Gwobrau Llenyddol Prifysgol Cymru
Mae Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol.

Cyflwynwyd Gwobr Hywel Dda 2022 i Dr Sara Elin Roberts am ei chyfrol The Growth of Law in Medieval Wales, c.1100–c.1500 (Boydell & Brewer, 2022). Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith 2022 i Dr Gareth Evans-Jones am ei gyfrol, ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838–1868) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022).

Mae Dr Sara Elin Roberts (DPhil Rhydychen) yn hanesydd sydd yn awdurdod ar Gyfraith Hywel a diwylliant Cymru a’r Mers o’r ddeuddegfed i’r bymthegfed ganrif. Yn ogystal â’i gwaith ar y cyfreithiau, mae hi hefyd wedi gweithio ar Dafydd ap Gwilym, yr enwocaf o’r beirdd Cymraeg canoloesol.
Yn ogystal â chyfrannu at y golygiad newydd o’i gerddi a gyhoeddwyd yn 2010, mae hi hefyd wedi cyhoeddi astudiaethau unigol ar wahanol agweddau o’i waith. Rhai o’i chyhoeddiadau nodedig ym maes Cyfraith Hywel yw Llawysgrif Pomffred: An Edition and ÃÜÌÒ´«Ã½ of Peniarth MS 259B (‘Medieval Law and its Practice Series’, Brill, 2010), The Legal Triads of Medieval Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007; ailargraffiad 2011), a The Growth of Law in Medieval Wales, c.1100–c.1500 (Boydell & Brewer, 2022). Cafodd ei hethol yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
Meddai Dr Roberts: “Mae’n bleser mawr gen i dderbyn Gwobr Hywel Dda eleni, ac mae’n fraint dilyn yn ôl traed cymaint o ysgolheigion o bwys ym maes astudiaethau ar y cyfreithiau. Diolch o galon i’r pwyllgor am eu geiriau caredig ac am eu holl gefnogaeth.â€
Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu milflwyddiant Hywel Dda ym 1928.

Enillydd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith yw Dr Gareth Evans-Jones sydd yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Astudiodd am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, MA mewn Ysgrifennu Creadigol Cymraeg a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a ffrwyth ei ymchwil ddoethurol, a gwblhaodd dan arweiniad yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Emeritws Eryl Wynn Davies, yw ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth, 1838–1868’ (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022). Ynghyd â bod yn academydd, mae Gareth yn llenor sy’n ysgrifennu rhyddiaith, drama a barddoniaeth.
Mae wedi cyhoeddi dwy nofel, sef Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn, 2018) ac Y Cylch (Gwasg y Bwthyn, 2023); wedi llunio cyfrol o lên feicro a ffotograffau, Cylchu Cymru (Y Lolfa, 2022), a enillodd wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023; ac wedi golygu’r flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg: Curiadau (Barddas, 2023). Yn ogystal, mae wedi ennill rhai gwobrau am ei waith sgriptio, gan gynnwys Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a 2021, ac wedi llunio dramâu yn cynnwys Adar Papur (2020) ac Ynys Alys (Frân Wen, 2022).
Meddai Dr Evans-Jones: “Rydw i wedi cael sioc enfawr o dderbyn y wobr hynod yma. Roedd llunio’r thesis doethurol oedd yn sail i’r llyfr dan arweiniad dau ysgolhaig eithriadol, ac yna gydweithio â Gwasg Prifysgol Cymru ac Aled Llion Jones, yn werthfawr iawn, ac mae clywed fod y Gronfa wedi dyfarnu ‘Mae’r Beibl o’n tu’ yn deilwng o’r wobr yn deimlad tu hwnt i eiriau. Diolch o waelod calon i bawb oedd yn rhan o’r broses ddyfarnu. Mae hyn yn hwb enfawr ac rydw i’n eithriadol ddiolchgar.â€
Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y cyhoeddiad gorau yn y Gymraeg sy’n ymdrin â llenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg neu eu gweithiau. Daw’r Wobr o gronfa a godwyd i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860–1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn.
Meddai Dr Stuart Robb ar ran Prifysgol Cymru: “Mae Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith a Gwobr Hywel Dda yn parhau i fod yn ffordd bwysig o annog, meithrin a dathlu ymchwil academaidd i’n hanes a’n diwylliant. Rydym yn falch iawn fod y gwobrau eleni wedi cydnabod cyfraniadau sylweddol i ddealltwriaeth o hanes cyfreithiol Cymru a hanes y Cymry alltud. Ar ran yr Ymddiriedolwyr, hoffwn longyfarch Dr Gareth Evans-Jones a Dr Sara Elin Roberts ar eu llwyddiant.â€
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Hoffem longyfarch y Dr Sara Elin Roberts a’r Dr Gareth Evans-Jones yn wresog iawn ar ennill y gwobrau nodedig hyn sy’n cydnabod eu cyfraniadau gwerthfawr i ysgolheictod yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Hoffwn ddiolch i’n beirniaid am eu gwaith trylwyr ac i’r Ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth barhaus.â€
Ataliwyd Gwobr Goffa Vernam Hull 2022.
Nodyn i’r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref :.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467076