Ҵý

Skip page header and navigation

Bydd myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA)  Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno’r sioe gerdd bwerus gan Mal Pope yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar 27 a 28 Mehefin 2025. Wedi’i chyfarwyddo gan Angharad Lee, mae’r cynhyrchiad yn adrodd hanes trawiadol Evan Roberts a’i rôl yn arwain Diwygiad Crefyddol Cymru ym 1904.

Amazing Grace Poster

Mae’r sioe yn cyflwyno stori ddirdynnol am ffydd, aberth a gobaith, drwy lygaid W.T. Stead, newyddiadurwr blaenllaw’r Sunday Times ac ymgyrchydd heddwch, gyda chefnlen gerddorol gyfoethog gan Mal Pope ac emynau Cymreig adnabyddus.

Wedi’i lleoli yn Llwchwr, mae Amazing Grace yn dilyn profiadau Evan Roberts yn derbyn galwad ysbrydol dwys, a’i daith ddirdynnol o wrthod i ogoniant, wrth i’w neges ysbrydoli dros hanner miliwn o bobl ledled y byd. Mae’r cynhyrchiad yn ddathliad o hanes Cymru ac o egni’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr.

Meddai Jona Milone, myfyriwr sy’n chwarae rhan Evan Roberts:

“Roedd yr her o wynebu sioe gerdd fywgraffyddol, lle rwy’n chwarae rhan dyn y gellir dadlau iddo chwyldroi Cristnogaeth yr 20fed ganrif o fewn Cymru (ac i raddau yn fyd-eang) yn frawychus a dweud y lleiaf.

“I dalu gwrogaeth i ddyn a gyffyrddodd â chymaint o fywydau, mae rhai o’r rhai sy’n dal i’w gofio, a’i effaith heddiw, yn sicr yn bwysau. 

“Serch hynny, mae’n sicr yn anrhydedd i ‘adfywio’ y Sioe Gerdd Gymreig hon gan Mal Pope, ar adeg yn y byd llawn rhwyg a chasineb: a dwyn i gof y gŵr a soniodd am gydraddoldeb, cariad a charedigrwydd, sy’n teimlo ar goll yn y gymdeithas sydd ohoni. 

“Pan fo crefydd fodern yn destun cynnen yn fyd-eang, roedd hi mor braf dychwelyd i gyfnod pan oedd yn hytrach yn bont ar gyfer cymuned, cefnogaeth a chariad. Mae hefyd wedi bod yn wirioneddol ryfeddol ymchwilio a deall rhan mor fawr o Hanes Cymru nad oeddwn yn ymwybodol ohoni o’r blaen.

“Mae Evan Roberts wedi bod yn ganllaw anhygoel i mi werthfawrogi crefydd a oedd wedi teimlo’n estron neu’n elyniaethus tuag ataf yn flaenorol – a hynny diolch i sgript Pope ochr yn ochr â chyfarwyddyd a mentora anhygoel Angharad Lee. Gellir dadlau bod stori Roberts yn un o drasiedi, roedd ei lwybr yn anodd a heriol, ac mae wedi bod yn ysbrydoledig gwylio, ac i raddau, byw, ei daith ers 5 wythnos: yn profi ei frwydr, yn teimlo ei rwystredigaeth ac yn archwilio ei gariad at Dduw a’i gyd-ddyn. Yn ogystal, mae wedi bod yn hynod ddiddorol archwilio ‘dynoliaeth’ dyn sy’n cael ei barchu gan filoedd: gweld ei frwydr â ffydd a chariad, yr adlach aruthrol a wynebodd, a’r galar a’r golled a brofodd. 

“Mae’r sioe gerdd wedi caniatáu sgwrs rhwng y cast hwn o bobl ifanc i ddeall crefydd yn well o fewn llygaid ein cenhedlaeth a deall ei thaith o 1904 hyd heddiw yn well. Rwy’n ddiolchgar i’r tîm creadigol cyfan am eu hymroddiad a’u cefnogaeth ac am allu dangos ochr newydd i daith Evans.”

Dywedodd Angharad Lee, Cyfarwyddwr y Sioe:

“Rydyn ni mewn lle heriol yn y byd ar hyn o bryd yn wleidyddol, gyda sut mae crefydd yn cael ei arfogi. Dydw i ddim yn grefyddol fy hun, ond rydw i’n bendant wedi dod yn fwy ysbrydol wrth i mi fynd yn hŷn, a p’un a ydych chi’n ysbrydol neu’n grefyddol ai peidio, rwy’n meddwl mai ymdeimlad o gymuned yw’r hyn sy’n ysbrydoli, a dwi’n meddwl mai dyna rydyn ni wedi bod yn ceisio ei annog yma, a gallwn ni i gyd gefnogi’n gilydd hyd yn oed os oes gyda ni farn gwahanol ar bethau, ac rwy’n credu fod hynny wedi ei anghofio mewn cymdeithas bellach. 

“ Mae graddfa’r sioe gerdd yn eithaf helaeth, mae’n eithaf episodig. Y wobr fwyaf i mi yw ein bod ni mewn lleoliad addysgol, ac mae bob amser yn bwysig i mi gofio hynny pan fyddaf yn cyfarwyddo sioe yn y brifysgol. Mae’n hyfryd nodi datblygiad a gweld rai unigolion mewn goleuni hollol wahanol a sylweddoli eu bod wedi gwneud naid enfawr yn ystod eu cyfnod fel myfyrwyr. Dyna ein gwaith ni yma – annog ein myfyrwyr i gredu yn eu hunain a’r llwybr sydd o’u blaenau, a phan maen nhw’n cyrraedd y fan honno, dyna’r wobr i mi bob tro.”

Ychwanegodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

“ Amazing Grace, ein sioe diwedd blwyddyn, fel bob blwyddyn, yw uchafbwynt unrhyw fyfyriwr. Dyma lle rydyn ni’n eu gweld yn rhoi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar waith cyn symud ymlaen i borfeydd newydd.

“Mae’n anrhydedd gweld y myfyrwyr yn dod i’r brig gyda phob cynhyrchiad, ac eleni mae’r sioe hon yn wirioneddol adlewyrchu eu dawn, eu hangerdd a’r hyn maent wedi’i ddysgu.”

I archebu tocynnau ar gyfer y sioe, archebwch


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon