ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Alison Rees Edwards BA, Dyst. Ôl-radd Addysgu (Agored), Dyst. Ôl-radd mewn Addysg Uwch

Llun a Chyflwyniad

Gyda silffoedd llyfrau y tu ôl iddi, mae Alison Rees Edwards sydd â gwallt tywyll byr ac yn gwisgo sbectol, yn edrych yn syth i mewn i’r camera.

Uwch Ddarlithydd

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


Ffôn: +44 (0) 1267 676615
E-bost: a.rees-edwards@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Rheolwr Rhaglen BA – rhaglen Hyblyg Llwybr Carlam dwy flynedd
  • Rheolwr Rhaglen MA – Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau’r Gymuned (cyfrwng Cymraeg)
  • Cydlynydd Lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar

Cefndir

Pan adawais i’r ysgol, magais i deulu cyn ystyried gyrfa. Wrth i fy mhlant ddechrau’r ysgol a’r Cylch Meithrin, astudiais ar gyfer BTEC mewn Astudiaethau Datblygu Plant yng Ngholeg Ceredigion, cyn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu. Yn ystod fy amser yn gweithio yn y lleoliadau hyn, cefais brofiadau amhrisiadwy o weithio gyda phlant ag amrywiaeth o anawsterau dysgu megis dyslecsia, dyspracsia a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. 

Yn 2005, penderfynais ymuno â’r radd BA Addysg Blynyddoedd Cynnar gan ddilyn y Llwybr Dysgu Hyblyg yma yn y Drindod. Roedd hyn yn golygu gweithio yn ystod y dydd ac astudio gyda’r nos. Enillais radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2008 ac ymunais â’r Brifysgol yn diwtor ar y prosiect Geiriau Bach. Yn ychwanegol, dyfarnwyd Cymrodoriaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru i mi a des i’n ddarlithydd yn Ysgol y Blynyddoedd Cynnar.

Yn 2013, enillais Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch yn ogystal â MA mewn Addysg y Blynyddoedd Cynnar. Yn 2015, enillais i Dystysgrif Ôl-raddedig o’r Brifysgol Agored.

Oherwydd fy niddordeb parhaus mewn niwroamrywiaeth, rwyf bellach yn fyfyriwr PhD, yn ymchwilio i rôl cynorthwywyr addysgu a sut maent yn cefnogi dysgwyr ag ADHD.

Aelod O

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – cyd Is-Gadeirydd presennol

Mudiad Meithrin – aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr

Diddordebau Academaidd

Mae gennyf ddiddordeb ym mhob agwedd o fywyd plentyn ifanc, gyda diddordeb arbennig mewn anghenion dysgu ychwanegol, niwroamrywiaeth a chaffael iaith.

Rwy’n darlithio ar sawl cwrs israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys themâu a phynciau megis:

  • Datblygu sgiliau academaidd llwyddiannus,
  • Ymarfer amlieithog yn y blynyddoedd cynnar,
  • Iaith a Llythrennedd yn yr oes ddigidol,
  • Cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol,
  • Arweinyddiaeth gynhwysol,
  • Iechyd a llesiant plant ifanc.

Yn ogystal, rwy’n goruchwylio traethodau Ã´l-raddedig.

Meysydd Ymchwil

Mae fy meysydd o ymchwil a diddordebau ymchwil yn cynnwys iaith a llythrennedd plant ifanc, gan gynnwys effaith adrodd straeon ar ddatblygiad iaith. 

Mae diddordeb gennyf mewn dwyieithrwydd, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a niwroamrywiaeth.

Rwyf wedi ymwneud ag ymchwil ar fuddion therapi cerddorol ar gyfer pobl ifanc ar y sbectrwm awtistig. 

Arbenigedd

  • Sgiliau astudio academaidd i fyfyrwyr
  • Datblygiad iaith plant ifanc
  • Llythrennedd cynnar
  • Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Niwroamrywiaeth
  • Dwyieithrwydd/Amlieithrwydd

Cyhoeddiadau

Rees Edwards, A. (2022) ‘Types of play’, in Waters-Davies, J. (ed.) Introduction to play. Llundain: SAGE Publications Ltd tt. 26–39.  

Greenway, C. W. a Rees Edwards, A. (2021) ‘’, British Journal of Special Education. 

Greenway, C. W. a Rees Edwards, A. (2021) ‘’, Gwerddon, 32, tt.7–25. 

Greenway, C. W. a Rees Edwards, A. (2020) ‘’, Australian Journal of Learning Difficulties, 25,1, tt. 31–49. 

Rees Edwards, A. a Ryder, N. (2018) ‘Cynhwysiant’, yn Ryder, N. (gol.). Cefnogi pob plentyn. Caerfyrddin: Cyhoeddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, tt. 29–41.  

Ryder, N. a Rees Edwards, A. (2018) ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’, yn Ryder, N. (gol.). Cefnogi pob plentyn. Caerfyrddin: Cyhoeddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, tt. 42–51