Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gefnogi Gwobrau Ffitrwydd Cymru 2025, a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd, lle cafodd dau o’i myfyrwyr rhagorol eu cydnabod yn ‘Myfyrwyr y Flwyddyn’ yn eu categorïau priodol.

a group photo of Geraint Forster with students holding the award at the Ceremony

Dyfarnwyd gwobr Myfyrwraig y Flwyddyn i Amy Roberts, sy’n astudio ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Hyfforddiant Personol a Thylino Chwaraeon ar gampws Caerfyrddin PCYDDS. Dechreuodd ei hangerdd am hyfforddiant yn 2023 pan ddarganfu hyfforddiant pwysau ar ôl cael yr ail o’i phlant. Mae hi’n gredwr cryf mewn adsefydlu trwy ymarfer corff ac athroniaeth ‘corff cryf, meddwl cryf’. 

Ar ôl ennill ei Gwobr Hyfforddwr Campfa L2 yn rhan o’r cwrs ym mis Ionawr, mae Amy eisoes wedi dechrau cyflwyno dosbarthiadau cryfder yng nghampfa KC Leisure i fenywod yn unig yng Nghaerfyrddin, a bydd yn cwblhau ei dyfarniad Hyfforddwr Personol Lefel 3 erbyn mis Mehefin, ac ar ôl hynny bydd yn ceisio adeiladu ei sylfaen cleientiaid. Ar ôl cwblhau’r Tyst AU, mae Amy yn gobeithio parhau i’r cwrs gradd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff i barhau â’i haddysg.

Derbyniodd Jayden Rees, myfyriwr blwyddyn gyntaf ar y rhaglen BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, wobr Myfyriwr y Flwyddyn. Ar ôl gweithio mewn ffatri, dechreuodd Jay hyfforddiant campfa ar ôl camu i ffwrdd o rygbi a datblygodd ddiddordeb cryf yn y maes yn gyflym. Arweiniodd ei angerdd am ei hobi ef i gofrestru ar gwrs hyfforddwr campfa a hyfforddwr personol ar-lein i ddechrau, wedyn arweiniodd ei awch i ddysgu rhagor ato’n cofrestru ar radd BSc tair blynedd yn PCYDDS. Er ei fod wedi bod allan o addysg ers nifer o flynyddoedd, mae Jay ymdaflu i’w astudiaethau gydag egni, gan ennill marciau rhagorol ar agweddau academaidd ac ymarferol y cwrs. Mae eisoes yn gweithio’n rhan-amser yng nghampfa Vitality ym Mhort Talbot ac mae’n arweinydd ac yn fodel rôl i’w gyd-fyfyrwyr.

Meddai Geraint Forster, Rheolwr Rhaglen yn PCYDDS Caerfyrddin:

“Mae Amy a Jay yn ymgorffori’r math o fyfyriwr rydyn ni’n tueddu i’w ddenu ac yn mwynhau gweithio gyda nhw ar ein cyrsiau yma yn PCYDDS yng Nghaerfyrddin. Mae’r ddau ohonyn nhw’n fyfyrwyr aeddfed, wedi gweithio mewn gwahanol ddiwydiannau o’r blaen, ond maen nhw wedi darganfod angerdd am ymarfer corff ac iechyd, ac am droi’r angerdd hwnnw yn yrfa werth chweil. Mae’r ddau eisoes wedi dechrau gweithio ym maes ffitrwydd, ond maen nhw’n sylweddoli’r budd o ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach trwy astudio am radd Prifysgol. Mae Amy wedi dewis astudio’n rhan-amser gan fod ganddi ddau o blant ifanc a’i bod hi’n rheoli siop goffi. Mae Jay yn astudio’n amser llawn, ond mae’n dal i drefnu ychydig o shifftiau yr wythnos yn ei gampfa ochr yn ochr â’i astudiaethau.”

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol PCYDDS, ewch i: Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
I ddysgu rhagor am Wobrau Ffitrwydd Cymru, ewch i: 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon