Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi cael ei gosod yn 1af yng Nghymru ar gyfer Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu (8fed yn y DU) ac ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr (11eg yn y DU) yng nghwobrau Whatuni Student Choice a gyhoeddwyd neithiwr.