Ҵý

Skip page header and navigation

Mae’r cyflwyniad gan UNESCO-MOST BRIDGES i ymchwiliad Senedd y DU ar Etifeddiaeth Amgylcheddol ac Economaidd Gorffennol Diwydiannol Cymru ɱ徱’i&Բ;.

Two coracle men on the river Towy as it gets darker

Mae’r cyfraniad, sy’n dwyn y teitl Straeon Arfordirol: Mynydd Cilfái (Abertawe) ac Afon Teifi fel Prosiectau o Adnewyddu Coetir Trefol ac Afonydd Cynhennus, yn seiliedig ar waith maes 2024 gyda Chwryglau Tywi fel rhan o’r prosiect TALES Arfordirol. Croesawodd yr Athro Louise Steel, Athro Archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Chyfarwyddwr Ymchwil: Canolfan UNESCO-MOST BRIDGES (DU) y newyddion, gan ddweud:

“Mae derbyn y cyflwyniad hwn yn tynnu sylw at arwyddocâd cydnabod a chadw treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol tirweddau ôl-ddiwydiannol Cymru. Mae’n galonogol gweld y safbwyntiau hyn yn llywio trafodaethau ar ddyfodol y safleoedd hyn o arwyddocâd hanesyddol.”

Mae’r ymchwiliad, a gynhelir gan y Pwyllgor Materion Cymreig, yn archwilio effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Cymru. Dros y ddwy ganrif ddiwethaf, mae diwydiannau echdynnol a thrwm wedi dylanwadu’n fawr ar dirwedd Cymru. Er bod llawer o’r diwydiannau hyn bellach wedi dirywio neu wedi dod i ben, mae eu heffeithiau ar gymunedau lleol yn parhau. Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig nawr yn ystyried sut i lywio eu hetifeddiaeth amgylcheddol a chymdeithasol yng nghyd-destun realiti economaidd yr 21ain ganrif.

Bydd ymchwil Coastal TALES i dreftadaeth anniriaethol cymunedau arfordirol de-orllewin Cymru yn cyfrannu at y drafodaeth hollbwysig hon. Mae canfyddiadau’n amlygu pwysigrwydd cydnabod tirweddau ôl-ddiwydiannol nid yn unig fel safleoedd ecolegol ond hefyd fel trysorau diwylliannol. Rhaid i ymdrechion adfer llwyddiannus a chynhwysol ddiogelu treftadaeth anniriaethol defnyddwyr traddodiadol a chymunedau lleol, gan sicrhau bod y rhai sydd â chysylltiadau cenhedlaeth â’r amgylcheddau hyn yn parhau i fod yn rhan annatod o’u rheolaeth a’u trawsnewid yn y dyfodol.

Pwysleisiodd yr Athro Steel ymhellach:

“Mae ymchwil o fewn Coastal TALES yn dangos yn gynyddol werth unigryw treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol a gwybodaeth draddodiadol wrth helpu cymunedau i arloesi, addasu, ac ymateb i ansicrwydd amgylcheddol. Trwy integreiddio’r safbwyntiau hyn i ymdrechion adfer, gellir creu dyfodol mwy cynhwysol a chynaliadwy.”

Mae menter BRIDGES yn rhaglen flaenoriaeth o fewn rhaglen Rheoli Trawsnewid Cymdeithasol (MOST) UNESCO. Mae’n meithrin ymchwil trawsddisgyblaethol, sy’n cynnwys y dyniaethau, sy’n mynd i’r afael â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs). Mae canolfan UNESCO-BRIDGES (DU), sydd wedi’i leoli yn PCYDDS, yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith hwn, gan gefnogi dulliau arloesol a chydweithredol o ymdrin â heriau amgylcheddol a chymdeithasol. Drwy’r fenter hon, mae lleisiau cymunedau lleol yn parhau’n ganolog i drafodaethau polisi, gan sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol a datblygu cynaliadwy yn mynd law yn llaw.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon