Ҵý

Skip page header and navigation

Hawliodd timau Pêl-droed a Rygbi Dynion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) fuddugoliaeth yn rowndiau terfynol Tlws Cynhadledd Cynghrair Gorllewinol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ym Mhrifysgol Caerfaddon. 

Team photo of UWTSD rugby team 2025 with trophy

Mewn diwrnod llawn gyffro, enillodd tîm Rygbi Dynion PCYDDS 36-31 yn erbyn Prifysgol Hartpury.  O’r dechrau i’r diwedd, clasur o gêm oedd hon â’r naill dîm a’r llall ar y blaen ar sawl adeg. Gwrthododd y tîm dan arweiniad y capten ysbrydoledig Ben James ildio, gyda pherfformiadau rhagorol gan y garfan gyfan yn dangos gwytnwch mawr i sicrhau’r fuddugoliaeth.  Bu’r cefnogwyr yn dyst i ymrwymiad y tîm o wythnos i wythnos, ac mae eu dull o chwarae wedi esblygu drwy gydol y tymor.

Gwelwyd perfformiadau unigol nodedig gan Frasier Deer ac Iestyn Wood ymhlith y blaenwyr, Cian Trevelyan ymhlith y cefnwr a’r brodyr Potter, Sam a Noah, a reolodd y gêm o’r haneri.

Meddai Gareth Potter, Pennaeth Rygbi yn PCYDDS: 

“Roeddem wrth ein bodd â’r fuddugoliaeth yn enwedig gan nad oeddem wedi chwarae ein rygbi gorau yn y gêm derfynol, gyda gemau untro fel hyn, y canlyniad yw’r agwedd fwyaf pwysig bob amser.  Mae’n dangos sut mae’r garfan wedi datblygu o ran niferoedd ac ansawdd, sef y nod ar gyfer carfan rygbi’r Brifysgol dros y blynyddoedd nesaf.   Mae gennym rai chwaraewyr talentog iawn sy’n gweithio’n galed oddi ar y cau i baratoi’n iawn ar gyfer y gemau hyn ac mae wedi hyn wedi dangos gyda thymor rhagorol, gan arwain at y gêm hon.  Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau ein carfan ymhellach ar gyfer y tymor nesaf.” 

Yn dilyn llwyddiant y tîm rygbi, daeth tîm Pêl-droed y Dynion yn ôl yn gryf o golli 2-0 hanner amser yn erbyn Prifysgol Caerloyw i ennill 4-2.  

Brwydrodd y tîm dan arweiniad y capten ysbrydoledig Mathew Francis yn ôl yn wych, gyda pherfformiad penigamp gan yr holl garfan.  Daeth cyfraniadau allweddol gan y capten Francis, Tyler Caul a Kai Baker yng nghanol y cae, yn ogystal â Lucian Evans, Luke McDonald a Jaiden Rees a wnaeth gyfraniadau mawr i’r fuddugoliaeth.  

Meddai Rob Thomas, Pennaeth Pêl-droed PCYDDS: 

“Roeddem wrth ein bodd â’r fuddugoliaeth, yn enwedig gan fod gennym rai chwaraewyr allweddol ag anafiadau nad oedd yn gallu chwarae a hefyd gan nad oeddem wedi chwarae’n dda o gwbl yn yr hanner cyntaf! Mae’r ffaith bod y garfan wedi dod yn ôl yn gryf yn yr ail hanner yn dangos y gwytnwch y maent wedi’i ddatblygu drwy gydol y tymor.  Yn ogystal, mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol gan y bydd mwyafrif llethol y garfan yn dychwelyd y flwyddyn nesaf” 

Team photo of UWTSD Football team 2025 with trophy

Ychwanegodd Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

“Llongyfarchiadau mawr i’r ddau dîm, pwyllgorau’r clwb, yr hyfforddwyr, y staff cymorth ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’r berthynas waith rhwng y Clwb, Undeb y Myfyrwyr a’r Academi wedi bod yn wych ac mae’r canlyniadau ar y cae ac oddi arno wedi bod yn galonogol iawn ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Emma Morgan, Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr PCYDDS:  

“Hoffem longyfarch y ddau dîm ar berfformiadau gwych a ddwy fuddugoliaeth ardderchog! Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ddau dîm wedi tyfu a ffynnu gyda chymorth hyfforddwyr, staff cymorth a’r Academi Chwaraeon, ochr yn ochr ag ymroddiad ac ymrwymiad parhaus y myfyrwyr.   Rydym fel tîm yn gyffrous i weld y datblygiadau parhaus ar gyfer dyfodol timau Seintiau PCYDDS.”

Os oes gan unrhyw fyfyrwyr presennol neu ddarpar fyfyrwyr ddiddordeb mewn ymuno â’r Clwb Rygbi neu Bêl-droed yn y brifysgol, dyma’r fanylion cyswllt:

Clwb Rygbi (mae’r Brifysgol yn cynnig darpariaeth i Ddynion a Merched o bob gallu):  Cysylltwch â Gareth Potter G.potter@uwtsd.ac.uk  

Clwb Pêl-droed (mae’r Brifysgol yn cynnig darpariaeth i Ddynion a Merched o bob gallu):  Cysylltwch â Rob Thomas robert.thomas@uwtsd.ac.uk  


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon