密桃传媒

Skip page header and navigation

Rydym wrth ein boddau gyda’r newyddion bod myfyrwyr blwyddyn gyntaf 笔别苍蝉补别谤苍茂补别迟丑 PCYDDS wedi ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth ddylunio ryngwladol a gynigiwyd gan Student Climate Action Network (StuCAN) - cangen o Architects Climate Action Network (ACAN) sydd o dan arweiniad myfyrwyr.

Poster sy'n enwi ennillydd y cystadleuaeth StuCAN
Students Climate Action Network (鈥婼tuCAN) yw'r gangen dan arweiniad myfyrwyr Architects Climate Action Network (ACAN)

Yn rhan o daith maes amlddisgyblaethol i Barc Gwledig Craig y Nos, cafodd myfyrwyr 笔别苍蝉补别谤苍茂补别迟丑 PCYDDS y dasg o ddylunio pencadlys gweithredu hinsawdd symudol mewn ymateb i friff cystadleuaeth fyw a gyhoeddwyd gan StuCAN. Gyda 137 o geisiadau trawiadol wedi’u cyflwyno ar draws 11 gwlad, roedd y cynnig buddugol - 鈥楾angled Roots鈥 - yn sefyll allan i’r rheithgor uchel ei barch am ei geinder, ei allu i addasu a’i neges bwerus.

Canmolodd y panel beirniadu, a oedd yn cynnwys arweinwyr maes dylunio cynaliadwy - gan gynnwys Brigitte Clements (Loki Architecture), Nick Newman (Studio Bark ac U-Build), Aude Azzi (Stiff+Trevillion, Athar Collective), Jonathan Irawan (Hassell Studio), Kelly Harrison (Whitby Wood), ac Anzir Boodoo (Gweithredu ar Newid Hinsawdd Leeds) - y dyluniad am ei ymateb meddylgar i’r briff a’i aliniad 芒 gwerthoedd gweithredu ar newid hinsawdd.

鈥淢ae 鈥楾angled Roots鈥 yn ymateb hyfryd o feddylgar sy’n ymgorffori ysbryd yr hyn y mae’r gystadleuaeth hon yn gobeithio ei ysbrydoli,鈥 meddai’r beirniaid. 鈥淣id yn unig y mae鈥檔 creu strwythur, ond hefyd platfform - ar gyfer cysylltu, deialog, gweithredaeth, a chymuned.鈥

Adfyfyriodd y t卯m buddugol, dan arweiniad y myfyriwr Luc Harris, ar y profiad:

鈥淢ae hon yn anrhydedd anhygoel. Roedd y gystadleuaeth yn heriol ac yn hwyl, gan ein galluogi i archwilio pensaern茂aeth o safbwynt newydd - cynaliadwyedd a hygludedd 鈥 a鈥檔 grymuso i lunio dyfodol yn well. Diolch i bawb yn StuCAN am friff mor ddiddorol ac i PCYDDS am y cyfle i ymweld 芒 Pharc Gwledig Craig y Nos a fu鈥檔 sail i鈥檔 dyluniad.鈥

poster yn arddangos prosiect myfyrwyr 笔别苍蝉补别谤苍茂补别迟丑 o'r enw Tangled Roots
'Tangled Roots' yw prosiect myfyrwyr 笔别苍蝉补别谤苍茂补别迟丑 blwyddyn gyntaf, Luc Harries a Tom Williams

Dathlodd Rhian Jenkins, Cyfarwyddwr Academaidd, y llwyddiant fel carreg filltir ar gyfer addysg gydweithredol:

鈥淩oedd y daith amlddisgyblaethol i Graig y Nos gyda myfyrwyr 笔别苍蝉补别谤苍茂补别迟丑yr AmgylcheddFfotograffiaeth yn enghraifft wych o sut y ceir egni a mewnwelediad newydd drwy weithio ar draws rhaglenni. Y newyddion bod ein myfyrwyr wedi ennill y gystadleuaeth ryngwladol StuCAN oedd yr eisin ar y gacen. Rydyn ni’n hynod falch o’u cyflawniad.鈥

Mae’r t卯m buddugol wedi derbyn plac, gwobr ariannol o 拢200, a chopi o Materials: An Environmental Primer, a roddwyd yn hael gan Hattie Hartman, Golygydd Cynaliadwyedd The Architects鈥 Journal.

Mae posibiliadau cyffrous ar y gorwel. Ar hyn o bryd mae Architects Climate Action Network (ACAN) yn archwilio dichonoldeb gwireddu dyluniad 鈥楾angled Roots鈥 fel prosiect adeiledig, gan ddod 芒’r pencadlys gweithredu ar newid hinsawdd symudol yn fyw yng Nghraig y Nos - yn amodol ar sicrhau cyllid.

Dywedodd Ian Standen, Cyfarwyddwr Rhaglen 笔别苍蝉补别谤苍茂补别迟丑:

鈥淓drychwn ymlaen at weithio gyda StuCAN i wireddu’r dyluniad ar ffurf adeiledig, yn ddelfrydol yng Nghraig y Nos - lleoliad addas i gyfathrebu effeithiau cyhoeddus newid yn yr hinsawdd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut rydym yn paratoi ein myfyrwyr i wynebu heriau鈥檙 dyfodol gyda chreadigrwydd a hyder. Llongyfarchiadau i Luc Harris a Tom Williams ar y gamp eithriadol hon!鈥


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
贵蹿么苍:&苍产蝉辫;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon