Ҵý

Skip page header and navigation

Mae Paul Osborne, Pennaeth Diogelu Data ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn paratoi i ymgymryd â her ryfeddol i godi arian i Maggie’s yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Paul Osborne in wet suit standing in lake

Bydd Paul yn ceisio nofio’r tri llyn mwyaf yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr mewn un diwrnod, gan gwmpasu cyfanswm pellter o 23 milltir. Bydd ei daith yn mynd ag ef o Ullswater (7 milltir) i Lyn Windermere (11 milltir) ac yn olaf i Coniston Water (5 milltir). I roi hyn mewn persbectif, mae hyn ymhellach na nofio’r Sianel (tua 21 milltir).

O dan oruchwyliaeth arbenigol Q Swim, mae Paul yn anelu at gwblhau’r her mewn llai na 14 awr, os bydd y tywydd yn caniatáu. Mae’n ymgymryd â’r gamp anhygoel hon i godi arian Maggie’s yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ac er cof am ei fam, a fu farw’n ddiweddar ac a fu’n gefnogwr gydol oes i’w daith nofio.

Rhannodd Paul ei farn ar yr her:

“Mae hon yn her bersonol a chorfforol i mi, ond mae hefyd yn ffordd y gallaf roi rhywbeth yn ôl i elusen wych. Mae Maggie’s yn darparu cefnogaeth anhygoel i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ganser, ac rwy’n gobeithio codi cymaint â phosibl i helpu eu gwaith hanfodol. Mae hefyd er cof am fy Mam, a fu farw’n ddiweddar iawn ac a gefnogodd fi fel nofiwr ifanc cystadleuol a thrwy gydol fy ngyrfa nofio (parhaus) - hi oedd fy nghefnogwr mwyaf!  Bydd hi’n dipyn o her, ond rwy’n edrych ymlaen at yr antur a’r cyfle i wthio fy hun i’r eithaf.”

Gellir gwneud rhoddion i gefnogi her Paul drwy’r ddolen ganlynol: 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon