Ҵý

Skip page header and navigation

Dr Jenny Day BA, MA, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cymrawd Ymchwil 
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS)


Ffôn: 01970 636543 
E-bost: j.day@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Jenny Day yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan ers 2015, ac yn gweithio ar hyn o bryd ar brosiect ‘Barddoniaeth Myrddin’.

Mae hi’n dysgu ar y modiwlau ‘Cyflwyniad i Lenyddiaethau Celtaidd’ (HPCS4005) a ‘Canu Mawl yr Oesoedd Canol’ (HPCS5018), ac mae hi’n goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig.

Cefndir

Fel rhan o dîm prosiect ‘Barddoniaeth Myrddin’, a ariennir gan yr AHRC, mae Jenny wedi bod yn astudio ac yn golygu corpws o gerddi sydd heb gael llawer o sylw o’r blaen, sef y canu a briodolir i Fyrddin mewn llawysgrifau o’r bymthegfed ganrif i c.1800.

Bu’n gweithio cyn hynny ar brosiect ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd Canoloesol’ (AHRC). I’r prosiect hwn golygodd gerddi a ganodd Gutun Owain i ddau o abadau Glyn-y-groes yn y bymthegfed ganrif, gan archwilio’r hyn y mae’r rhain, ynghyd â cherddi eraill, yn ei ddweud wrthym am yr abaty Sistersaidd pwysig hwn.

Bu Jenny’n rhan o dîm golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru o 2013 i 2022, ac mae hi wedi gweithio hefyd ar nifer o brosiectau eraill y Ganolfan. Bu’n golygu ac yn cyfieithu bucheddau Martin o Tours, Dewi Sant a Mair o’r Aifft yn rhan o brosiect  (AHRC, 2015–17), ac ar gyfer y prosiect  (Leverhulme, 2017–18) bu’n casglu ac yn dadansoddi enwau lleoedd o Lyfr Llandaf sy’n ymwneud â dŵr, gan ddefnyddio’r rhain ar y cyd â ffynonellau llenyddol i archwilio sut y câi adnoddau dŵr eu defnyddio a’u canfod yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Ar gyfer prosiect ‘Barddoniaeth Guto’r Glyn’ (AHRC, 2008–2012), cyfrannodd hi at ddatblygiad y gwefannau  a ‘’. Mae ganddi ddiddordeb ymchwil ym maes rhyfel ac arfau yng Nghymru’r Oesoedd Canol hefyd, yn sgil ei hastudiaethau doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ‘.

Diddordebau Academaidd

  • ‘Cyflwyniad i Lenyddiaethau Celtaidd’ (HPCS4005)
  • ‘Canu Mawl yr Oesoedd Canol’ (HPCS5018)
  • Goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig

Meysydd Ymchwil

Un o brif ddiddordebau ymchwil Jenny yw barddoniaeth Gymraeg a’r hyn y gall ei ddatgelu ynghylch amryw agweddau ar fywyd yn yr Oesoedd Canol. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar bortread y beirdd o arfau ac arfwisgoedd mewn cerddi o wahanol gyfnodau, o’r ‘Gododdin’ i waith y cywyddwyr, ac yn ddiweddar mae hi wedi archwilio’r darlun o fynachlog ac ystadau ehangach Glyn-y-groes a geir yng ngherddi Gutun Owain a’i gydoeswyr.

Mae ganddi brofiad helaeth mewn golygu a chyfieithu rhyddiaith a barddoniaeth ganoloesol, a diddordeb arbennig yn y newidiadau sy’n digwydd o ganlyniad i gamddehongli, ailddehongli ac addasu wrth i destunau gael eu trosglwyddo. Ar gyfer prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ astudiodd hanes testunol bucheddau’r seintiau a sut y cawsant eu haddasu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, ac ar hyn o bryd, ar gyfer prosiect ‘Barddoniaeth Myrddin’, mae hi’n archwilio cydberthnasau cymhleth a chynnwys cyfnewidiol y cerddi darogan diweddarach.

Arbenigedd

  • Golygu a dehongli barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol a’r cyfnod Modern Cynnar
  • Beirdd ac ysgrifwyr yng Nghymru’r Oesoedd Canol a’r cyfnod Modern Cynnar
  • Ysgolheictod a mynachlogydd yng Nghymru’r Oesoedd Canol
  • Bucheddau’r seintiau a hanes eu cyltiau yng Nghymru
  • Arfau a rhyfel yn yr Oesoedd Canol

Cyhoeddiadau

  • , Cîteaux – Commentarii cistercienses, 73 (2022), ISSN 0009-7497, 255–76.
  • , yn David Parsons a Paul Russell (goln), Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses: Astudiaethau ar Seintiau Cymru (Aberystwyth, 2022), pennod 6.
  • , yn David Parsons a Paul Russell (goln), Seintiau Cymru, Sancti Cambrenses: Astudiaethau ar Seintiau Cymru (Aberystwyth, 2022), pennod 9.
  • ‘Buchedd Martin’ [golygiad newydd a chyfieithiad], (2020) 
  • , Dwned, 25 (2019), 11–45
  • , Dwned, 23 (2017), 41–77
  • , Llên Cymru, 40 (2017), 3–39
  • ‘Weapons and fighting in Y Gododdin’,&Բ;Studia Celtica XLIX (2015), 121–47
  • ‘Brigandines in two fifteenth-century request poems’,&Բ;Studia Celtica XLVII (2013), 167–82
  • “Arms of stone upon my grave”: weapons in the poetry of Guto’r Glyn’, yn Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis ac Ann Parry Owen (goln.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 2013), 233–81
  • ‘Shields in Welsh poetry up to c.1300: decoration, shape and significance’,&Բ;Studia Celtica XLV (2011), 27–52