Synergedd Sgiliau 2025: Grymuso Myfyrwyr Cymru gyda Sgiliau ac Arloesi Mewn Diwydiant
Cynhaliodd Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Synergedd Sgiliau llwyddiannus mewn cydweithrediad ag Academi Rhwydweithio Cisco a WorldSkills UK yn Arena Abertawe.
Gosododd y digwyddiad nodedig hwn gynsail newydd yng Nghymru, gan fod y cyntaf o’i fath i gyflwyno sesiynau Blasu Cystadleuaeth Sgiliau, gan gynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr brofi amgylchedd cystadleuaeth go iawn, deall ei bwysigrwydd, a chydnabod sut y gall y profiadau hyn lunio eu harbenigedd technegol a’u datblygiad gyrfa.
Darparodd Synergedd Sgiliau 2025 blatfform cynhwysfawr i gynulleidfa amrywiol gan gynnwys academyddion, myfyrwyr ysgol, myfyrwyr addysg uwch (AU), a myfyrwyr prifysgol. Roedd y digwyddiad yn cynnwys:
1. Sesiynau Blasu Cystadleuaeth Sgiliau - cael profiadau ymarferol o amgylcheddau cystadlu mewn Datblygu’r We, Rhwydweithio a Seiberddiogelwch, dan arweiniad Rheolwyr Hyfforddiant WorldSkills UK, Suresh Kamachisundaram, Val Adamescu a Nitheesh Kaliyamurthy.
2. Sesiynau Blasu Pwnc-benodol - Canolbwyntio ar Gyfrifiadura, Gemau, Animeiddio a VFX, gan alluogi myfyrwyr i archwilio technolegau arloesol a gofynion y diwydiant.
3. Rhyngweithio â Chyflogwyr ac Ymgysylltu â’r Diwydiant - Cysylltu myfyrwyr yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol blaenllaw’r diwydiant er mwyn cael mewnwelediadau i gyfleoedd gyrfa cyfredol a datblygol.
4. Cynhadledd Athrawon blynyddol - Dod ag addysgwyr at ei gilydd i drafod y cwricwlwm, arfer gorau a rĂ´l AI mewn sefydliadau academaidd.
Gyda dros 168 o gofrestriadau ar gyfer y 120 o seddi a oedd ar gael, daeth dros 75 o gyfranogwyr i ymgysylltu â’r digwyddiad. Cymerodd fwy na 50 o fyfyrwyr ran weithredol yn y Sesiwn Blasu Cystadleuaeth Sgiliau, gan gael mewnwelediadau gwerthfawr i fframwaith cystadlu WorldSkills Uk a’r buddion o gymryd rhan mewn amgylcheddau dysgu cystadleuol.
Croesawodd Debra Williams, Pro Is-Ganghellor PCYDDS yr holl gyfranogwyr i’r digwyddiad, gan atgyfnerthu ymrwymiad y brifysgol i bontio’r bwlch rhwng addysg a’r diwydiant. Roedd yn fraint croesawu Chris Reeves, Is-lywydd (EMEA) ac Elizabeth Barr, Pennaeth Academi Rhwydweithio Cisco ar gyfer UKA-Nordics, a Tom Collins, Uwch Ddatblygwr y DVLA a roddodd fewnwelediadau i dueddiadau’r diwydiant a llwybrau gyrfa.
Roedd y digwyddiad nid yn unig wedi darparu profiadau gwerthfawr i fyfyrwyr, addysgwr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ond hefyd wedi paratoi’r ffordd ar gyfer cydweithredu, cystadlaethau ac arloesi mewn addysgu sgiliau digidol yn y dyfodol.
Prif uchafbwynt y digwyddiad oedd y drafodaeth banel ar “Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Addysg: Trawsnewid Ystafelloedd Dosbarth i Yrfaoedd.” Roedd y sesiwn hon a sbardunodd trafodaethau ystyrlon ar rôl esblygol AI mewn addysg wedi cynnwys arbenigwyr o’r diwydiant a sefydliadau academaidd, gan gynnwys Andrew Smith, Uwch Ddarlithydd y Brifysgol Agored, Joanne Ralph, Cyber First, Rebena Sanghera, Hyfforddwr Perfformiad Uchel, WorldSkills Uk. Roedd yn bleser gweld un o’n myfyrwyr Blwyddyn olaf, Daniel James yn cymryd rhan fel aelod o’r panel, gan gynnig persbectif myfyriwr ar effaith AI ar ddysgu a gyrfaoedd.
Meddai Kapilan Radhakrishnan Cyfarwyddwr Academaidd Cyfrifadura Cymhwysol PCYDDS:
“Mae’r Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yn PCYDDS wedi arloesi fel Canolfan Ragoriaeth mewn Hyfforddiant ar gyfer Sgiliau Gweinyddu Rhwydweithiau a Systemau, Seibrddiogelwch yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cefnogaeth barhaus y brifysgol ar gyfer cystadlaethau sgiliau wedi arwain at ennill Medaliwn o Ragoriaeth mewn Cystadlaethau WorldSkills
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07449&˛Ô˛ú˛ő±č;998476