygiad yr ardd. Mae’n help mawr i roi theori’r ystafell ddosbarth ar waith. Yn bwysicach na hynny i blant a’n myfyrwyr, mae’r profiadau’n hwyl ac yn cefnogi eu llesiant. Mae wythnos dysgu awyr agored yn ein hatgoffa pa mor hanfodol yw i ni gyd fentro tu allan ac archwilio. Edrychwn ymlaen at ragor o brofiadau yn y dyfodol, felly rydym yn defnyddio’r awyr agored yn rheolaidd drwy’r tymor i gefnogi dysgu myfyrwyr.”
Ychwanega Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin:
“Mae gweld myfyrwyr yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau go iawn a phlant ysgol yn ysbrydoledig – yn rhoi eu gwaith creadigol ar waith mewn ffyrdd ystyrlon. Mae’r cyfle i gyd-ddarparu gweithdai yn eu helpu i ddatblygu hyder, dychymyg, a dealltwriaeth ddofn o’r byd o’u cwmpas. Mae’r ardd yn ofod gwych ar gyfer dysgu a chysylltu, ac un o’n prif nodau yn Yr Egin yw cyfuno dychymyg creadigol a meithrin talentau’r dyfodol. Mae’n bleser darparu cyfle mor wych i gefnogi’r ysgolion lleol a hefyd myfyrwyr PCYDDS ar eu taith a gweld creadigrwydd a dysgu yn ffynnu mewn amgylchedd mor gydweithredol.”
Yn y cyfamser, bu gweithgaredd ar wahân yn y Neuadd Chwaraeon yn cynnwys myfyrwyr y rhaglenni Addysg Gorfforol ac Addysg Antur Awyr Agored. Dan arweiniad Heddwen Davies a Mache Treviño, sy’n ddarlithwyr, bu’r digwyddiad yn cyfrannu at Wythnos Dysgu Awyr Agored ac yn asesiad ymarferol ar gyfer myfyrwyr PCYDDS.
Cymerodd disgyblion cynradd Ysgol Llangynnwr ran mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys darllen mapiau, datrys problemau, bowldro ac adeiladu ffau. Meddai Heddwen:
“Ein nod yw magu hyder myfyrwyr wrth hwyluso dysgu awyr agored. Mae croesawu plant ysgol lleol i gymryd rhan mewn sesiynau bywyd go iawn yn cryfhau eu sgiliau ymarferol ac yn eu paratoi ar gyfer rolau yn y dyfodol fel addysgwyr ac arweinwyr addysg awyr agored.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476