Pwyso am newid i fenywod mewn chwaraeon moduro
Rydym wedi cael amser wrth ein bodd yn cynnal y rhaglen Girls on Track, menter ar y cyd rhwng yr FIA a Motorsport UK, gan groesawu disgyblion o ysgolion ledled y ddinas i’n cyfleusterau o’r radd flaenaf yn Adeilad IQ yn Abertawe, sy’n gartref i’n rhaglenni Peirianneg Chwaraeon Moduro, Peirianneg Fecanyddol a Pheirianneg Drydanol.

Nod y digwyddiad deuddydd oedd ysbrydoli ac annog diddordeb mewn pynciau a diwydiannau STEM ymhlith merched ysgol, gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad menywod yn y sectorau hyn. Gwnaed hyn drwy ddefnyddio chwaraeon moduro fel cyfrwng i roi profiad iddynt o’r cyfleoedd a’r llwybrau gyrfa anhygoel yn y maes.
Yn ystod y rhaglen cyflwynwyd y cyfranogwyr i wahanol agweddau ar y diwydiant, gan gynnwys peirianneg, mecaneg a gyrru. Trwy weithdai ymarferol a sesiynau addysgol gyda staff y Brifysgol, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mae’r fenter yn chwalu rhwystrau ac yn herio stereoteipiau rhywedd.
Mae dylunio, datblygu a chynnal cerbydau, peiriannau a thechnolegau modern yn elfennau blaenllaw yn rhaglenni Chwaraeon Moduro, Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol y Drindod Dewi Sant.
Gyda chyfleoedd i archwilio sgiliau sylfaenol peirianneg yn ogystal â sgiliau mwy arbenigol sydd eu hangen i arfogi myfyrwyr â’r sgiliau a ddymunir gan sectorau traddodiadol a datblygol, y nod yw cynhyrchu graddedigion cyflogadwy sy’n hyderus ac yn barod ar gyfer y gweithlu drwy roi iddynt y sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol sy’n eu paratoi ar gyfer byd gwaith sy’n newid.
Mae peirianneg yn parhau i fod yn faes sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, ac ar hyn o bryd dim ond 16.5% o beirianwyr yn y DU sy’n fenywod.
Dywedodd Abi Penny, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg: “Rydym yn angerddol am ysbrydoli a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol o dalent o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
“Ffocws allweddol i ni yw ysbrydoli a galluogi mwy o ferched i ymuno â’r diwydiant chwaraeon moduro ac felly roedd Girls on Track yn ddewis amlwg i ni i gefnogi a chynnal gweithgareddau - o ystyried y gwaith anhygoel y maent eisoes yn ei wneud. Rwy’n gobeithio y bydd y gweithgareddau a wneir yn ein Prifysgol yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod arloesol ym maes peirianneg a chwaraeon moduro.â€

Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071