Taith: Ehangu Gorwelion a Thrawsnewid y Dyfodol yn PCYDDS
Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), credwn fod profiadau rhyngwladol yn allweddol i lunio graddedigion hyderus, tosturiol, a rhai â meddylfryd byd-eang. Yn yr erthygl hon, mae Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS, yn archwilio pwysigrwydd Taith, rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru a sut mae’n trawsnewid bywydau ar draws cymuned y brifysgol trwy agor cyfleoedd sy’n newid bywydau i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd.

“Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae ymgysylltu byd-eang yn elfen graidd o ragoriaeth addysgol. Un o alluogwyr mwyaf pwerus y genhadaeth hon yw Taith, rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Mae Taith wedi dod yn gynllun hanfodol sy’n sbarduno cyfle, dyhead a chynhwysiant i fyfyrwyr a staff yn PCYDDS, gan helpu i ddarparu profiadau rhyngwladol sy’n newid bywydau ledled y byd.
Wedi’i gynllunio i agor drysau i ddysgu byd-eang, mae Taith yn cefnogi pobl yng Nghymru i astudio, gwirfoddoli neu ennill profiad proffesiynol dramor. Mae hefyd yn ariannu cyfleoedd i fyfyrwyr, staff a gwirfoddolwyr rhyngwladol ymweld â Chymru, gan greu rhaglen gyfnewid ddeinamig ddwyffordd sy’n cyfoethogi cymunedau cartref a lletyol.
Mae Taith yn gynhwysol, yn uchelgeisiol ac yn bellgyrhaeddol. Mae’n cefnogi dysgwyr ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys:
- Addysg Uwch
- Addysg Bellach a Galwedigaethol
- Addysg Oedolion ac Ieuenctid
- Ysgolion
Ond yn fwy na hynny, mae’n rhaglen sydd wedi’i gwreiddio mewn tegwch. Mae cymorth ychwanegol ar gael i sicrhau nad yw pobl o gefndiroedd difreintiedig, unigolion anabl, a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan.
I PCYDDS, mae Taith wedi bod yn drawsnewidiol. Mae’r brifysgol yn defnyddio cyllid Taith i gefnogi amrywiaeth eang o gyfleoedd symudedd, o ymweliadau grŵp academaidd, lleoliadau astudio a lleoliadau gwaith dramor i fyfyrwyr, i gynlluniau cyfnewid i staff ym maes addysgu a hyfforddi. Mae’r profiadau hyn yn eu cyflwyno i wahanol ddiwylliannau, diwydiannau a ffyrdd o feddwl, sydd yn amhrisiadwy.
Mae gan y brifysgol bartneriaethau rhyngwladol ledled y byd, gan gynnwys yng Ngogledd America, Tsieina, Japan, ac Ewrop. Trwy Taith, mae myfyrwyr a staff yn gallu ymgolli mewn amgylcheddau sy’n herio eu safbwyntiau ac yn ehangu eu dealltwriaeth, sgiliau hanfodol ar gyfer y byd cydgysylltiedig sydd ohoni.
Mae gwerth Taith yn amlwg yn y gweithgareddau cyfnewid anhygoel y mae’n eu galluogi. Fis diwethaf (Mai), ymwelodd myfyrwyr PCYDDS â Phrifysgol Technoleg Wuhan (WUT) yn Tsieina, gan gymryd rhan mewn cyfnewidiadau diwylliannol, gweithdai academaidd, arddangosfeydd, a digwyddiadau cydweithredol gyda myfyrwyr Tsieineaidd. Gwnaeth yr ymgysylltu ymarferol hwn feithrin cyd-ddealltwriaeth ac arddangos talent o Gymru ar lwyfan rhyngwladol.
Yn ddiweddarach ym mis Mehefin, bydd dirprwyaeth newydd o fyfyrwyr PCYDDS yn teithio i Japan, gan ymweld â Tokyo, Osaka, a sawl prifysgol a sefydliad partner. Mae eu rhaglen lawn yn cynnwys:
- Cyfarfodydd â phrifysgolion Soka a Rikkyo
- Ymweliadau diwylliannol i Fynydd Fuji a Ffatri Toyota
- Cyfarfodydd llywodraeth gyda Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Tokyo
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid busnes ac addysg rhyngwladol
Mae mwy i’r ymweliadau hyn na theithio. Maent yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth, adeiladu pontydd diplomyddol ac academaidd, a chreu eiliadau dysgu bythgofiadwy sy’n para am oes.
Mae Taith yn sefyll allan nid yn unig am gyrhaeddiad rhyngwladol y cynllun ond hefyd am ei genhadaeth gymdeithasol. Mae llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan gyda PCYDDS yn deithwyr tro cyntaf neu’n fyfyrwyr na fyddai ganddynt y modd ariannol, efallai, fel arall i gael mynediad at brofiadau rhyngwladol. Trwy gynllun Taith, mae’r rhwystrau hyn yn cael eu chwalu.
Mae Taith nid yn unig yn cyfoethogi myfyrwyr a staff gyda chyfleoedd amhrisiadwy ond hefyd yn gwella enw da Cymru yn fyd-eang. Mae pob dysgwr yn dod yn llysgennad, gan ymgorffori ein gwerthoedd o arloesi, sicrhau cynhwysiant a chydweithredu ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’r fenter hon yn offeryn pwerus o ddiplomyddiaeth feddal, sydd wedi’i wreiddio mewn addysg a phrofiadau a rennir. A minnau wedi gweithio yn y brifysgol er 2001, ni allwn fod yn falchach o’r effaith drawsnewidiol rydym yn ei meithrin.
Ac mae’r effaith yn hirhoedlog. Mae cyfnewidiadau a ariennir gan Taith yn creu effeithiau ymledol, yn ysbrydoli gyrfaoedd yn y dyfodol, yn meithrin partneriaethau rhyngwladol, ac yn ymgorffori sgiliau rhyngddiwylliannol mewn sefydliadau yng Nghymru.
Wrth i PCYDDS edrych tua’r dyfodol, mae’r bartneriaeth gyda Taith, sydd bellach wedi’i hymestyn tan 2028, yn bwysicach nag erioed. Mewn byd sy’n wynebu heriau cymhleth, o newid yn yr hinsawdd i anghydraddoldeb cymdeithasol, nid yn unig y mae cydweithredu rhyngwladol yn fuddiol, mae’n hanfodol.
Gyda theithiau i ddod i Japan, Ewrop a thu hwnt, mae myfyrwyr a staff PCYDDS yn parhau i gael profiad o’r byd, cyfnewid syniadau, a dychwelyd wedi’u trawsnewid, yn barod i arwain, addysgu ac ysbrydoli gartref a thramor.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071