ĂÜĚŇ´«Ă˝

Skip page header and navigation

Cynhaliodd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ei hail symposiwm ar ddydd Iau, 13 Hydref, ar y thema Cyflymu Arloesedd mewn Iechyd a Llesiant.

ATiC Symposium 2022 group photo

Cynhaliwyd y digwyddiad, oedd am ddim, rhwng 9:30am a 5pm a hynny wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe ac yn ogystal cafodd ei ffrydio’n fyw.

[Gellir gweld .]

Bu Symposiwm ATiC 2022 yn myfyrio ar effaith a gwaddol y rhaglen arloesol , gan arddangos sut mae Cymru’n cyflymu arloesedd drwy gydweithio rhwng y GIG a’r byd academaidd, ac yn grymuso cleifion drwy ymchwil sy’n seiliedig ar y defnyddiwr ac arloesi technolegau.

Partneriaid ATiC yn y rhaglen Cyflymu, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, yw Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n arwain y rhaglen.  Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i Sefydliad TriTech, y mae ATic a HTC yn bartneriaid academaidd allweddol ynddo, hefyd ymuno â Cyflymu ar gyfer y Symposiwm hwn.

Amlygodd y digwyddiad sut mae Cyflymu wedi creu cyfleoedd cydweithredol a phartneriaethau newydd ar draws sectorau a sefydliadau.  Gwnaeth hefyd edrych i’r dyfodol, wrth i’r cam hwn o’r rhaglen Cyflymu ddirwyn i ben ddiwedd Rhagfyr 2022.

Ymhlith y prif siaradwyr a agorodd y digwyddiad roedd yr Athro Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Roedd Sesiwn Un yn cynnwys cyflwyniadau ar y cyd gan arweinwyr pedwar sefydliad partner Cyflymu a’u mentrau astudiaethau achos.

Roedd Sesiynau Dau a Thri yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol (Gwyddoniaeth), ATIC, PCYDDS; yr Athro Alka S Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, TEC Cymru; Dr Lorna Tasker, Pennaeth Peirianneg Adsefydlu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ac o fyd diwydiant, Marcus Ineson, Prif Swyddog Marchnata NGPOD Global, a Jackie Crooks, Prif Swyddog Masnachol Kinsetsu Ltd.

Roedd Sesiwn Pedwar yn drafodaeth agored ynglĹ·n â’r camau nesaf yn y cyd-destun Prydeinig a Rhyngwladol o ran heriau gofal iechyd yn y dyfodol a gweithio gyda phartneriaid masnachol.

Cadeiriwyd y drafodaeth gan Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; gyda Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; a’r Athro Keir Lewis, Arweinydd Clinigol, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Meddygol Arloesedd Anadlol Cymru.

symposium-panel-session

˛Ń±đ»ĺ»ĺ˛ąľ±â€™r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Roedd y Brifysgol yn falch iawn o gynnal y gynhadledd nodedig hon oedd yn ceisio arddangos yr arloesedd a’r ymchwil diweddaraf a gyflawnwyd drwy’r rhaglen Cyflymu. 

“Mae’n enghraifft o sut y gall cydweithio rhwng y brifysgol a sectorau gofal iechyd ddarparu gwir fanteision a deilliannau gwell i gleifion yn ogystal â symbylu twf economaidd. Mae’r dull cydweithredol a chymhwysol hwn yn ganolog i strategaeth ymchwil ac arloesi’r brifysgol.”

˛Ń±đ»ĺ»ĺ˛ąľ±â€™r Athro Ian Walsh, Profost y Drindod Dewi Sant ar gampysau Abertawe a Chaerdydd a Chyfarwyddwr ATiC: “Gellir gweld gwir effaith ATiC a’i phartneriaid yn y rhaglen Cyflymu yn y nifer o fentrau a gefnogir i dyfu a datblygu eu busnesau. Mae’n amlygu’r rĂ´l hanfodol mae prifysgolion yn ei chwarae wrth symbylu arloesedd yng Nghymru ac wrth sicrhau ein ffyniant i’r dyfodol.”

Meddai Dr Sean Jenkins, Athro Cysylltiol y Drindod Dewi Sant a Chyfarwyddwr Ymchwil ATiC: “Roedd yr ail symposiwm hwn gan ATiC yn adeiladu ar lwyddiant ein digwyddiad cyntaf yn 2019, ac yn myfyrio ar effaith a gwaddol y rhaglen Cyflymu ac yn dathlu’r partneriaethau newydd a datblygol a’r cynlluniau cydweithredu rydym yn eu meithrin i symbylu ymchwil, datblygu ac arloesi mewn iechyd a llesiant.

“Roeddem yn falch iawn o groesawu cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd, menter a’r byd academaidd, ar gyfer digwyddiad cyffrous oedd yn ysgogi’r meddwl – gan fyfyrio ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni a’r hyn sydd eto i ddod.”

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy’n arwain rhaglen Cyflymu: “Mae’r Rhaglen Cyflymu wedi bod yn rhan bwysig o genhadaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i wneud Cymru yn lle rhagorol ar gyfer arloesedd gofal iechyd. Bydd y partneriaethau a ddatblygir rhwng y byd academaidd, diwydiant, ac iechyd a gofal cymdeithasol drwy’r rhaglen hon yn parhau i ddarparu manteision am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yn ddiweddar cyhoeddodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Adroddiad Effaith sy’n dathlu llwyddiant y rhaglen Cyflymu. Mae’r adroddiad yn amlygu sut mae Cyflymu wedi cefnogi busnesau newydd a busnesau bach a chanolig (BBaChau) i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technoleg, cynnyrch a gwasanaethau newydd mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.”  

˛Ń±đ»ĺ»ĺ˛ąľ±â€™r Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol (Gwyddoniaeth) ATIC, y Drindod Dewi Sant: “Mae llawer o ddatblygiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos yr hyn y gall gwir gydweithrediad ei gynnig ar draws y rhanbarth a ledled Cymru. Enghraifft o hyn yw’r bartneriaeth agos rydym wedi’i datblygu gyda’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) ym Mhrifysgol Abertawe.

“Fe wnaethon ni gyflwyno nifer o astudiaethau achos yn y Symposiwm lle mae’r GIG, partneriaid masnachol a’r byd academaidd wedi cydweithio i ddatblygu technolegau a dyfeisiau newydd a gwreiddiol. Mae’r partneriaethau hyn yn dangos sut y gall byrddau iechyd, y byd academaidd a diwydiant weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a phrofi dyfeisiau arloesol i sicrhau gwell deilliannau i gleifion. Mae’r partneriaethau hyn o bartneriaid cydradd yn canolbwyntio’n llwyr ar gyfrannu at a gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.”


Wedi’i ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, nod Cyflymu yn y pen draw yw creu gwerth economaidd parhaol i Gymru.

symposium-group

Gwybodaeth Bellach

Bethan Evans
Swyddog Prosiect, Marchnata a Chyfathrebu
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (CATC)
ĂÜĚŇ´«Ă˝ (PCYDDS)
Technium 1, Heol y Brenin
Abertawe, SA1 8PH

Ebost | Email bethan.evans@uwtsd.ac.uk

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau