Ҵý

Skip page header and navigation

Dr Crystal Addey BA, MA, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Tiwtor yng Nghanolfan Sophia

Athrofa Addysg ’r Dyniaethau


E-bost: c.addey@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n diwtor yng Nghanolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant. Mae fy nghyfrifoldebau’n cynnwys llunio a chyflwyno’r modwl Cosmoleg, Hud a Dewiniaeth (AHAN7011) o fewn yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol, yn ogystal â chyfrannu at fodylau eraill a addysgir. Yn ogystal, rwy’n goruchwylio myfyrwyr traethawd hir MA ar bynciau sy’n ymwneud â defod, dewiniaeth, hud, crefydd ac athroniaeth Roegaidd-Rufeinig yn yr hen fyd.

Cefndir

Cwblheais radd BA (Anrhydedd) mewn Astudiaethau Clasurol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 2000 a gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Athroniaeth a Mytholeg yr Hen Fyd (yn Ysgol y Clasuron) ym Mhrifysgol Cymru, Llambed yn 2001. Ar ôl hyn, bûm yn gweithio am sawl blwyddyn cyn dechrau ar PhD yn y Clasuron (rhan amser) ym Mhrifysgol Bryste yn 2003, a’i gwblhau’n llwyddiannus yn 2009. 

Roeddwn yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd (yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd; 2009–2011, yn Gymrawd Addysgu yn y Clasuron ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2011–2013), ac yn Ddarlithydd yn y Clasuron ym Mhrifysgol St Andrews (2014–17). Fi oedd Cydlynydd Canolfan y Clasuron Dwyrain Llundain a Chydlynydd Prosiect Capital Classics (2013–14), rôl a oedd yn canolbwyntio ar waith Allgymorth i annog, hyrwyddo a chynorthwyo dysgu ac addysgu’r Clasuron a phynciau cysylltiedig yn ysgolion gwladol y DU. Rwy hefyd wedi gweithio i’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Caerdydd, yn addysgu ar y rhaglen Archwilio’r Gorffennol mewn Hanes ac Archaeoleg ers ei sefydlu.

Ar hyn o bryd rwy’n Gymrawd Ymchwil yn Ysgol y Clasuron ym Mhrifysgol St Andrews, ac rwyf wedi bod yn Diwtor yng Nghanolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant er 2008.

  • BA (Anrh) Astudiaethau Clasurol, Dosbarth Cyntaf (Anrh), Prifysgol Lerpwl 1997–2000
  • Meistr yn y Celfyddydau (MA): Athroniaeth a Mytholeg yr Hen Fyd, Prifysgol Cymru, Llambed
  • PhD yn y Clasuron (rhan amser), Prifysgol Bryste Oracles of the gods: The Role of Divination and Theurgy in the Philosophy of Porphyry and Iamblichus

Aelod O

Swyddog Allgymorth, Canolfan Astudiaethau Hynafol Hwyr Prifysgol St Andrews (2015–2017)

Aelod o Bwyllgor Llywio Canolfan y Clasuron Dwyrain Llundain a grŵp Ehangu Cyfranogiad Coleg Chweched Dosbarth BSix er 2015.

Trysorydd ac Aelod o Gymdeithas Helenaidd yr Alban, St Andrews (2014–2017): yn ogystal â gweithredu fel Trysorydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol a chyllideb y Gymdeithas. Hefyd fe wnes i gyd-drefnu’r rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau o 2014–17 (gyda Dr Nikoletta Manioti a Dr Kleanthis Mantzouranis). 

Aelod o Gymdeithas Ryngwladol Astudiaethau Neoblatonaidd (ISNS) er 2005.

Cymrodoriaethau Ymchwil a Phenodiadau Swyddogol (cyfredol a pharhaus)

  • 2017 – Cymrawd Ymchwil, Prifysgol St Andrews
     
  • 2015 – Etholwyd yn Gymrawd Ymchwil, Foro di Studi Avanzati Gaetano Massa, Rhufain, yr Eidal (Athrofa Ymchwil Gaetano Massa ar gyfer Astudiaeth Uwch y Dyniaethau)
     
  • 2014 – Etholwyd yn Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr, Cymdeithas Ryngwladol Astudiaethau Neoblatonaidd (ISNS) 
     
  • 2009 – Aelod Cyswllt o’r Ganolfan Crefydd a Diwylliant Hynafol Hwyr, Prifysgol Caerdydd

Diddordebau Academaidd

Yn rhyngddisgyblaethol eu natur, mae fy niddordebau academaidd mewn dewiniaeth, defod, crefydd ac athroniaeth yr hen fyd yn croestorri ac yn cysylltu’n eang â’r clasuron, hanes, athroniaeth, anthropoleg, astudiaethau ôl-drefedigaethol a hanes crefyddau.

Rwy wedi addysgu a chyd-addysgu ystod eang o fodylau yn y Clasuron, Hanes yr Hen Fyd ac Astudiaethau Crefyddol mewn sawl prifysgol (Prifysgol St Andrews, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant).

Yng Nghanolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant, rwy wedi llunio ac addysgu’r modwl MA Cosmoleg, Hud a Dewiniaeth er 2008. Rwy hefyd wedi cyd-addysgu’r modwl rhagarweiniol Cyflwyniad i Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol. Rwy hefyd wedi goruchwylio sawl myfyriwr aeddfed wrth iddynt gwblhau eu traethawd hir MA yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Ar hyn o bryd rwy’n goruchwylio myfyriwr PhD ym Mhrifysgol St Andrews sy’n gweithio ar yr ymdriniaeth o destunau defodol Neoblatonaidd ym marddoniaeth Jorge Luis Borges, Robert Graves a Suzanne Lilar.

Meysydd Ymchwil

Yn rhyngddisgyblaethol eu natur, mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys athroniaeth, llenyddiaeth, crefydd a diwylliant yr hen Roeg, gan gynnwys astudiaethau rhywedd (yn enwedig rhywedd ac athroniaeth yr hen fyd); oraclau Groegaidd, casgliadau oraclau a chrefydd yn y Roeg Glasurol, y cyfnod Ymerodrol Rhufeinig ’r cynfyd hwyr, yng nghyd-destun llenyddiaeth Groeg a hanes crefyddau ardal Môr y Canoldir; Plato, Neoblatoniaeth ’r ymdriniaeth o waith Homer, Plato a Socrates yn y cynfyd hwyr; theori lenyddol a diwylliant llyfrau hynafol, a hanes crefyddau. 

Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y cysylltiadau ’r croestoriadau rhwng crefydd ac athroniaeth yn niwylliannau’r hen Roeg a Rhufain ac mae llawer o’m hymchwil wedi canolbwyntio ar y berthynas rhwng oraclau, dewiniaeth ac athroniaeth hynafol yn y Cynfyd Hwyr. 

Yn fy monograff diweddar archwiliais rolau canolog oraclau a mathau eraill o ddewiniaeth mewn Neoblatoniaeth yn y Cynfyd Hwyr (Divination and Theurgy in Neoplatonism: Oracles of the gods, Farnham: Ashgate, 2014). Mae llawer o’m gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar athronwyr benywaidd yn y cynfyd ’r berthynas rhwng rhywedd ac athroniaeth yr hen fyd. Mae fy mhrosiectau cyfredol yn cynnwys gwaith ar rolau oraclau a chasgliadau oraclau yn ardal Môr y Canoldir yng nghyfnod yr hen fyd, gwaith ar athronwyr benywaidd a dewinesau yn y traddodiad Platonaidd, yn enwedig Neoblatoniaeth, a gwaith ar foeseg Neoblatonaidd.

Arbenigedd

Ar hyn o bryd rwy’n goruchwylio myfyriwr PhD ym Mhrifysgol St Andrews a myfyrwyr MA ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Rwy wedi ymgymryd â gwaith adolygu cymheiriaid ar gyfer cyhoeddwyr academaidd gan gynnwys Wiley-Blackwell (UDA), Gwasg Prifysgol Talaith Pennsylvania (UDA), Ashgate (DU) ’r cyfnodolion Ancient Philosophy ’r International Journal of the Platonic Tradition (Leiden-Boston: Brill).

Rwy wedi ymgymryd ag amrywiaeth o waith ysgol, allgymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn cynnwys cael fy mhenodi’n Swyddog Ysgolion ar gyfer Ysgol y Clasuron (2015–17) a Swyddog Allgymorth ar gyfer y Ganolfan Astudiaethau Hynafol Hwyr (2015–17) a Phrifysgol St Andrews. Rwy hefyd yn aelod o Bwyllgor Llywio Canolfan y Clasuron Dwyrain Llundain a grŵp Ehangu Cyfranogiad a Mynediad Coleg Chweched Dosbarth BSix er 2015.

Yn 2013–14, cefais fy mhenodi’n Gydlynydd Canolfan y Clasuron Dwyrain Llundain (wedi fy lleoli yng Ngholeg Chweched Dosbarth BSix) a Chydlynydd y Prosiect Capital Classics yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn, bûm yn gweithredu fel cynghorydd ar gyfer bwrdd Arholi OCR.

Roeddwn hefyd yn Drysorydd a Chyd-drefnydd y rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau (sgyrsiau, darlithoedd, dangosiadau ffilm a digwyddiadau eraill) ar gyfer Cymdeithas Helenaidd yr Alban, St Andrews rhwng 2014–2017.

Rwy wedi cyd-drefnu ystod o gynadleddau, gweithdai, cyfresi seminar a digwyddiadau eraill.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Rwy wedi ymgymryd ag amrywiaeth o waith ysgol, allgymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae hyn wedi cynnwys gweithio gydag ystod o brifysgolion, colegau, ysgolion, elusennau, orielau celf ac amgueddfeydd (yn ogystal â sefydliadau celfyddydol a diwylliannol eraill) i annog a hyrwyddo astudio’r Clasuron, hanes yr hen fyd, archaeoleg a phynciau cysylltiedig. 

Roeddwn yn Gydlynydd Canolfan y Clasuron Dwyrain Llundain a Chydlynydd y Prosiect Capital Classics (2013–14), rôl a oedd yn canolbwyntio ar waith Allgymorth i annog, hyrwyddo a chynorthwyo dysgu ac addysgu’r Clasuron a phynciau cysylltiedig mewn ysgolion gwladol yn y DU. 

Roedd hyn yn cynnwys trefnu a chynnal digwyddiadau ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd a chweched dosbarth, yn ogystal â threfnu a chynnal digwyddiadau hyfforddi athrawon a DPP yn y Clasuron, Hanes yr Hen Fyd a phynciau cysylltiedig i athrawon (mewn cydweithrediad ag ystod o brifysgolion, colegau, elusennau a sefydliadau diwylliannol). Yn ystod y cyfnod hwn, bûm yn gweithredu fel cynghorydd ar gyfer bwrdd Arholi OCR.

Rwy wedi ymgymryd â gwaith adolygu cymheiriaid ar gyfer cyhoeddwyr academaidd gan gynnwys Wiley-Blackwell (UDA), Gwasg Prifysgol Talaith Pennsylvania (UDA), Ashgate (DU) ’r cyfnodolion Ancient Philosophy ’r International Journal of the Platonic Tradition (Leiden-Boston: Brill).

Cyhoeddiadau

Monograff a Chyfrol wedi’i Golygu  

Divination and Systems of Knowledge in Greco-Roman Antiquity, golygwyd gan Crystal Addey a Victoria Leonard, New York-London: Routledge.

 “Divination and the Kairos in the Theurgic Ritual Practices of Late Antiquity,” yn Divination and Systems of Knowledge in Greco-Roman Antiquity, golygwyd gan Crystal Addey a Victoria Leonard. New York-London: Routledge.

(2014) Divination and Theurgy in Neoplatonism: Oracles of the gods, Ashgate Studies in Philosophy and Theology in Late Antiquity. Farnham: Ashgate, 2014.  Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2014. 352tt ISBN: 978-1-4096-5152-5. .

Penodau Llyfrau ac Erthyglau Cyfnodolion

Addey, Crystal; Fichera, Regina. “Sosipatra.” Yn Oxford Bibliographies in Classics. Gol. Dee Clayman. New York: Oxford University Press, 2017.

 “Sosipatra: Prophetess, Philosopher and Theurgist: Reflections on Divination and Epistemology in Late Antiquity,” yn Prophets and Profits: Problems in Ancient Divination and its Reception, golygwyd gan Richard Evans. London-New York: Routledge, 2017.

 “Plato’s Women Readers,” yn The Brill Companion to the Reception of Plato in Antiquity, golygwyd gan Harold Tarrant, Danielle Layne, Dirk Baltzly a Francois Renaud. Leiden-Boston: Brill, 2018.

(2017) “Dreams, Medicine and Healing in Late Antiquity: Oneiromancy (Dream Divination) in Porphyry’s Philosophy from Oracles,” yn Cura e encantamento: rito, mito e psicologia, golygwyd gan Edrisi Fernandes a Carlos Luciano Silva Cortinha. Brazil: Tanto Mar Editores.

(2014) “The daimonion of Socrates: Daimones and Divination in Neoplatonism,” yn The Neoplatonic Socrates: Essays in Late Antiquity and the Reception of Socrates, golygwyd gan Harold Tarrant a Danielle Layne. University Park, PA: the Pennsylvania State University Press, 51–72.

(2013) “Ecstasy between Divine and Human: Re-assessing Agency in Iamblichean Divination and Theurgy,” yn Literary, Philosophical and Religious Studies in the Platonic Tradition: Proceedings of the Seventh Annual International Society for Neoplatonic Studies Conference, golygwyd gan John F. Finamore a John Philips. Bonn: Academia Verlag, 7–24.

(2013) “In the Light of the Sphere: The Vehicle of the Soul and Subtle Body Practices in Neoplatonism,” yn Religion and the Subtle Body in Asia and the West: Between Mind and Body, golygwyd gan Geoffrey Samuel a Jay Johnston. London: Routledge, 149–167.

(2012) “Oracles of Orpheus?  The Orphic Gold Tablets,” International Journal of the Platonic Tradition 6:&Բ;115–127.

(2012) “The Role of Divine Providence, Will and Love in Iamblichus’ Theory of Theurgic Prayer and Religious Invocation,” yn Iamblichus and the Foundations of Platonism, golygwyd gan Eugene Afonasin, John Dillon a John Finamore. Leiden: Brill, 2012, 148–167.

(2011) “Assuming the Mantle of the Gods: ‘Unknowable’ Names and Invocations in Late Antique Theurgic Ritual,” yn (goln.), Sacred Words: Orality, Literacy and Religion, golygwyd gan A.P.M.H. Lardinois, J.H. Blok a M.G.M. van der Poel. Orality and Literacy in the Ancient World Volume 8Leiden: Brill, 2011, 279–294.

(2010) “Monotheism, Henotheism and Polytheism in Porphyry’s Philosophy from Oracles,” yn Monotheism in Late Antiquity Between Christians and Pagans, golygwyd gan Stephen Mitchell a Peter Van Nuffelen. Interdisciplinary Studies in Ancient Culture and Religion. Peeters: Leuven, 149–165.

(2010) “Divine Possession and Divination in the Graeco-Roman World: The Evidence from Iamblichus’ On the Mysteries,” yn Spirit Possession and Trance: New Interdisciplinary Perspectives, golygwyd gan Bettina E. Schmidt a Lucy Huskinson. London: Continuum, 171–185.

(2007) “Consulting the Oracle: The Mantic Art and its causation in Iamblichus’ De Mysteriis,” yn Metaphysical Patterns in Platonism: Ancient, Medieval, Renaissance and Modern Times, golygwyd gan John F. Finamore a Robert Berchman. New Orleans: University Press of the South, 73–87.

(2007) “Oracles, Religious Practices and Philosophy in Late Neoplatonism,” Practical Philosophy 8.2&Բ;(2007),&Բ;31–35.

(2007) “Oracles, Dreams and Astrology in Iamblichus’ De Mysteriis,” yn Seeing with Different Eyes: Essays on Astrology and Divination, golygwyd gan Angela Voss a Patrick Curry. Cambridge: Cambridge Scholars Press, 35–57.

(2007) “Mirrors and Divination: Catoptromancy, Oracles and Earth Goddesses in Antiquity”, yn The Book of the Mirror: An Interdisciplinary Collection exploring the Cultural Story of the Mirror, golygwyd gan Miranda Anderson. Cambridge: Cambridge Scholars Press, 32–46.

Adolygiadau Llyfrau a Geirfaoedd

(2015) Adolygiad llyfr: , golygwyd gan Giovanni Casadio a Patricia A. Johnston (Austin: University of Texas Press, 2009) yn International Journal of the Platonic Tradition 9.1 (2015), 114–17.
Fersiwn mynediad agored : 

(2013) Adolygiad llyfr: The Ancient Oracles: Making the Gods Speak, gan Richard Stoneman (New Haven and London: Yale University Press, 2011) yn Classical Review 63.1&Բ;(2013),&Բ;158–160.

(2011) Adolygiad llyfr: Iamblichus’ Letters, golygwyd gyda chyfieithiad ac esboniad gan John M. Dillon a Wolfgang Polleichtner (Atlanta: Society of Biblical Literature, 2010) yn International Journal of the Platonic Tradition 5.2&Բ;(2011),&Բ;321–323.

(2011) Adolygiad llyfr: One God: Pagan monotheism in the Roman Empire, golygwyd gan Stephen Mitchell a Peter Van Nuffelen (Cambridge: Cambridge University Press, 2010) yn Journal of Roman Studies 101&Բ;(2011),&Բ;259–261.

(2009) Geirfa, yn Stephen R.L. Clark a Panayiota Vassilopoulou (goln.), Late Antique Epistemology: Other Ways to Truth, Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan.

(2008) Adolygiad llyfr: Platonisms: Ancient, Modern and Postmodern, golygwyd gan Kevin Corrigan a John D. Turner (Leiden: Brill, 2007), yn International Journal of the Platonic Tradition 2.1&Բ;(2008),&Բ;88–92.

(2008) “Speaking with the gods: Oracles and Philosophy in the Ancient World,” Iris 6&Բ;(2008),&Բ;22–24.

Trefnu Cynadleddau a Seminarau

Cyfres Seminarau ar waith 2016–17 Canolfan Astudiaethau Hynafol Hwyr, Prifysgol St Andrews 

Cyd-drefnydd arweiniol (gyda Caroline Belanger)

Rhaglen Digwyddiadau Blynyddol Cymdeithas Helenaidd yr Alban, St Andrews, 2014–17, Prifysgol St Andrews

Cyd-drefnydd (gyda Dr Nikoletta Manioti a Dr Kleanthis Mantzouranis);

Cynhadledd Ryngwladol Ritual Dynamics in Late Antiquity (3 Mehefin 2015), Prifysgol St Andrews

Cyd-drefnydd arweiniol (gydag Eleonora Zeper)

Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Astudiaethau Neoblatonaidd 2013, Prifysgol Caerdydd

Cyd-drefnydd (gyd’r Athro Josef Lössl a Dr. Nicholas Baker-Brian)

The Power of Sacrifice: Gweithdy rhyngddisgyblaethol Contexts and Representations (18–19 Ionawr 2012), Prifysgol Caerdydd

Cyd-drefnydd (gyda Dr. Louise Child a Dr Simon Brodbeck)

Prif Ddarlithoedd

3ªs Jornadas Luso-Brasileira de Filosofia Antiga (3edd Gyngres Luso-Brasilaidd ar Athroniaeth yr Hen Fyd),

Prifysgol Minho, Braga, Portiwgal (18–21 Ionawr 2017)

Prif Ddarlith: Dreams, Medicine and Healing in Late Antiquity: Oneiromancy (Dream Divination) in Porphyry’s Philosophy from Oracles.

Papurau Gwadd a gyflwynwyd mewn Cynadleddau a Seminarau 2016–2017

2017   

Gweithdy rhyngddisgyblaethol: Religious Practices in Late Antiquity, Prifysgol Tübingen, yr Almaen (27–28 Hydref 2017)

Teitl papur: Oracle-collections and Religion in Late Antiquity: Porphyry’s Philosophy from Oracles and Letter to Anebo.

Trydedd Gynhadledd Flynyddol Fforwm Astudiaethau Uwch Gaetano Massa, Rhufain, yr Eidal: Renaissance, Ancient and Medieval Patterns: Philosophy, Theology, Aesthetics and Religion (27–30&Բ;Ѳ&Բ;2017)

Cadeirydd: Panel Metaffiseg

Arweinydd Trafodaeth Bord Gron: Ancient Religions, Theurgy and Cult

Seminar Ymchwil Athroniaeth yr Hen Fyd y Sefydliad Astudiaethau Clasurol, (30 Mawrth 2017)

Teitl papur: Divine Power, Immanence and Transcendence in the Philosophy of Plotinus, Porphyry and Iamblichus.

2016

Cynhadledd: Fortune et Réception des Textes Oraculaires dans l’Antiquité tardive et le monde medieval, Université libre de Bruxelles, Brussels, Gwlad Belg (5–6 Medi 2016)

Teitl Papur: Oracles of Fire: The Formation and Oracular Context of the Chaldean Oracles

Gweithdy: God and the gods in Late Antiquity – What Next? Prifysgol St Andrews (11 Gorffennaf 2016)

Teitl Papur: Sosipatra – Philosopher, Prophetess, Theurgist: Divination and Epistemology in Late Antiquity

Ail Gynhadledd Flynyddol Fforwm Astudiaethau Uwch Gaetano Massa, Rhufain, yr Eidal: Renaissance, Ancient and Medieval Patterns: Philosophy, Theology, Theurgy (23–25&Բ;Ѳ&Բ;2016)

Arweinydd Trafodaeth Bord Gron: Religious Themes in the Platonic Tradition from Antiquity to the Renaissance

Cadeirydd Panel: Patrymau Canoloesol 

Cynhadledd Engendering Time in the Ancient Mediterranean, Coleg Bates, Maine, UDA (29 Ebrill – 1 Mai 2016)

Teitl Papur: Sosipatra, Destiny and Death

Seminar Ymchwil, Adran Hanes, Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth, Prifysgol Fetropolitan Manceinion (18 Chwefror 2016)

Teitl Papur: ʱٴ’s&Բ;´dz&Բ;𲹻