
Cyfleusterau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
Cyfleusterau
Cyfleusterau
Croeso i’r adran Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth, lle mae rhagoriaeth academaidd yn dod law yn llaw â phrofiad heb ei ail i fyfyrwyr. Gyda lleoliadau a golygfeydd bendigedig i bob cyfeiriad, mae ein prifysgol yn cynnig cyfleusterau blaengar yn ogystal ag amgylchedd dysgu cefnogol sydd wedi’u dylunio i feithrin eich brwdfrydedd dros ddiwydiannau dynamig lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Trwy gynnig hyfforddiant ymarferol mewn ceginau o safon broffesiynol, ystafelloedd efelychu twristiaeth a hamdden, teithiau maes a lleoliadau diwydiant difyr, bydd PCYDDS yn sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ragori yn eich gyrfa. Dewch atom ni i gychwyn ar daith o ddarganfod, o arloesi, ac o dwf proffesiynol yn un o feysydd mwyaf cyffrous y byd.
Ein Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys
Wedi’u lleoli ar gampws Abertawe, mae ein myfyrwyr Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn elwa o ystod eang o gyfleusterau eithriadol, gan gynnwys ystafell addysgu drochi, offer TG ardderchog, ac amgylchedd dysgu arloesol. Mae’r dosbarthiadau bach, pwrpasol yn sicrhau eu bod yn cael sylw personol, ac mae cymorth parhaus ar gael trwy fynediad 24/7 i’r llyfrgell. Yn ogystal, mae’r campws yn cynnig cysylltiadau a phrofiadau gwerthfawr gyda diwydiant, ac mae’r Hwb yn gwasanaethu fel canolfan ar gyfer adnoddau a gweithgareddau.

Profiad Astudio
Rydym yn cynnig lleoliadau astudio rhagorol a phrofiad dysgu cyfoethog i’n myfyrwyr. Mae gan ein campws ystafelloedd dosbarth modern, ceginau hyfforddi o safon y diwydiant, ac ystafelloedd efelychu pwrpasol ar gyfer hamdden a thwristiaeth. Mae’r rhain yn gyfleusterau sy’n efelychu amgylcheddau’r byd go iawn, sy’n roi cyfleoedd dysgu ymarferol i’n myfyrwyr. Mae bywyd ar y campws yn gyffrous, ac mae’r gymuned academaidd gefnogol yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael cyngor sy’n addas iddyn nhw fel unigolion yn ogystal â mynediad at yr adnoddau y byddan nhw eu hangen ar gyfer ffynnu yn y byd academaidd a’r byd proffesiynol.

Gyda ffocws ar ddiwydiant

Profiadau Myfyrwyr

Llyfrgell Fforwm

Yr Hwb

Cyflogadwyedd
Mae cyrsiau Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth PCYDDS yn canolbwyntio ar waith a chyflogadwyedd. Gan fod gennym gysylltiadau strategol â’r diwydiant, bydd ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd gwych i fynd ar leoliadau gwaith, i gael interniaethau, ac i wneud cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol blaenllaw. Mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio er mwyn integreiddio profiadau ymarferol gyda dysgu academaidd, gan sicrhau bydd graddedigion yn gallu bodloni gofynion y diwydiant. Trwy gyfuno theori ac ymarfer, rydym yn arfogi’n myfyrwyr â’r sgiliau, y wybodaeth, a’r hyder y bydd arnyn nhw eu hangen i ragori yn eu gyrfaoedd ac i addasu ac ymateb i natur ddynamig y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.

Archwilio

Cyfleusterau
Oriel Gyfleusterau
Discover Swansea Campus

Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.