ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Natasha Young BA, PGCertHE

Llun a Chyflwyniad

Gan wisgo sbectol, mae Natasha Young sydd â gwallt coch hir yn gwenu tuag at y camera.

Darlithydd Blynyddoedd Cynnar a Rheolwr Rhaglen

Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: n.young@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 655404

Rôl yn y Brifysgol

Mae Natasha yn ddarlithydd Blynyddoedd Cynnar ar raglenni Addysg Blynyddoedd Cynnar a Gofal yn y Brifysgol. Yn ogystal, mae’n rheolwr rhaglen ar gyfer y radd BA israddedig dair blynedd draddodiadol, gyda Statws Ymarferydd a heb Statws Ymarferydd. Mae’r rolau hyn yn cynnwys holl agweddau ar gynnal rhaglen Addysg Uwch o ddydd-i-ddydd.

Mae diddordebau ymchwil Natasha yn ymwneud ag addysgegau yn seiliedig ar chwarae, diogelu a datblygu dull mwy cydweithredol o lunio polisi yng Nghymru. 

Cefndir

Mae gan Natasha brofiad helaeth yn y sector plentyndod cynnar a gofal, ar ôl gweithio yn y sector nas cynhelir a’r sector gwirfoddol mewn ysgolion.   Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys rheolwr lleoliad meithrin cyfrwng Cymraeg yn ogystal â fel gwarchodwr plant. 

Mae gan Natasha radd ddosbarth cyntaf mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar a Gofal a Gradd ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch.  Ar hyn o bryd mae yn ei ail flwyddyn o astudio ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned. Mae Natasha wedi bod yn ymwneud yn weithredol â dylunio’r cwricwlwm gyda Llywodraeth Cymru ac yn ymroddedig i godi pwysigrwydd ac effeithlonrwydd cydweithio wrth lunio polisïau.  Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb mewn codi ymwybyddiaeth o’r dirwedd diogelu sy’n esblygu’n barhaus yng Nghymru a’r DU. 

Diddordebau Academaidd

Mae Natasha yn cydlynu ac yn dysgu ar ystod eang o fodylau israddedig, gan gynnwys Chwarae, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Mathemateg a Gwyddoniaeth a’r Awyr Agored, a Datblygiad Dynol. Ei meysydd o ddiddordeb ac arbenigedd penodol yw diogelu, addysgegau chwarae, ac elfennau arweinyddiaeth megis effaith darpariaeth o ansawdd a gwaith tîm.

Meysydd Ymchwil

Mae Natasha yn newydd i faes ymchwil, ond mae ganddi ddiddordeb mawr yn rôl chwarae a diogelu.  Yn ddiweddar, mae hi wedi dechrau ymddiddori yn y defnydd o ddadansoddi sgwrs fel methodoleg a’i ddefnyddio i nodi a dadansoddi manylion rhyngweithio sy’n cefnogi datblygiad plant. 

Arbenigedd

Mae Natasha wedi cyfrannu at grwpiau gwaith Llywodraeth Cymru, gan ddatblygu canllawiau dysgu galluogi’r blynyddoedd cynnar ar gyfer Cwricwlwm Newydd Cymru a llywio’r cwricwlwm ar gyfer y sector nas cynhelir a ariennir.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

  • Cynrychiolydd PCYDDS ar gyfer ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drefniadau Asesu ar gyfer Lleoliadau Meithrin nas Gynhelir a Ariennir. 
  • Cyfrannwr at restrau chwarae ac adnoddau Llywodraeth Cymru i’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin Nas Gynhelir a Ariennir.
  • Cyd-gyflwynydd dysgu proffesiynol pwrpasol ar gyfer y blynyddoedd cynnar ar ffurf Meddwl ar y Cyd Parhaus 
  • Ymchwilydd ar dîm ymchwil Meddwl ar y Cyd Parhaus yn PCYDDS, gan gyfrannu at brosiectau ymchwil cyfredol yn y maes hwn.

Gwybodaeth bellach

Mae Natasha wedi cyflwyno yng nghynhadledd EECERA yn ymwneud ag ymchwil.