ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Gwneud yn fawr o’ch Diwrnod Agored

Gwneud yn fawr o’ch Diwrnod Agored

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i un o’n campysau. Rydym yn deall pa mor hanfodol yw Diwrnod Agored wrth eich helpu i wneud y penderfyniad pwysig ynglÅ·n â ble a beth i’w astudio. Mae’r rhaglen Diwrnod Agored hon wedi’i chynllunio i’ch tywys trwy’r digwyddiad, gan sicrhau eich bod yn barod ac yn gallu gwneud yn fawr o’ch ymweliad. Cewch fanylion o ran pwy i gwrdd â nhw, beth i’w weld, a sut i ofyn y cwestiynau sy’n bwysig i chi. 

Row of students walking and chatting

Cynllunio Eich Diwrnod

Cynllunio Eich Diwrnod 

Isod, rydym wedi amlinellu amserlen Diwrnod Agored nodweddiadol. P’un a ydych yn mynychu sgwrs neu’n chwilio am wybodaeth, bydd ein timau ar gael trwy gydol y dydd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am astudio gyda ni. 

  • Wedi i chi gofrestru, bydd lluniaeth ar gael. Manteisiwch ar y cyfle hwn i gwrdd â myfyrwyr presennol a staff a dechrau cael atebion i’ch cwestiynau. 

  • Mae ein Sgyrsiau Croeso yn gyflwyniad gwych i PCYDDS. Byddwch yn darganfod beth yw hoff beth ein myfyrwyr am astudio yma a pham fod PCYDDS yn lle delfrydol i ddilyn pwnc rydych yn angerddol amdano wrth baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. 

  • Rydym yn gwybod bod deall sut i ariannu eich astudiaethau yn hanfodol wrth wneud eich penderfyniad. Bydd ein tîm cyllid ar law i roi i chi drosolwg cynhwysfawr o gyllid myfyrwyr, gan eich helpu i ddeall yr opsiynau ariannu sydd ar gael a sut i’w cyrchu. 

  • I lawer o ymwelwyr, y sgyrsiau academaidd a’r teithiau o gwmpas y cyfleusterau yw uchafbwyntiau’r dydd. Dyma’ch cyfle i blymio’n ddyfnach i mewn i’ch dewis bwnc a dysgu rhagor am beth, ble a sut y cewch eich addysgu. Cewch hefyd weld y cyfleusterau sy’n helpu ein myfyrwyr i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd. 

  • Fe drefnwn ni ginio i chi. Yn ystod amser cinio, cymerwch amser i ymlacio, adfyfyrio ar weithgareddau’r bore, ac ystyried unrhyw gwestiynau pellach sydd gennych i’w gofyn yn y ffair wybodaeth neu yn ystod y teithiau campws a llety. 

  • Yn y prynhawn, bydd ein ffair wybodaeth ar agor. Yma, gallwch gwrdd â staff academaidd a gwahanol dimau gwasanaethau myfyrwyr sydd ar gael am sgyrsiau 1 i 1 i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

  • Yn sefydliad sy’n falch o’i Chymreictod, rydym yn dathlu’r iaith Gymraeg. P’un a ydych yn siarad Cymraeg, eisiau gwella eich sgiliau, neu mae gennych ddiddordeb mewn dysgu’r iaith, mae ein tîm yma i’ch helpu i archwilio’r cyfleoedd Cymraeg sydd ar gael i chi tra byddwch yn astudio gyda ni. 

  • I lawer o fyfyrwyr, mae llety’n un o’r agweddau pwysicaf ar fywyd prifysgol. Bydd ein Tîm Llety yn darparu gwybodaeth fanwl am eich opsiynau, p’un a fyddwch yn dewis byw yn ein neuaddau neu oddi ar y campws mewn llety pwrpasol i fyfyrwyr. 

  • Mae teithiau o gwmpas y campws yn rhan hanfodol o brofiad Diwrnodau Agored. Maent yn eich helpu i adnabod naws y campws, ei weld o safbwynt myfyriwr, ac archwilio ein cyfleusterau am y tro cyntaf. 

  • Mae gweld lle gallech chi fod yn byw yn ystod eich astudiaethau yn bwysig i lawer o ymwelwyr. Ar gampysau Caerfyrddin a Llambed, bydd y Tîm Llety a Llysgenhadon Myfyrwyr yn eich tywys o gwmpas y lleoedd y gallech chi eu galw’n gartref. 

    Abertawe a Chaerdydd 

    Anogir myfyrwyr sy’n mynychu Diwrnodau Agored Abertawe a Chaerdydd i siarad gyda’n tîm Llety a’r darparwyr preifat yn y ffair wybodaeth. Yma, gallwch drefnu ymweliadau ag amrywiaeth o lety i fyfyrwyr oddi ar y campws sydd ger ein campysau. 

Yma i Ateb Eich Cwestiynau

Yma i Ateb Eich Cwestiynau 

Reusable paragraph
Open Day Teams
General image of two girls at a desk

Pobl i Siarad gyda Nhw

Yn y diwrnod agored, fel arfer, bydd y timau a ganlyn ar gael i ateb eich cwestiynau: 

  • Timau Dysgu ac Addysgu 

  • Myfyrwyr Presennol 

  • Llety 

  • Cyllid Myfyrwyr 

  • Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

  • °Õî³¾&²Ô²ú²õ±è;³¢±ô±ð²õ¾±²¹²Ô³Ù&²Ô²ú²õ±è;

  • Cyfleoedd Byd-eang 

  • Tîm Cymorth Anabledd 

  • Gwasanaeth Gyrfaoedd 

  • Undeb y Myfyrwyr 

  • Cymorth Dysgu 

Dolenau Defnyddio

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglÅ·n â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Student Ambassadors outside Haywood House Cardiff

Teithio i Ddiwrnod Agored neu Noson Agored 

Mae mynychu Diwrnod Agored neu Noson Agored gyda ni yn hawdd, sut bynnag rydych chi’n bwriadu teithio. Mae cysylltiadau da i’n campysau mewn car, ar drên, bws neu feic, gan wneud eich taith yn syml.