ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Our Facilities

Ein Cyfleusterau

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), rydym yn cynnig amgylchedd dysgu unigryw a chyfoethog sy’n blaenoriaethu dosbarthiadau bach, pwrpasol, ac yn gadael lle i gymorth personol a chydweithio â chymheiriaid.

Wedi’u lleoli ar ein campws hanesyddol yn Llanbedr Pont Steffan (Llambed), lle dechreuodd addysg uwch yng Nghymru, gall myfyrwyr ar ein rhaglenni Hanes ac Archaeoleg ymgolli yn eu hastudiaethau academaidd wrth fwynhau harddwch naturiol eu hamgylchedd. 

Ochr yn ochr â chyfarpar arbenigol, mae gan fyfyrwyr fynediad at lyfrgell gynhwysfawr ac amrywiaeth o fannau astudio.

Our Facilities Include

Ein Cyfleusterau Hanes ac Archaeoleg

Mae campws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnig cyfoeth o gyfleusterau i fyfyrwyr sy’n astudio Hanes ac Archaeoleg. Mae’r adnoddau hyn wedi eu cynllunio i gefnogi rhagoriaeth academaidd a darparu profiad addysgol cynhwysfawr.

Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod o gyfarpar TG ac adnoddau helaeth Llyfrgell Llambed, sy’n cynnwys Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. 

Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer teithio ac astudiaethau rhyngwladol, gan gyfoethogi safbwyntiau byd-eang ein myfyrwyr.

Image of Lampeter campus with rugby ball sculpture commemorating 150 years of the sport in Wales
Image of people doing work in an archaeology lab

Labordai Archaeoleg

Yn Llambed, mae myfyrwyr yn elwa o labordai archaeoleg un pwrpas sydd ag offer a thechnoleg blaengar. 

Mae’r labordai hyn yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol, gan adael i fyfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â deunyddiau a thechnegau archeolegol. 

Mae’r amgylchedd arbenigol yn ddelfrydol ar gyfer cynnal ymchwil, dadansoddi arteffactau, ac ennill profiad ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa mewn archaeoleg.

Cyfoethogir y profiad trochol hwn ymhellach drwy gyfleoedd ar gyfer teithio ac astudiaethau rhyngwladol, sy’n ehangu safbwyntiau myfyrwyr a’u harbenigedd yn y maes.

Image of book from archives about Cambria before Wales

Adnoddau Ymchwil

Yn gartref i Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, ac yn un o brif adnoddau ymchwil academaidd Cymru, mae Llyfrgell Llambed yn rhoi mynediad i ystod o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr. 

Wedi eu casglu dros y 200 mlynedd diwethaf, mae casgliadau arbennig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnwys mwy na 35,000 o weithiau printiedig, wyth llawysgrif ganoloesol, tua 100 llawysgrif ôl-ganoloesol, a 69 incwnabwlwm. 

Yn ogystal, mae llyfrgell goffa Tony Brothers, a enwir ar ôl cyn-ddarlithydd yn y Clasuron yn PCYDDS, yn fan fach, sy’n llawn adnoddau defnyddiol y gall myfyrwyr ymgynghori â nhw, gan gynnwys y Lexicon Iconographicum Mythologiae Classicae.

  • Mae myfyrwyr campws Llambed PCYDDS yng nghanol hanes, ar, ac oddi ar, y campws.

    Mae campws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn arwyddocaol, a hynny yn bensaernïol ac yn hanesyddol. 

    Wedi’i sefydlu ym 1822 fel Coleg Dewi Sant, dyma’r sefydliad dyfarnu graddau hynaf yng Nghymru a’r trydydd hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt.

    Ar dir y campws, ceir mwnt Normanaidd o’r 11eg ganrif, Castell Llanbedr, a elwir hefyd yn Gastell Steffan, Amgueddfa Llambed, a gartrefir mewn hen borthordy, a chapel Fictoraidd trawiadol.

  • Ceir digonedd o atyniadau hanesyddol a naturiol, o gestyll i gildraethau, o gwmpas Llambed a thu hwnt.

    Ymhlith y lleoedd diddorol i ymweld â nhw mae Ystrad Fflur, yn abaty Sistersaidd o’r 12fed ganrif ym Mynyddoedd Cambria. Mae Ystrad Fflur, sy’n safle o arwyddocâd archeolegol, hanesyddol a diwylliannol mawr a leolir llai nag 20 milltir o’r campws, yn cynnig cyfleoedd ymchwil ymarferol.

    Ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, tua saith milltir i ffwrdd, y cynhaliwyd gweithgareddau mwyngloddio aur o gyfnod y Rhufeiniaid i’r 20fed ganrif.

  • Mae staff yn Llambed yn trefnu   cyfres Cymdeithas y Clasuron Llambed a Gorllewin Cymru.

    Mae’r gymdeithas yn cynnal sgyrsiau drwy gydol y flwyddyn academaidd sy’n gysylltiedig â hen hanes a’r Clasuron. Mae’r rhain yn cynnwys papurau gan ysgolheigion mewnol, ac eraill a leolir o gwmpas y DU.

    Anogir myfyrwyr i fynychu os oes ganddynt ddiddordeb yn unrhyw un o’r sgyrsiau.       
     

Bywyd Myfyrwyr Llambed

Oriel Gyfleusterau 

Campus Life

Images of students enjoying a disco

Bywyd ar Gampws Llambed

Wedi’i sefydlu yn 1822, campws Llambed yw un o sefydliadau dyfarnu graddau hynaf Cymru. Mae ei adeiladau hanesyddol a’i diroedd ffrwythlon yn creu lleoliad hardd, sy’n cyfuno hanes cyfoethog gyda diwylliant myfyrwyr bywiog. Mae’r archifau a chasgliadau llyfrgell yn cynnig adnoddau ymchwil unigryw. Yn Llambed, cewch fwynhau cymuned glos wedi’i chefnogi gan gyfleusterau modern, gan gynnwys darlithfeydd o’r radd flaenaf, mannau astudio arbenigol, a gwahanol gyfleusterau chwaraeon a hamdden. Mae straeon a chwedlau cyfoethog y campws yn ychwanegu swyn unigryw at brofiad myfyrwyr.