Ҵý

Skip page header and navigation

Bu Alexandra Büchler, cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (LLAFF) a chyd-gyfarwyddwr strategol Cyfnewidfa Lên Cymru (CLC) yn siarad mewn cynhadledd nodedig a gynhaliwyd yn Senedd Ewrop ar 2-4 Hydref 2024.

Alexandra Büchler, director of Literature Across Frontiers and strategic co-director of Wales Literature Exchange, recently delivered a keynote speech at a landmark European conference on literary translation held at the European Parliament in Strasbourg from 2-4 October 2024

Mae LLAFF a CLC yn ddwy fenter hirsefydlog wedi’u lleoli yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd yn meithrin cydweithio llenyddol rhyngwladol, hyrwyddo ysgrifennu o Gymru a chefnogi ei gyfieithu.

Daeth holl gyfranogwyr allweddol maes cyfieithu llenyddol Ewropeaidd ynghyd yn y gynhadledd gyda swyddogion o’r Comisiwn Ewropeaidd a’r Asiantaeth Addysg a Diwylliant Gweithredol Ewropeaidd sy’n gyfrifol am gefnogaeth ar gyfer cylchrediad llenyddiaeth a gweithwyr llenyddol proffesiynol, gyda 300 yn mynychu wyneb yn wyneb a dros 1500 yn dilyn y trafodaethau ar-lein.

Bu Alexandra Büchler yn siarad am bŵer rhwydweithiau ym maes datblygu diwylliannol ac yn cynrychioli ENLIT Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Cyfieithu Llenyddol fel aelod o’r bwrdd.  Wrth fyfyrio ar ei chyfraniad dywedodd:

“Roedd yn anrhydedd cael fy ngwahodd i siarad yn y digwyddiad pwysig hwn ar ran ENLIT, rhwydwaith a gafoidd ei chyd-sefydlu gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau ac sydd bellach yn cysylltu 30 o sefydliadau o bob rhan o Ewrop. Roedd fy nghyfraniad i’r gynhadledd yn tanlinellu pwysigrwydd ein hymdrechion cyson i barhau i fod yn rhan o fyd llenyddol a rhwydweithiau Ewrop, er gwaethaf ymadawiad y DU o’r UE, a wrthododd inni gael mynediad at ffynonellau cyllid Ewropeaidd gyda chanlyniadau trychinebus ar adeg o doriadau yng nghyllideb y celfyddydau a diwylliant. Rydym yn parhau i gychwyn a chefnogi prosiectau cyfnewid a chydweithredu sy’n cynnig cyfleoedd arbennig i awduron sy’n dod i’r amlwg o Gymru gysylltu â’u cyfoedion Ewropeaidd a mynychu gwyliau llenyddol a digwyddiadau eraill.”

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Mae rhwydweithio â chydweithwyr Ewropeaidd yn hanfodol ar gyfer ein datblygiad diwylliannol ac rydym yn weithgar mewn sawl rhwydwaith allweddol, gan gynnwys ENLIT, ELEN (Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop), Culture Action Europe a Llwyfan Cymdeithas Sifil Ewrop ar gyfer Amlieithrwydd. “

Alexandra Büchler, director of Literature Across Frontiers and strategic co-director of Wales Literature Exchange, recently delivered a keynote speech at a landmark European conference on literary translation held at the European Parliament in Strasbourg from 2-4 October 2024

NODIADAU I OLYGYDDION

Cyswllt: Alexandra Büchler: alexandra@lit-across-frontiers.org

  • Mae LLAFF a CLC wedi ei lleoli yng y Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru sydd ger y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cefnogir gweithgareddau LLAFF a CLC gan Gyngor Celfyddydau Cymrua chyllidwyr eraill.
  • Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil bwrpasol sy’n cynnal prosiectau i dimau ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Fe’i lleolir yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint enwog yn rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil ardderchog.
  • Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn amgylchedd sy’n ddeinamig a chefnogol. Rydym yn croesawu ymholiadau am bynciau MPhil/PhD yn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil, neu am sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Graddedigion Ôl-radd, Dr Elizabeth Edwards:  e.edwards@wales.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon