Ҵý

Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol ei champws yn Llambed.

Y cwad a’r ffynnon ar Gampws Llambed.

Cynhelir y cyfarfod ar 27 Chwefror 2025 am 7pm yn Neuadd Gelfyddydau’r Brifysgol a bydd Elin Jones, AS, yn cadeirio’r cyfarfod. 

Bydd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elwen Evans, KC ac uwch swyddogion yn cyflwyno cyd-destun y penderfyniad diweddar i drosglwyddo darpariaeth y Dyniaethau i gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin a byddant yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sector ledled y DU fel sail ar gyfer trafodaeth ar y dyfodol posibl i gampws Llambed.

Bydd y cyfarfod yn adeiladu ar y trafodaethau y mae’r Brifysgol wedi’u cynnal gyda chynrychiolwyr grwpiau rhanddeiliaid allweddol dros y misoedd diwethaf.  Y bwriad yw parhau â’r ymgysylltiad i archwilio ystod o weithgareddau hyfyw yn economaidd sy’n gysylltiedig ag addysg a fyddai’n dod â bywyd newydd, cynaliadwy i’r campws.

“Does dim amheuaeth bod penderfyniad y Brifysgol i drosglwyddo ei darpariaeth Dyniaethau o Lambed wedi achosi pryder mawr i ni yma yng Ngheredigion” meddai Elin Jones, AS, “ond rwy’n croesawu’r cyfle i weithio gyda’r Brifysgol i edrych i’r dyfodol a dod o hyd i ateb hyfyw fel y gallwn ddiogelu’r campws.  Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y campws i fynychu”.

Ychwanegodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor: “Rwy’n ddiolchgar i Elin Jones am gytuno i gadeirio’r cyfarfod hwn fel y gallwn barhau i gael trafodaethau ystyrlon ar ddyfodol y campws. 

“Roedd y penderfyniad i symud darpariaeth y Dyniaethau yn anodd ond yn angenrheidiol er mwyn diogelu’r ddisgyblaeth a diogelu profiad y myfyrwyr.  Rydym wedi bod yn glir nad yw’r Brifysgol yn cau campws Llanbedr Pont Steffan ond ei bod wrthi’n chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag addysg sy’n rhoi dyfodol mwy diogel iddo. 

“Y cyfarfod cyhoeddus yw’r cam nesaf yn ein proses ymgysylltu, ac rwy’n awyddus i archwilio syniadau ac awgrymiadau gyda’r rhai sydd wedi ymrwymo i lwyddiant campws Llambed a’r Brifysgol yn y dyfodol”.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon