密桃传媒

Skip page header and navigation

Gwnaeth myfyrwyr blwyddyn olaf Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant arddangos eu gwaith ym mhrif arddangosfa ddylunio y DU i raddedigion, New Designers, yn Llundain yn ddiweddar.

Mae deg o ferched ifanc yn gwenu ac yn sefyll tu 么l i stondin Coleg Celf Abertawe; mae samplau o ddefnydd patrymog yn cael eu harddangos tu 么l iddynt.

Mae sioe y New Designers yn ddigwyddiad hollbwysig yn y sector Dylunio mewn Addysg Uwch (AU), ac wedi’i rannu dros bythefnos yn ystod Mehefin a Gorffennaf bob blwyddyn. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sy’n graddio arddangos eu gwaith yn y Ganolfan Dylunio Busnes yn Islington ymhlith talentau blaenllaw eraill o brifysgolion ledled y wlad.

Roedd cynrychiolwyr o’r radd  BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau a鈥檙 radd  BA Crefftau Dylunio  yn y Drindod Dewi Sant yn bresennol yn wythnos gyntaf y sioe New Designers. Roedd ganddynt stondinau yn y brif Neuadd Decstilau a’r Parth Celf Cymhwysol, gyda lle i’r myfyrwyr arddangos gwaith ac i staff gynnal gweithdai ar gyfer ysgolion a cholegau oedd yn ymweld.

Mae’r digwyddiad, sydd wedi’i fynychu gan y Drindod Dewi Sant ers blynyddoedd lawer, yn denu sbectrwm eang o fynychwyr, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant Dylunio, y Wasg, a darpar fyfyrwyr prifysgol a fydd yn ffurfio鈥檙 genhedlaeth nesaf o ddylunwyr Prydeinig. Mae’r drefn hon yn cynnig cyfleoedd digyffelyb i arddangoswyr rwydweithio gyda phob sector o’r farchnad, gan ddarparu cyfle hanfodol i ehangu eu cynulleidfa.

Daeth myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau i gysylltiad ag enwau cyfarwydd megis Liberty a’r Amgueddfa Brydeinig, yn ogystal 芒 brandiau nad oeddent yn hysbys o’r blaen, a chyfarfod 芒 dylunwyr uchel eu parch fel Emma Shipley. Sicrhaodd rhai o’r myfyrwyr adolygiadau portffolio a lleoedd cyfyngedig ar sesiynau mentora gyda noddwyr swyddogol y  digwyddiad gan gynnwys Habitat, Hallmark ac awdur ac arweinydd cynaliadwyedd, Katie Tregidden.

Gwaith cerameg crom pinc gyda phatsys o fortar garw yn cynrychioli鈥檙 corff dynol; rhan o gyfres 鈥楨nemy or Friend鈥 Hannah Sharpe.

Dywedodd Safiyyah Altaf, myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau ar ei thrydedd flwyddyn yn y Drindod Dewi Sant: 鈥淩oedd yn agoriad llygad bod mewn amgylchedd mor wahanol i’r stiwdio. Roedd cael y cyfle i fagu hyder a bod yn agored i rannu fy syniadau drwy sgyrsiau gyda’r diwydiant yn werthfawr iawn.

鈥淭rwy ymgysylltu 芒’r cyhoedd gallwn glywed am yr hyn mae pobl yn chwilio amdano wrth addurno eu cartrefi 芒 chynhyrchion mewnol, oherwydd yn y pen draw, dyma’r bobl a fydd yn cefnogi’ch gwaith fwyaf.鈥

Ar y stondin Crefftau Dylunio, bu鈥檙 myfyrwyr yn siarad ag amrywiaeth o orielau crefftau mawreddog sydd 芒 diddordeb mewn arddangos eu gwaith, a chael tagiau 鈥榃e Love This鈥 gan gwmn茂au fel Stephen Webster Jewellery a Ceramic Review. Gwnaeth staff y Brifysgol adeiladu ar gysylltiadau 芒 sefydliadau eraill fel Goldsmiths, y Cyngor Crefftau a’r Gymdeithas Gemwaith Cyfoes, a fu鈥檔 gweithio鈥檔 ddiweddar gyda’r Drindod Dewi Sant ar gystadleuaeth briff byw.

Dywedodd Anna Lewis, Darlithydd BA mewn Crefftau Dylunio yn y Drindod Dewi Sant: 鈥淩oedd gwaith ein myfyrwyr yn edrych yn hynod broffesiynol a chafwyd sylwadau ei bod yn arddangosfa ragorol. Roedd amrywiaeth o waith yn cael ei arddangos mewn cerameg, gwydr a gemwaith a oedd yn amrywio o ran graddfa, techneg a chysyniad. Mae sioe y New Designers yn gam pwysig iawn, a dysgodd y myfyrwyr yn gyflym sut i fynegi eu gwaith i gynulleidfa allanol a gwneud llawer o gysylltiadau defnyddiol i’w dilyn.鈥

Yn ogystal ag arddangos gwaith ar y stondinau, dros y tair blynedd ddiwethaf mae staff o’r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau wedi cynnal gweithdai ar gyfer ymwelwyr o oedran ysgol a choleg. Mae’r rhain yn weithgareddau ymarferol a gynhelir mewn mannau cyhoeddus yn arddangosfa鈥檙 New Designers. Y gweithdy eleni oedd 鈥淥ff the Wall鈥, gweithdy papur wal 2D a 3D cydweithredol, gyda dros 120 o bobl ifanc wedi cymryd rhan.

Dywedodd Claire Savage, Darlithydd Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn y Drindod Dewi Sant a Llysgennad  INSPIRE : 鈥淢ae cynnal sesiynau ymarferol yn sioe y New Designers yn ein galluogi i ymgysylltu ag ysgolion a cholegau mewn gweithdai creadigol a siarad 芒 nhw am yrfaoedd yn y celfyddydau. Rydym yn eu cyflwyno i’r rhaglenni a’r cyfleusterau stiwdio gwych sydd ar gael yng Ngholeg Celf Abertawe, a鈥檙 drysau y bydd ein cyrsiau yn eu hagor iddynt yn y dyfodol.鈥

Merched ysgol mewn siacedi ysgol piws yn gwenu wrth ran o arddangosfa Patrwm Arwyneb a Thecstilau.

Nodyn i鈥檙 Golygydd

Yngl欧n 芒 New Designers:

Mae New Designers wedi bod yn arddangos gwaith egin dalent dylunio ers dros 35 mlynedd. Wedi鈥檌 sefydlu yn 1985, y digwyddiad hwn bellach yw arddangosfa mwyaf blaenllaw鈥檙 DU ar gyfer dylunwyr newydd, gan ddarparu llwyfan i filoedd o raddedigion arddangos eu gwaith a chysylltu 芒 gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Dros y blynyddoedd, mae New Designers wedi helpu i lansio gyrfaoedd llawer o ddylunwyr llwyddiannus, ac wedi sefydlu ei hun fel digwyddiad y mae鈥檔 rhaid ei fynychu ar gyfer unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn nyfodol dylunio.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a鈥檙 Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
贵蹿么苍:&苍产蝉辫;07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon