ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Marie Pitson BA(Anrh), TAR (PCET), PGDip Ed, MA Add, CMI, SFHEA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd

Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd

Ffôn: 01792 482052 
E-bost: marie.pitson@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rheolwr Rhaglen ar gyfer yr MBA ac MA Arweinyddiaeth ar Gampws Busnes Abertawe.

Uwch Ddarlithydd Rheolaeth a Chyllid yn Ysgol Fusnes Abertawe, gan addysgu ar nifer o raglenni gan gynnwys yr MBA, MA Arweinyddiaeth, Peirianneg, Busnes a Chyfrifeg.

Yn fy rôl yn y Brifysgol, yn ogystal â datblygu ac ymgorffori gwahanol strategaethau addysgu i wella profiad myfyrwyr, mae fy mhrif ddiddordebau’n cysylltu â rôl a buddion lleoliad i wella cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion, a rôl adborth wrth hwyluso cynnydd dysgwyr.

Cefndir

Cyn dechrau fy rôl yn y Brifysgol, treuliais ddau ddegawd yn gweithio mewn rolau Cyfrifeg a Rheoli yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Am y deng mlynedd gyntaf roeddwn yn rheoli Adran Gyfrifon mewn Cwmni Peirianneg.  Yn dilyn hyn, symudais i ddatblygu’r adran gyfrifyddu o fewn Sefydliad Trydydd Sector, gan hyfforddi gwirfoddolwyr ar gyfer y gwahanol rolau yn yr adran.

Aelod O

  • Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch  
  • Y Sefydliad Rheolaeth Siartredig
  • Y Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol 
  • Aelod Cyswllt o’r Sefydliad Lletygarwch

Diddordebau Academaidd

Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ

  • TAR (PCET) Dysgu, Addysgu a’r Cwricwlwm (Lefelau 6 a 7)
  • TAR (PCET) Arwain a Rheoli mewn Addysg (Lefelau 6 a 7)
  • TAR (PCET) Mentor ac Aseswr Myfyrwyr 
  • Heriau Busnes Byd-eang
  • Materion Cyfoes mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
  • Materion Cyfoes mewn Rheoli Perfformiad
  • Cyllid i Reolwyr Busnes
  • Rheoli Newid a Sefydlogrwydd
  • Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol (Lefel 7) 
  • Goruchwyliwr Traethodau Hir MBA, MSc Adrodd Ariannol ac MA Arweinyddiaeth 

Israddedigion

  • Cyllid ar gyfer Busnes (Lefel 4)
  • Rheoli Perfformiad Ariannol (Lefel 5)  
  • Rheolaeth Ariannol ar gyfer y Diwydiant Gwestai (Lefel 5)
  • Cyfrifeg a Meddalwedd Cyfrifeg (Lefel 5)
  • Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio (Lefel 4)
  • Rheolaeth Peirianneg (Lefel 5)
  • Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol (Lefel 4)
  • Rheoli, Arloesi a Chynaliadwyedd (Lefel 5)
  • Egwyddorion Rheoli ar gyfer Sefydliadau Twristiaeth (Lefel 4)
  • Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Chwaraeon (Lefel 5)
  • Datblygu Arfer Proffesiynol (Lefel 5)
  • Lleoliad Diwydiannol ym maes Chwaraeon (Lefel 5)
  • Rheolaeth mewn Ymarfer (Lefel 5) 
  • Lleoliadau Diwydiannol (Busnes, Twristiaeth, Digwyddiadau) (Lefel 5)
  • Interniaeth Gymhwysol (Lefel 6) 
  • Diwylliant yn y Gweithle a’i Effaith ar Effeithlonrwydd Sefydliadol (Lefel 5)
  • Sgiliau Arwain Datblygol ar gyfer y Gweithle (Lefel 6)
  • Arwain a Gweithredu Newid yn y Gweithle (Lefel 6)
  • Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol (Lefel 6)
  • Datblygu Perthnasoedd a Chyflawniad yn y Gweithle (Lefel 5)
  • Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 6)  
  • Goruchwyliwr traethodau hir ar gyfer ymchwil sy’n gysylltiedig ag Arweinyddiaeth a Chyfrifeg (Lefel 6)

Meysydd Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil addysgeg yn ymwneud â rôl adborth wrth gefnogi cynnydd dysgwyr, gyda phwyslais arbennig ar fathemateg a modylau sy’n seiliedig ar gyfrifyddu. Mae hyn yn cysylltu’n agos â’m traethawd ymchwil Meistr a oedd yn canolbwyntio’n helaeth ar Asesu ar gyfer Dysgu a Datblygu Meddwl o fewn rhaglenni Addysg Uwch.

Mae fy niddordebau ymchwil eraill yn cynnwys rôl, buddion a thegwch darpariaeth lleoliadau o fewn AU. Mae ffocws pellach yn edrych ar sut mae lleoliadau’n cefnogi ac yn gwella cyflogadwyedd y myfyrwyr sy’n astudio ar y rhaglenni Chwaraeon, Twristiaeth, Digwyddiadau, Rheolaeth Busnes a Chyfrifeg. 

Ar hyn o bryd rwy’n astudio ar gyfer fy Noethuriaeth mewn Addysg. 

Arbenigedd

  • Cyfrifeg a Chyllid
  • Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
  • Lleoliad ac Interniaeth

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Rwyf wedi ymgymryd â sawl rôl ymgynghori sy’n ymwneud â chyflwyno prosesau cyfrifeg o fewn sefydliadau gwirfoddol. Rwyf hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd yn Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol, gyda ffocws ar arferion asesu.

Cyhoeddiadau

  • Khan, S. a Pitson, M. (2021), Transitioning to Higher Education – Cynhadledd Nexus Plus, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe, Gorffennaf    
  • Pitson, M. (2022), Overcoming Challenges in Recruiting Student Participants for Online Action Research, SRM Doing Research Online Cases, [Ar-lein] UK: Sage