Ҵý

Skip page header and navigation

Mae dathliad o gydweithio arloesol rhwng celf weledol a pherfformio, dan arweiniad cyfraniadau’r Athro Sue Williams o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), i’w weld yn arddangosfa dros dro KABEL yn Oriel Mission, Abertawe o 25 Ionawr. 

image by Sue Williams for the KABEL exhibition

Bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 8 Chwefror, ac mae’n amlygu rôl hanfodol yr Athro Williams ochr yn ochr â gwaith arloesol KABEL, dan arweiniad y brodyr  Anthony a Kel Matsena. 

Mae’r Athro Williams, artist gweledol ac addysgwr uchel ei pharch, yn enwog am ei gwaith sy’n ysgogi’r meddwl ac sy’n drawiadol yn weledol. Mae ei phrofiad helaeth o weithio gyda choreograffwyr a dawnswyr wedi llywio ei dull nodedig, sy’n integreiddio celf weledol yn llyfn â byd tri-dimensiwn perfformio. Fel Rheolwr Rhaglen Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn PCYDDS, mae ei hymrwymiad i ehangu arfer artistig i’w weld yn ei gwaith gyda KABEL.

Meddai: “A minnau wedi gweithio ar gydweithrediadau gyda choreograffwyr a dawnswyr ers blynyddoedd lawer, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ailymweld â’r potensial gwych sy’n deillio o gyfuno fy ngwaith o fewn gofod tri dimensiwn, gan gydweithio ag Anthony a Kel o Matsena Productions.  Y gwaith hwn yw cychwyn y darlun ehangach a fydd yn digwydd fel profiad teithio mwy. 

“Mae fy hanes o weithio gyda choreograffwyr a dawnswyr, a chaniatáu i’m gwaith ehangu i’r byd 3-dimensiwn, wastad wedi bod yn rhan hanfodol o’m harfer. Mae’n cynnig cyfle i mi weithio gydag amlgyfryngau ac ehangu fy iaith weledol.

“Hoffwn ddiolch i Oriel Mission am roi ‘bywyd’ i’r cydweithrediad hwn ac edrychaf ymlaen at weithio tuag at y darlun ehangach yn KABEL.”

image by Sue Williams for the KABEL exhibition

Ymunodd Anthony a Kel, ill dau’n goreograffwyr, ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr medrus, â’r Athro Sue Williams i ddylanwadu ar elfennau gweledol Kabel. Mae’r ymdrech gydweithredol yn ehangu ymhellach i gynnwys yr artist sain Beth Lewis, y ffotograffydd Laurentina Miksys, y fideograffydd Alex Hermon a’r artist gweledol Melissa Rodrigues. Mae Laurentina a Melissa wedi astudio yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS o fewn eu meysydd arbenigol, a Melissa wedi’i haddysgu gan Sue.

Mae cynnwys celfyddyd ac arweinyddiaeth yr Athro Williams wedi bod yn hanfodol i allu KABEL i bontio disgyblaethau, gan gynnig profiad gwirioneddol ddynamig ac uchelgeisiol i gynulleidfaoedd. Mae ei gwaith yn parhau i ysbrydoli a dyrchafu’r broses gydweithredol sy’n diffinio KABEL.

image by Sue Williams for the KABEL exhibition

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon