
Cyfleusterau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona
Cyfleusterau
Cyfleusterau
Mae’r cwrs Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona yn cynnig addysg ddynamig a hollgynhwysol a fydd yn paratoi ein myfyrwyr am yrfaoedd llwyddiannus yn y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol. Yr hyn sy’n gwneud ein cyrsiau ni’n wahanol yw’r ffordd y mae’r addysg yn canolbwyntio ar y diwydiant, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn ennill sgiliau ymarferol y gallan nhw eu defnyddio’n uniongyrchol mewn amgylcheddau proffesiynol. Gyda chwricwlwm sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol gyda phrofiadau ymarferol, mae’r amgylchedd dysgu yn PCYDDS yn sicrhau bod ein myfyrwyr ar flaen o gad o ran arferion y gyfraith, troseddeg a phlismona. O wneud hyn, bydd ein myfyrwyr yn fwy deniadol i gyflogwyr a bydd ganddyn nhw’r gallu a’r arbenigedd i wneud cyfraniadau ystyrlon i gymdeithas.
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys
Wedi’u lleoli ar gampws Abertawe, caiff Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona eu haddysgu mewn amgylchedd dysgu arloesol sy’n cynnwys ystafell addysgu drochi ac offer a chymorth TG ardderchog. Mae myfyrwyr yn elwa o ddosbarthiadau bach, pwrpasol ac mae cymorth y llyfrgell ar gael bob awr o’r dydd. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynnig cysylltiadau a phrofiadau cryf gyda diwydiant, gan ddarparu cipolwg i mewn i’r sefyllfa waith yn y byd go iawn. At hyn, mae’r Hwb yn gweithredu fel canolfan ar gyfer adnoddau a gweithgareddau myfyrwyr

Profiad Dysgu Trochol
Mae PCYDDS yn gwneud defnydd o’i hystafell drochi arloesol i gyfoethogi addysgu’r Gyfraith, Troseddeg a Phlismona. Mae’r cyfleuster o’r radd flaenaf hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd rhan mewn efelychiadau realistig a dysgu seiliedig ar senarios, gan bontio’r bwlch rhwng theori ac arfer. Trwy ail-greu amgylcheddau a sefyllfaoedd yn y byd go iawn, mae’r ystafell drochi yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr, sy’n galluogi i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau meddwl creadigol a datrys problemau, a chael dealltwriaeth fanylach o’u meysydd. Mae’r dechnoleg arloesol hon yn sicrhau bod graddedigion PCYDDS yn cael eu paratoi’n dda ar gyfer heriau eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

The Hwb

Dosbarthiadau Addysgu Bach

Amrywiaeth o Offer TG ar Gael

Mannau Astudio

Dysgu Arloesol
Rydym yn defnyddio technegau dysgu arloesol er mwyn rhoi profiad addysg arbennig i fyfyrwyr y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona. Gan ddefnyddio technoleg flaengar a dulliau addysgu rhyngweithiol, mae ein rhaglenni’n cynnwys efelychiadau realiti rhithwir, astudiaethau achos digidol, a llwyfannau ar-lein cydweithredol. Mae’r cyfleusterau hyn yn cryfhau ymgysylltiad ein myfyrwyr yn ogystal â sicrhau eu bod yn ennill sgiliau ymarferol a dealltwriaeth drylwyr o’u meysydd, a’u bod yn barod i ddechrau ar yrfaoedd llwyddiannus ym meysydd newidiol y gyfraith a chyfiawnder troseddol.


Cydweithio
Mae ein cysylltiadau cryf â phartneriaid yn y diwydiant yn destun balchder mawr i ni, ac maen nhw’n cyfoethogi profiadau dysgu ein myfyrwyr ac yn gwella eu rhagolygon gyrfa. Trwy gydweithio â sefydliadau uchel eu parch fel Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed Powys, PACT, St Giles Trust, Y Gwasanaeth Prawf, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Blake Morgan, JCP, Goldstones, Peter Lyne and Partners, Watson and Gunn, Dinas a Sir Abertawe, a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae ein myfyrwyr yn cael cyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol yn y maes.
Oriel Gyfleusterau
Discover Swansea Campus

Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.