Ҵý

Skip page header and navigation

Mae tîm pêl-rwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cael chwip o dymor, gan orffen y flwyddyn heb eu trechu ac wedi ennill dyrchafiad haeddiannol i Adran 5 y Gorllewin. Gan gystadlu mewn deg gêm, gartref ac oddi cartref, dangosodd y tîm gysondeb, sgil a phenderfyniad rhyfeddol, gan sicrhau buddugoliaeth ym mhob gêm a chipio pencampwriaeth y cynghrair.

a photo of the netball team celebrating their win with the cup

Mae’r tîm wedi dangos twf aruthrol, yn enwedig wrth integreiddio llawer o chwaraewyr blwyddyn gyntaf. Er gwaethaf heriau creu deinameg tîm newydd, llwyddon nhw i ddatblygu cemeg gref yn gyflym a chydweithio i sicrhau llwyddiant. Mae eu gallu i addasu a pherfformio ar lefel mor uchel yn tynnu sylw at ddyfnder y doniau yn y garfan a’r diwylliant tîm cadarnhaol sydd wedi cael ei feithrin drwy gydol y tymor.

Yn ogystal â’u llwyddiant yn y cynghrair, cafodd y tîm pêl-rwyd rediad arbennig yn Nhlws y Gynhadledd, gan ddangos eu dygnwch cystadleuol mewn cystadleuaeth bwrw allan. Wrth gyrraedd y rownd gyn-derfynol, profon nhw eu gallu i berfformio dan bwysau, gan gadarnhau ymhellach eu statws yn dîm i’w ofni.

Mynegodd Hannah Poole, Pennaeth Pêl-rwyd yn PCYDDS, ei balchder yng nghyflawniadau a chynnydd y garfan y tymor hwn. Meddai:

“Mae’r tîm wedi gweithio’n galed eleni ac wedi bod yn fuddugol. Rwy’n falch dros ben o beth mae’r tîm hwn wedi’i gyflawni a dwi’n methu aros i weld beth y gallwn ni ei wneud y flwyddyn nesaf. Ry’n ni wedi cael dechrau anodd i bêl-rwyd yn y brifysgol; ond eleni, mae gwaith caled y tîm wedi talu ar ei ganfed. Diolch yn fawr a llongyfarchiadau i’r holl aelodau sydd wedi cynrychioli eu prifysgol ar y cwrt. Nawr mae’r Drindod Dewi Sant wedi cael ei gydnabod yn y byd pêl-rwyd.”

Wrth i’r tymor ddirwyn i ben, mae’r tîm eisoes yn paratoi ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau ni. Gyda’u dyrchafiad i Adran 5 y Gorllewin, byddan nhw’n wynebu cystadleuaeth anoddach, ond mae eu perfformiadau y tymor hwn wedi profi eu bod nhw’n fwy na pharod i godi’r her ar yr achlysur. Bydd y paratoadau ar gyfer y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi, a’r garfan yn canolbwyntio ar adeiladu ar eu llwyddiant a pharhau â’u datblygiad.

Yn y cyfamser, mae’r academi yn ehangu ei chyfleoedd chwaraeon, gan ganolbwyntio ar sefydlu tîm rygbi menywod i gystadlu yn nhwrnamaint BUCS 7s sydd ar ddod. Nod y fenter hon yw annog rhagor o athletwyr benywaidd i gymryd rhan mewn chwaraeon prifysgol cystadleuol, gan roi cyfle iddyn nhw gynrychioli’r Drindod Dewi Sant ar lefel uchel. Gall unrhyw un sy’n awyddus i gymryd rhan mewn chwaraeon prifysgol a chyfrannu i lwyddiant parhaus timau’r Drindod Dewi Sant estyn allan am ragor o wybodaeth. I gymryd rhan, cysylltwch â Hannah Poole yn h.poole@pcydds.ac.uk.

Mae’r tymor hwn wedi bod yn flwyddyn garreg filltir i bêl-rwyd Y Drindod Dewi Sant, gyda’u buddugoliaeth yn y cynghrair a’u twf parhaus yn gosod y llwyfan ar gyfer hyd yn oed mwy o lwyddiant yn y dyfodol. Gyda gwaith caled, ymroddiad, ac ysbryd tîm cryf, mae’r garfan mewn sefyllfa dda ar gyfer cyflawniadau pellach yn y tymhorau sydd i ddod.

I gael rhagor o wybodaeth am dîm pêl-rwyd Y Drindod Dewi Sant, ewch i: 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon