Llun a Chyflwyniad

Rôl yn y Brifysgol
Rwy’n diwtor ar yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol, yn addysgu ar hyn o bryd ar fodylau’r Awyr a’r Seice a Daearyddiaeth Gysegredig. Rydw i hefyd yn goruchwylio myfyrwyr traethawd hir MA ac yn darparu Cymorth TG.
Cefndir
Rwy’n gweithio yn Ddarlithydd Cyfrifiadura mewn coleg yn Nulyn ac yn diwtor ar yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol. Rydw i hefyd yn Diwtor Dysgu O Bell ac Ar-lein gyda’r Gyfadran Astudiaethau Astrolegol ac yn Rheolwr TG iddynt.
Aelod O
- Cymdeithas Ewropeaidd Seryddiaeth mewn Diwylliant
- Aelod bwrdd o’r Gymdeithas Astrolegol
- Aelod o’r cyngor a thiwtor gyda’r Gyfadran Astudiaethau Astrolegol
Diddordebau Academaidd
Mae gen i BSc mewn Systemau Gwybodaeth, MSc mewn Gwybodeg Iechyd ac MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol. Teitl fy PhD (2016) oedd , ac rwy’n parhau i ddiddori yn y maes hwn, yn enwedig yn y newidiadau parhaus sy’n digwydd yn y gymuned astrolegol o ganlyniad i’r defnydd eang o’r cyfryngau cymdeithasol.
Prif ffocws y traethawd ymchwil oedd mater deuoliaeth yn gysylltiedig â’r rhyngrwyd ac mewn astroleg. Rwy’n darlithio ar ddeuoliaeth yn y modylau ‘Daearyddiaeth Gysegredig’ ac ‘Yr Awyr a’r Seice’. Ar y modwl ‘Yr Awyr a’r Seice’, rydw i hefyd yn darlithio ar waith C. G. Jung mewn perthynas ag astroleg a’r astrolegwr o’r 20fed ganrif, Alan Leo. Ar y modwl ‘Nenluniau’, rwy’n darlithio ar fytholeg Wyddelig a henebion Neolithig Gwyddelig, a’r cysylltiad rhwng y ddau.
Meysydd Ymchwil
Rwy’n rhan o ymchwil parhaus ym maes deuoliaeth, y Rhyngrwyd ac astroleg, mytholeg Wyddelig a henebion Neolithig Gwyddelig, Alan Leo, a C. G. Jung, gyda diddordeb arbennig yn y Liber Novus.
Cyhoeddiadau
‘Sacred Sky and Cyberspace’, yn The Inspiration of Astronomical Phenomena VI, gol. Enrico Maria Corsini, Astronomical Society of the Pacific, San Francisco, 2011.
‘The Enchanting Heavens’ yn Astronomy and Civilization in the New Enlightenment: Passions of the Skies, goln. Anna-Teresa Tymieniecka ac Attila Grandpierre, Springer, Efrog Newydd, 2011.
‘Cyberspace and the Sacred Sky’ yn Cosmologies: Proceedings of the Seventh Annual Sophia Conference 2009, gol. Nicholas Campion, Gwasg Canolfan Sophia, Llambed.
Gwybodaeth Bellach
Ers 2008, bûm yn ymwneud â gwaith trefnu Cynhadledd Flynyddol Canolfan Sophia yng Nghaerfaddon, ac ers 2016, Cynhadledd Ôl-raddedig Flynyddol Canolfan Sophia yn Llundain.